
YSTRAD CARON
CYFEIRNOD GRID: SN 674603
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 273.4
Cefndir Hanesyddol
Mae’n debyg bod yr ardal hon o gerlan i’r
gorllewin o Dregaron yn cynnwys tiroedd a roddwyd i dref Tregaron a’i
bod yn gweithredu fel cae neu dir comin isranedig, er na wnaed unrhyw
ymchwil i ategu hyn. Erbyn diwedd y 18fed ganrif roedd y tir wedi’i
rannu rhwng nifer o ystadau mawr: Nanteos, Trawscoed ac ystad Thomas Johnes
yn Llanfair Clydogau. Er mwyn eglurder mae’n haws rhannu’r
disgrifiad o’r ardal hon yn ardaloedd llai o faint yn seiliedig
yn fras ar ffiniau ffermydd.
Dengys map ystad dyddiedig 1819 (LlGC Cyf 45; 54) ffermdy
Ystrad Caron gydag un cae bach, wedi’u osod mewn tir agored ac yn
dwyn yr enw ‘Ystrad’. O fewn y tir agored hwn dangosir ychydig
o gaeau bach gerllaw’r afon i’r de o Ystrad Caron. Maent yn
perthyn i nifer o ddaliadau gwahanol.
I’r dwyrain o Dregaron dangosir y tir ym 1819 wedi’i
barselu i ffurfio’r system o gaeau rheolaidd eu siâp sy’n
bodoli heddiw. Dengys map arall dyddiedig 1819 (LlGC Cyf 36; 147) fod
y system o gaeau rheolaidd i’r gogledd o’r dref wedi’i
chynllunio erbyn y dyddiad hwn, ac i’r caeau mawr hyn gael eu hisrannu
ymhellach yn y 19eg ganrif.
I’r gogledd ar gyrion Cors Caron roedd patrwm o
gaeau wedi’i sefydlu’n gadarn erbyn 1808 (LlGC Nanteos 216).
Dengys map ystad dyddiedig 1791 (LlGC Cyf 36; 147) fod ffin i’r
gogledd o’r dref newydd ei gosod. Fodd bynnag, mae’n anodd
cysoni’r ffin hon â’r dirwedd fodern.
Dengys yr un map (LlGC Cyf 36; 147) fferm Pen-y-bont
yng nghanol caeau bach, afreolaidd eu siâp a’r patrwm presennol
o gaeau rheolaidd, mwy o faint ymhellach allan.
Erbyn 1845 (Map Degwm a Rhaniad Caron) roedd y system
gaeau a welir heddiw ar draws y dirwedd gyfan hon wedi’i chwblhau.
Dengys tystiolaeth mapiau ystad a’r patrwm o gaeau
rheolaidd o faint canolig fod yr ardal hon i raddau helaeth yn agored
tan y 18fed ganrif, ac mai dim ond yn ystod y cyfnod rhwng dechrau a chanol
y 19eg ganrif y cafodd ei hamgáu’n llawn. Nid yw’n
hawdd esbonio pam bod llain gymharol fawr o dir amaeth gwastad, bras,
agored i’w chael ar gyrion Tregaron, o leiaf tan 1819. Efallai mai
tir comin ydoedd a oedd wedi dod i feddiant ystad Nanteos ac a oedd wedi’i
amgáu ar ôl hynny, neu efallai mai hen system o gaeau isranedig
ydoedd a oedd wedi’i hymgorffori mewn ychydig o ddaliadau, ond nad
oedd wedi’i hamgáu tan y 18fed ganrif. Mae’n amlwg
bod fferm Pen-y-bont yn hþn, ac mae’r adeilad presennol yn
dyddio o hanner cyntaf yr 17eg ganrif (Lloyd-Johnes 1952-55, 170), ond
nid yw’n hysbys p’un a gafodd ei sefydlu yn yr 16eg ganrif
neu a yw’n hþn na hynny. Fferm sylweddol ydyw a oedd yn rhan
o ystad Herbert yn wreiddiol (bu’r teulu Herbert o Gastell Powys
wrthi’n rheibus yn cael gafael ar eiddo yng Ngheredigion yn yr 16eg
ganrif). Fe’i trosglwyddwyd i ddwylo Thomas Johnes a bu’n
gartref i John Jones, asiant Thomas Johnes ar ystad yr Hafod yn y 18fed
ganrif (Rees 1936, 54).
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae hon yn llain o gaeau rheolaidd, o faint canolig,
ar un o gerlannau Afon Caron ac Afon Teifi, i’r dwyrain ac i’r
gogledd o Dregaron, rhwng 160 i 170m. Tir pori wedi’i wella a geir
yn bennaf, ac i bob pwrpas nid oes unrhyw dir pori heb ei wella nac unrhyw
dir pori garw. Rhennir y caeau gan gloddiau ac arnynt wrychoedd. Ar ochr
orllewinol yr ardal mae’r gwrychoedd mewn cyflwr da a chânt
eu cynnal a’u cadw’n dda, ond tua’r ochr ogledd-ddwyreiniol
mae’r gwrychoedd mewn cyflwr gwaeth ac maent wedi’u hesgeuluso
hyd yn oed, ac maent wedi’u disodli gan ffensys gwifrau. Yma mae’r
cloddiau yn llai sylweddol hefyd nag ydynt i’r gorllewin. Mae ffermdy
Pen-y-bont yn adeilad trillawr, wedi’i adeiladu o gerrig, yn yr
arddull Sioraidd, y mae ei waliau wedi’u plastro. Mae’n debyg
ei fod yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif,
ond efallai ei fod yn ymgorffori elfennau cynharach. Dyma un o’r
ffermdai mwyaf yn ucheldir Ceredigion. Mae ganddo amrywiaeth eang o adeiladau
allan traddodiadol wedi’u hadeiladu o gerrig ac adeiladau amaethyddol
modern mawr. Mae gan y fferm bwysig arall yn yr ardal hon adeiladau fferm
helaeth hefyd. Mae hen linell reilffordd - sef Rheilffordd Milford Manceinion
a agorodd ym 1866 - yn rhedeg ar draws ochr orllewinol yr ardal hon o’r
gogledd i’r de.
Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys adeiladau
sy’n sefyll.
Mae i’r ardal dirwedd hon ffiniau pendant ac eithrio
i’r gogledd-orllewin. I’r gogledd ceir Cors Caron, lleolir
tref Tregaron i’r de-orllewin ac Afon Teifi i’r gorllewin.
Ar ei hochr ogledd-orllewinol mae’r ardal yn raddol ymdoddi i’r
ardal sy’n ffinio â hi.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |