![TYNDDOL](webphotos/tynddol.jpg)
TYNDDOL
CYFEIRNOD GRID: SN 765676
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 19.2
Cefndir Hanesyddol
Yn y Cyfnod Canoloesol roedd yr ardal hon yn rhan o
Faenor Mefenydd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Pan ddiddymwyd yr
abaty rhoddwyd llawer o’i diroedd i Iarll Essex, a phrynwyd y mwyafrif
ohonynt gan ystad Trawscoed ym 1630, gan gynnwys tir gerllaw’r ardal
hon. Mae hanes y llain fach hon o dir yn ansicr, er y gall ei natur ucheldirol
fod wedi sicrhau yr ystyrid mai tir agored y Goron ydoedd. Dechreuodd
ystad Trawscoed ymddiddori ynddi ar ddechrau’r 19eg ganrif pan glustnodwyd
ardal fawr, gan gynnwys yr uned hon, ar ddibenion ei hamgáu trwy
ddeddf seneddol, ac fe’i mapiwyd ym 1815 (LlGC Trawscoed 347) i’r
diben hwnnw. Ni ddyfarnwyd y ddeddf amgáu erioed. Erbyn yr arolwg
degwm (Map Degwm a Rhaniad Gwnnws, 1847) dangosir ardal fferm Tynddol
fel caeau bach wedi’u gosod ymhlith caeau mwy o faint.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae hon yn ardal fach o ucheldir amgaeëdig wedi’i
chanoli ar fferm Tynddol, rhwng 300m a 370m. Fe’i lleolir rhwng
caeau mawr o dir pori garw ac ucheldir agored i’r dwyrain. Mae’r
caeau yn fach ac yn afreolaidd eu siâp ac fe’u rhennir gan
gloddiau ac arnynt ffensys gwifrau. Nid oes unrhyw wrychoedd. Mae’r
fferm wedi’i hadeiladu o gerrig a chanddi do llechi, ac o bob tu
iddi ceir adeiladau fferm modern helaeth iawn. Mae’r mwyafrif o’r
caeau yn cynnwys tir pori wedi’i wella, a cheir darnau o dir pori
mwy garw.
Nid oes unrhyw safleoedd archeolegol a gofnodwyd yn yr
ardal.
Mae i’r ardal hon ffiniau pendant a cheir ucheldir
agored i’r dwyrain, a chaeau mawr o dir pori garw i’r gorllewin,
i’r gogledd ac i’r de.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |