![TAI-UNNOS](webphotos/taiunnos2.jpg)
TAI-UNNOS
CYFEIRNOD GRID: SN 735634
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 36.1
Cefndir Hanesyddol
Yn y Cyfnod Canoloesol gorweddai’r ardal hon yn
Fferm Pennardd Abaty Ystrad Fflur. Fel gyda ffermydd eraill yr abaty,
mae’n debygol i Bennardd gael ei rhannu’n ffermydd a oedd
yn cael eu prydlesu’n fasnachol erbyn diwedd y Cyfnod Canoloesol
os nad cynt. Ar adeg diddymu’r abaty, rhoddwyd ei diroedd i Iarll
Essex, a’u gwerthodd wedyn i ystad Trawsgoed yn 1630. Fodd bynnag,
mae’n debyg nad oedd yr ardal hon wedi’i hamgáu ac
felly fe’i hawliwyd gan y Goron. Ymddengys mai tai-unnos ar dir
comin Rhos Gellig-gron oedd yr aneddiadau cyntaf, wedi’u codi o
bosibl yn niwedd y 18fed ganrif. Nid oes unrhyw ddogfennaeth am hyn, er
bod map degwm 1845 (plwyf Caron) yn dangos anheddiad datblygedig o fythynnod
wedi’u lleoli mewn system o gaeau bach o siâp afreolaidd.
Adeiladwyd ysgol Sul/capel yn 1886 i wasanaethu’r gymuned, ac un
arall yn 1906 (Percival 1998, 520). Noda tystiolaeth lafar i’r trigolion
weithio yn y mwyngloddiau i’r gogledd o Ystrad Fflur. Pan grebachodd
y diwydiant cloddio crebachodd yr anheddiad hwn hefyd. O flynyddoedd cynnar
yr 20fed ganrif ymlaen parhaodd y boblogaeth i leihau’n raddol,
er mai dim ond ar ôl yr Ail Ryfel Byd y gadawodd deiliaid yr annedd
olaf.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r dirwedd hon o aneddiadau adfeiliedig o ddiwedd
y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif ar ymyl tir comin Rhos Gelli-gron
ar uchder o rhwng 250m a 320m. Yma a thraw yn y dirwedd mae bythynnod
a thai wedi’u gadael. Mae’r rhain yn amrywio o anheddau bach
mewn cyflwr adfeiliedig i anheddau a adawyd yn fwy diweddar a thai cerrig
sylweddol mewn cyflwr gwell. Mae yna gapel segur a chapel wedi’i
ddymchwel. O ran patrwm y caeau mae caeau a choetgaeau bach afreolaidd
eu siâp, wedi’u rhannu gan wrthgloddiau a gwrychoedd yn tyfu
arnynt yn wreiddiol. Fodd bynnag, nid yw’r gwrychoedd yn tyfu mwyach
neu maent mewn cyflwr gwael ac, yn y bôn, uned fawr o dir pori garw
wedi’i wahanu oddi wrth y tir cyfagos â ffensys yw’r
dirwedd hon.
Mae’r archeoleg gofnodedig yn cynnwys aneddiadau
gwag fel y disgrifir uchod yn unig.
Mae hon yn ardal benodol ac iddi ffiniau pendant. I’r
de ac i’r gorllewin mae rhostir agored. I’r dwyrain mae coedwigaeth
ac i’r gogledd mae tir cyfannedd wedi’i amgáu.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |