![CWM YSTWYTH UCHAF](webphotos/upperystwythvalley.jpg)
CWM YSTWYTH UCHAF
CYFEIRNOD GRID: SN 830749
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 129.2
Cefndir Hanesyddol
Yn y Cyfnod Canoloesol roedd yr ardal hon yn rhan o
Faenor Cwmystwyth a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur (Williams 1990).
Erbyn diwedd yr Oesoedd Canol o leiaf roedd y faenor wedi’i rhannu’n
ffermydd a gâi eu prydlesu a’u ffermio yn fasnachol. Mae dogfen
ddyddiedig 1545-50 (Morgan 1991) yn cofnodi ffermydd yn yr ardal hon.
Erbyn 1590, roedd y teulu Herbert wedi dod caffael y rhan fwyaf o dir
Cwmystwyth. Trosglwyddwyd tir Herbert i’r teulu Johnes ym 1704.
Fodd bynnag, rhoddwyd llawer o diroedd yr abaty i Iarll Essex pan y’i
diddymwyd ac ar ôl hynny fe’u gwerthodd i ystad Trawscoed
ym 1630. Fel hyn y daeth rhywfaint o dir yn yr ardal hon i feddiant Trawscoed.
Ychydig a wyddom am hanes tirwedd yr ardal hon, ond dengys mapiau o ystad
Trawscoed dyddiedig 1781 (LlGC Trawscoed Cyf 1, 35, 73) ffermydd Tþ
llwyd a Thþ mawr wedi’u gosod mewn tirwedd o gaeau bach, afreolaidd
eu siâp ar lawr y dyffryn. Ni fu fawr ddim newid ers y dyddiad hwnnw.
Adeiladwyd capel yma ym 1856 (Percival 1998, 518). Mae Cwm Ystwyth yn
darparu llwybr i dir uchel i’r dwyrain a drosodd i Raeadr Gwy a’r
tu hwnt. Ym 1770, adeiladwyd ffordd dyrpeg trwy’r dyffryn (Colyer
1984, 176-182); y ffordd hon oedd y prif lwybr o Geredigion i’r
dwyrain am 40 mlynedd nes i ffordd dyrpeg newydd, sef ffordd bresennol
yr A44, ei disodli ychydig filltiroedd i’r gogledd. Mae’r
ffordd trwy Gwmystwyth bellach yn isffordd a ddefnyddir gan dwristiaid
yn ystod misoedd yr haf.
![CWM YSTWYTH UCHAF](webphotos/upperyswythvalley2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal hon yn cynnwys llawr gwastad rhan
uchaf Cwm Ystwyth, ynghyd â llethrau isaf y cwm lle y ceir tir amgaeëdig.
O lawr y cwm, a leolir ar uchder o 230m i 300m, mae’r llethrau’n
codi’n serth i dros 500m. Cynhwysir y tir amgaeëdig ar y llethrau
isaf yn yr ardal hon. Rhennir y caeau gan waliau sych a chloddiau caregog.
Dim ond ar ychydig o’r cloddiau y ceir gwrychoedd erbyn hyn, ac
mae’r rhain wedi’u hesgeuluso. Erbyn hyn mae ffensys gwifrau
yn rhedeg ar hyd y mwyafrif o’r ffiniau hþn. Mae gan rai o’r
ffiniau goed nodedig arnynt a cheir clystyrau bach o goetir prysglog.
Tir pori wedi’i wella yw’r tir amaeth gan mwyaf, ond ceir
llawer o ddarnau o dir brwynog, mwy garw ar lawr y cwm, ac mae rhai o’r
caeau ar y llethrau isaf yn dechrau troi’n rhostir unwaith eto.
Mae’r ffermydd wedi’u gwasgaru ar hyd llethrau
isaf yr ardal hon. Ar wahân i ychydig o dai a byngalos modern, mae’n
debyg bod yr adeiladau yn dyddio o’r 19eg ganrif, maent wedi’u
hadeiladu o gerrig (wedi’u rendro â sment ar dai fel arfer),
a chanddynt doeau llechi. Fodd bynnag, un eithriad yw tþ’r
fferm fwyaf yn y dirwedd hon, sy’n adeilad sylweddol (ar gyfer y
rhanbarth) yn yr arddull Sioraidd yn dyddio o’r 18fed ganrif yn
ôl pob tebyg. Mae gan y fferm hon adeiladau allan mawr wedi’u
hadeiladu o gerrig. Mae ffermydd eraill yn llai o faint a chanddynt dai
yn y traddodiad brodorol Sioraidd rhanbarthol yn dyddio o ddiwedd y 19eg
ganrif. Mae adeiladau allan y ffermydd hyn yn cynnwys un neu ddwy res
fach wedi’u hadeiladu o gerrig. Ceir fferm anghyfannedd a chanddi
adeiladau allan o gerrig wedi’u gosod yn lled-ffurfiol o amgylch
iard. Mae gan ffermydd gweithredol adeiladau amaethyddol modern bach.
Nid yw archeoleg gofnodedig yr ardal hon yn niferus nac
yn amrywiol. Mae olion mwynglawdd metel bach o ddiddordeb.
Mae hon yn ardal dirwedd hanesyddol nodedig iawn ac iddi
ffiniau pendant. I’r gorllewin ceir olion cloddio helaeth Cwmystwyth,
ac ar bob ochr arall ceir rhostir uchel, agored.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |