![SYSTEM GAEAU YSBYTY YSTWYTH](webphotos/ysbytyystwythfieldsystem.jpg)
SYSTEM GAEAU YSBYTY YSTWYTH
CYFEIRNOD GRID: SN 731710
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 34.8
Cefndir Hanesyddol
Mae hanes yr ardal hon yn y Cyfnod Canoloesol yn ansicr.
Am fod Eglwys Ysbyty Ystwyth wedi’i chysegru i Sant Ioan Fedyddiwr
ystyriwyd bod y plwyf ym meddiant Marchogion yr Ysbyty, ond mae’n
fwy tebygol efallai ei fod yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur, efallai mewn
un o faenorau’r abaty (Ludlow 1998). Fodd bynnag, nid oes gennym
unrhyw wybodaeth sicr am yr ardal hon tan ddiwedd y 18fed ganrif pan ddengys
map ystad (LlGC Trawscoed Cyf 1) – ‘Map o Diroedd Cymysg Sputty’
– yr ardal gyfan fel cae isranedig neu lain-gae, heb unrhyw ffiniau
mewnol amlwg. Dyma’r unig dystiolaeth bendant o system gaeau âr
isranedig o fewn ardal astudiaeth Ucheldir Ceredigion. Cymerir yn ganiataol
mai dyma oedd y cae neu’r rhan o gae a oedd ar ôl o system
llawer mwy nad oedd yn cael ei defnyddio bellach erbyn diwedd y 18fed
ganrif, ac a oedd wedi’i chyfuno a’i hamgáu wedyn.
Erbyn yr arolwg degwm (Map Degwm a Rhaniad Sputty Ystwyth, 1848) roedd
y caeau isranedig a ddangosir ar y map o’r ystad wedi’u cyfuno
ac wedi’u hamgáu i ffurfio’r dirwedd sy’n bodoli
heddiw. Nid oes unrhyw dystiolaeth ar yr wyneb sydd wedi goroesi i ddangos
bod system o gaeau isranedig yn bodoli gynt, ac nid yw’r map degwm
yn rhoi unrhyw arwydd ei bod yn arfer bodoli.
![SYSTEM GAEAU YSBYTY YSTWYTH](webphotos/ysbytyystwythfieldsystem2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae hon yn llain fach o dir tonnog rhwng 210m a 250m,
i’r de o bentref Ysbyty Ystwyth, sydd wedi’i disgrifio yn
ôl tystiolaeth mapiau hanesyddol. Rhennir yr ardal yn gaeau bach
afreolaidd eu siâp gan gloddiau neu gloddiau cerrig a phridd ac
arnynt wrychoedd. Cliriwyd rhai gwrychoedd ac mae eraill wedi’u
hesgeuluso, ac mae ffensys gwifrau wedi’u hychwanegu at y mwyafrif
ohonynt. Erbyn hyn mae planhigfeydd o goed coniffer yn gorchuddio rhan
helaeth o’r ardal. Mewn mannau eraill ceir tir pori garw a thir
wedi’i orchuddio â brwyn a rhywfaint o dir pori wedi’i
wella.
Yr unig archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal hon yw twmpath
llosg yn dyddio o’r Oes Efydd.
Nid yw maint yr ardal hon wedi’i ddiffinio’n
glir ar y ddaear, ac mae’n ymdoddi i dir amgaeëdig ar bob ochr.
Fodd bynnag, yn hanesyddol, mae i’r ardal hon ffiniau pendant iawn.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |