![TREGARON](webphotos/tregaron.jpg)
TREGARON
CYFEIRNOD GRID: SN 679597
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 37.1
Cefndir Hanesyddol
Dengys y ffaith bod yr eglwys wedi’i chysegru i Garon, a bod yno
dair heneb Gristnogol gynnar a mynwent gron, i Eglwys Tregaron gael ei
sefydlu’n gynnar (Ludlow 1998). Efallai i’r eglwys hyrwyddo
datblygu anheddiad bach yn y cyfnod cyn y goresgyniad Eingl-Normanaidd.
Ym 1290, rhoddodd Edward I i Geoffrey Clement y breintiau o gynnal marchnad
wythnosol a dwy ffair flynyddol yn Nhregaron (Soulsby, 1983, 255). Datblygodd
y dref o hynny. Rhoddwyd cryn hwb i’r dref gan fasnach y porthmyn;
mae Soulsby (1983, 256) yn cofnodi bod y cyfnod 1820-40 yn un o gryn dwf.
Hyrwyddwyd twf pellach trwy agor Rheilffordd Milford a Manceinion ym 1866.
Ni ddatblygodd y dref ryw lawer y tu allan i’r craidd hanesyddol
tan ddiwedd yr 20fed ganrif pan godwyd tai newydd ac adeiladau diwydiannol/masnachol
ysgafn ar gwr y dref.
![TREGARON](webphotos/tregaron2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Tref fach Tregaron yw’r unig anheddiad sylweddol o fewn tirwedd
ucheldirol Ceredigion. Mae’r craidd hanesyddol wedi’i ganoli
ar sgwâr farchnad ac Eglwys Sant Caron sy’n dyddio o’r
Cyfnod Canoloesol, a cheir datblygiadau eilaidd ar lan orllewinol Afon
Brennig tua’r hen orsaf reilffordd. Nid yw’n anheddiad cynlluniedig,
ac mae ffryntiad y mwyafrif o’r adeiladau yn cyffinio â strydoedd
cul, troellog.
Carreg yw’r prif ddeunydd adeiladu traddodiadol ac mae llechi wedi’u
defnyddio ar gyfer y toeau. Mae amrywiaeth o driniaethau wal wedi’u
defnyddio gan gynnwys stwco, carreg wedi’i phaentio a charreg foel.
Ar wahân i eglwys y plwyf a dau fwthyn bach (un rhestredig), mae
bron pob un o’r adeiladau hþn yn Nhregaron yn dyddio o’r
19eg ganrif. Lleolir adeilad Sioraidd Gwesty’r Talbot ac adeiladau
masnachol, llai o faint eraill ar sgwâr y farchnad. Fodd bynnag,
mae pob un o’r rhain yn gymharol fach ac yn debyg i’r tai
anaml y maent yn codi’n uwch na dau lawr. Mae gan derasau a adeiladwyd
yr un pryd a bythynnod cynharach nodweddion brodorol cryf, ond mae gan
dai mwy o faint a diweddarach elfennau mwy Sioraidd. Fodd bynnag, prin
yw’r rhai sydd ag unrhyw addurniadau pensaernïol ar wahân
i nifer fach o filas ar wahân yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif.
Mae rhai adeiladau allan wedi’u hadeiladu o gerrig yn dyddio o’r
19eg ganrif yn rhoi naws amaethyddol i ganol y dref. Mae’r defnydd
a wnaed o ddeunyddiau eraill ar wahân i garreg megis brics coch
a melyn ar gyfer mân addurniadau a brics glas (mewn teras o dai)
i’w weld ar rai tai yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r
20fed ganrif. Lleolir ysbyty ac ysgol uwchradd yn dyddio o’r 20fed
ganrif ar gyrion y dref ynghyd ag ychydig o dai yn dyddio o’r cyfnod
rhwng dechrau a chanol yr 20fed ganrif, a llawer o dai yn dyddio o ddiwedd
yr 20fed ganrif a’r 21ain ganrif.
Ar wahân i adeiladau a henebion yr unig archeoleg arall a gofnodwyd
yn yr ardal hon yw canfyddiadau yn dyddio o’r Oes Efydd.
Mae i ddatblygiad trefol Tregaron ffiniau pendant iawn – ni cheir
fawr ddim gorlifo i’r ardaloedd tirwedd hanesyddol amaethyddol oddi
amgylch.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |