![](../../shim.gif) |
![TYNGRAIG](webphotos/tyngraig.jpg)
TYNGRAIG
CYFEIRNOD GRID: SN 697697
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 257.5
Cefndir Hanesyddol
Yn y Cyfnod Canoloesol gorweddai’r ardal hon o
fewn Maenor Mefenydd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Pan ddiddymwyd
yr abaty rhoddwyd ei faenorau i Iarll Essex gan eu gwerthu ar ôl
hynny i ystad Trawscoed ym 1630. Ymddengys i’r rhan fwyaf o’r
tir yn yr ardal hon aros o fewn ystad Trawscoed drwodd i’r 20fed
ganrif. Yn debyg i faenorau eraill, mae’n debyg erbyn diwedd y Cyfnod
Canoloesol, os nad ynghynt, fod Mefenydd wedi’i rhannu’n ffermydd
a gâi eu prydlesu a’u ffermio yn fasnachol. Mae enwau lleoedd
yn cynnwys yr elfen hafod - Hafod-y-gofaint - yn awgrymu y gall y ffermydd
hyn fod wedi deillio o system drawstrefa. Erbyn canol y 19eg ganrif, adeg
yr arolwg degwm (Map Degwm a Rhaniad Gwnnws, 1847) roedd golwg y dirwedd
yn debyg iawn i’w golwg heddiw; roedd y system gaeau wedi’i
gosod a’r patrwm anheddu wedi’i sefydlu. Dengys mapiau cynharach
yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif (LlGC Trawscoed Cyf 1, 55, 58) dirwedd
sydd wrthi’n datblygu a dangosir ffermydd Nant-byr isaf a Nant-byr
uchaf yn tresmasu ar dir agored i’r gogledd. Mae’n bosibl
mai aneddiadau sgwatwyr oedd y ddwy fferm hyn. Ar dir is, roedd patrwm
anheddu fferm Trefriw-fawr wedi’i sefydlu erbyn diwedd y 18fed ganrif,
er i gaeau mawr gael eu hisrannu ymhellach yn y 19eg ganrif. Datblygodd
pentrefan Tyngraig yn y 19eg ganrif, ac nid oes dwywaith na roddodd agor
rheilffordd Milford-Manceinion trwy’r ardal hon ym 1866 hwb i’w
ddatblygiad. Adeiladwyd capel yma ym 1869.
![TYNGRAIG](webphotos/tyngraig2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal hon, sydd wedi’i chanoli ar
ran uchaf agored dyffryn Afon Sychnant sy’n llifo i’r gogledd,
yn codi o 150m yn llawr y dyffryn i 350m ar y llethrau dwyreiniol. Mae
llethrau’r dyffryn at ei gilydd yn disgyn yn raddol, ond ceir rhai
llethrau mwy serth i’r gogledd. O fewn yr ardal hon ceir pentrefan
Tyngraig, ond at ei gilydd nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig
wedi’u gosod mewn system gaeau o gaeau bach, afreolaidd eu siâp.
Rhennir y caeau gan waliau sych, cloddiau caregog ac arnynt wrychoedd
neu gloddiau â wyneb o gerrig â gwrychoedd. Ar y lefelau isaf
mae’r gwrychoedd at ei gilydd mewn cyflwr gweddol dda a gallant
gadw stoc. Po uchaf i fyny llethrau’r dyffryn y maent, mwyaf y mae’r
gwrychoedd wedi’u hesgeuluso. Mae ffensys gwifrau wedi disodli gwrychoedd
ar y lefelau uchaf, a hyd yn oed ar lefelau is ceir ffensys gwifrau ar
hyd rhai o’r gwrychoedd a’r waliau. Tir pori wedi’i
wella yw’r defnydd a wneir o’r tir yn bennaf, er y ceir rhai
caeau o dir âr. Ceir rhai clystyrau gweddol fawr o goed llydanddail
a rhai planhigfeydd bach o gonifferau. Lleolir mawnog agored yn llawr
y dyffryn tua rhannau uchaf Afon Sychnant.
Mae ychydig o dai modern yn ffurfio clwstwr llinellol
llac ar hyd y briffordd trwy’r ardal hon. Ar wahân i’r
rhain mae’r stoc o adeiladau bron i gyd yn dyddio o’r 19eg
ganrif, maent wedi’u hadeiladu o gerrig a chanddynt doeau llechi.
Mae’r waliau ar lawer o’r adeiladau wedi’u gadael yn
foel, sy’n dangos bod yna gyflenwad parod o garreg o ansawdd da,
ond mae rhai tai wedi’u rendro â sment. Mae tai, gan gynnwys
ffermdai, yn yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol yn dyddio o ganol
y 19eg ganrif hyd ei diwedd, a chanddynt ddau lawr, simneiau yn y talcennau,
drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r
drws ac un uwch ei ben. Mae traddodiad Sioraidd cryf i’w weld mewn
rhai; yn arbennig y ffermdai mwy o faint, ond mae gan lawer o dai a bythynnod
llai o faint nodweddion brodorol, megis enghraifft restredig Rhydgaled.
Mae adeiladau allan wedi’u hadeiladu o gerrig at ei gilydd yn gymharol
fawr ar gyfer y rhanbarth, ac mae gan rai ffermydd sawl rhes wedi’u
gosod yn lled-ffurfiol o amgylch iard. Ni ddefnyddir rhai o’r hen
adeiladau hyn bellach. Mae gan ffermydd gweithredol adeiladau allan modern
o faint bach i ganolig.
Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal hon yn
cynnwys safleoedd ôl-Ganoloesol gan mwyaf. Mae’r rhain yn
cynnwys mwynglawdd metel bach, adeiladau sydd wedi goroesi megis capel
a bythynnod, bythynnod anghyfannedd ar dir uwch a gefail gof. Mae cloddwaith
a all fod yn gae yn dyddio o’r Oes Haearn, a maen hir posibl yn
dyddio o’r Oes Efydd yn rhoi elfen dyfnder amser i’r dirwedd.
I’r gogledd diffinnir yr ardal hon gan blanhigfa
o goedwigoedd yn dyddio o’r 20fed ganrif ac i’r dwyrain gan
dir uwch agored a lled-agored. Ceir ardaloedd bach ond nodweddiadol wahanol
o gaeau i’r de. Ni ddiffiniwyd unrhyw ardaloedd cymeriad tirwedd
i’r gorllewin eto.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |