Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

SUNNYHILL

SUNNYHILL

CYFEIRNOD GRID: SN 692628
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 425.4

Cefndir Hanesyddol

Yn y Cyfnod Canoloesol, gorweddai rhan helaeth o’r ardal hon o fewn Maenor Pennardd Abaty Ystrad Fflur (Williams 1990, 56) Yn ôl un traddodiad gorweddai safle gwreiddiol yr abaty o fewn yr ardal hon yn Fferm yr Hen Fynachlog (Radford 1971), a datguddiwyd sylfeini sylweddol yma yn y 19eg ganrif (Williams 1889). Fel yn achos y rhan fwyaf o faenorau eraill Ystad Fflur erbyn diwedd y Cyfnod Canoloesol, os nad yn gynt, mae’n debyg fod Pennardd wedi’i rhannu’n nifer o ffermydd a fyddai’n cael eu prydlesu neu’u ffermio’n fasnachol. Felly, dichon fod patrwm anheddu’r ardal hon yn hen iawn. Wedi diddymu’r mynachlogydd, rhoddwyd tiroedd Ystrad Fflur i Iarll Essex tra prynodd John Stedman dir y demên. Yn 1630, prynodd teulu’r Fychaniaid o Drawsgoed y rhan helaeth o dir yr hen faenor. Yn 1746, trosglwyddwyd tiroedd Stedman i ystad Nanteos. Yn y 18fed ganrif bu teulu’r Poweliaid o Nanteos yn byw Sunnyhill am sawl degawd (Rees 1936, 61), ac mae hen ardd yma wedi’i chynnwys ar Gronfa Ddata Gerddi Hanesyddol Cymru ar gyfer Ceredigion (RCAHMW, Cronfa Ddata Gerddi Hanesyddol Cymru). Dangosir cynllun yr ardd ar fap o’r ystad a luniwyd yn 1819. Cofnodwyd bod melin ddwˆ r ym Maes-llyn yn 1682 (Rees 1936, 60). Mae tystiolaeth mapiau hanesyddol (Map Degwm a Dosraniad Caron, 1845; LlGC Trawsgoed Cyf 1 8, 12, 14, 16, 20; LlGC Trawsgoed Cyf 2, 3; LlGC Cyf 45,54; LlGC Cyf 36, 147) o ddiwedd y 18fed a dechrau 19eg ganrif yn dangos fod tirwedd fodern yr ardal hon eisoes wedi ymsefydlu erbyn hynny. Ychydig iawn o newid a fu ar y patrwm anheddu, y systemau caeau a’r ardaloedd o goetir ers llunio’r mapiau hyn.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon yn cynnwys llain o dir gwastad ar ochr ddwyreiniol Cors Caron a llethrau isaf y cwm sy’n wynebu tua’r gogledd-orllewin. Gorwedda ar uchder rhwng 165m a 200m. Tir pori wedi’i wella yw’r tir amaethyddol gan mwyaf erbyn hyn er bod mannau o dir pori mwy garw a thir brwynog mewn pantiau ger Cors Caron. Y nodwedd gyffredinol yw caeau bach, afreolaidd eu siâp a ffermydd gwasgaredig gyda choetir o goed collddail ar lethrau mwyaf serth y cwm. Gweithgloddiau a gwrychoedd yn tyfu arnynt yw’r ffiniau. Fel arfer mae’r gwrychoedd mewn cyflwr da ac yn ffin cadw anifeiliaid, er yn rhan ddeheuol yr ardal ac ar y llethrau uwch mae eu cyflwr yn dechrau dirywio ac mae ffensys gwifren yn wedi’u gosod yn eu lle.

Ffermydd gwasgaredig, sy’n gymharol fawr ar gyfer y rhanbarth hwn, yw’r patrwm anheddu. Cerrig, yn eu cyflwr gwreiddiol, wedi’u rendro â sment neu wedi’u paentio yw’r defnyddiau adeiladu traddodiadol gyda llechi ar y toeau. Mae dau neu dri o dai yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg ganrif ac maent yn yr arddull Sioraidd. Mae eraill yn llai o ran maint, ond eto mae iddynt ddeulawr ac maent yn yr arddull frodorol Sioraidd ranbarthol draddodiadol o ail hanner y 19eg ganrif - simneiau yn nhalcennau’r tyˆ , drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Mae adeiladau fferm traddodiadol yn dyddio o’r 19eg ganrif hefyd wedi’u hadeiladu o gerrig. Maent yn aml yn sylweddol, gan gynnwys fferm fawr ac enghreifftiau o sawl rhes o adeiladau, gan gynnwys ysguboriau, beudai, stablau, tai certiau ac ati wedi’u gosod yn ffurfiol neu’n lled-ffurfiol o amgylch buarth. Mae gan ffermydd gweithredol nifer fawr o adeiladau amaethyddol modern.

Mae’r ardal hon o fewn coridor llwybr. Mae rheilffordd segur yn croesi’r ardal o’r de i’r gogledd. Mae ffordd bresennol y B4363 yn dilyn ochr ddwyreiniol Cors Caron gan gysylltu aneddiadau canoloesol a ffeiriau Pontrhydfendigaid, Ffair Rhos, Ysbyty Ystwyth a Machynlleth i’r gogledd â ffeiriau Tregaron, Llanddewi Brefi a Llanbedr Pont Steffan i’r de.

Mae’r archeoleg gofnodedig yn cynnwys safleoedd sy’n dyddio o’r cyfnod ôl-ganoloesol yn bennaf ac mae’n cynnwys capel ac ysgol Sul, yn ogystal â sawl annedd a dwy gloddfa fwynau fach. Cynhwysir hen safle bosibl Abaty Ystrad Fflur ar y cofnod yn ogystal â ffynhonnell ddogfennol i anheddiad Canoloesol yn Nhreflyn.

Mae ffiniau pendant i’r ardal hon. I’r gorllewin mae Cors Caron ac i’r dwyrain mae caeau mwy ar dir uwch, gyda thir agored yn y gornel ogledd-ddwyreiniol. I’r gogledd mae caeau rheolaidd eu siâp. Dim ond i’r de y ceir ansicrwydd ynghylch ymhle y dylid tynnu’r union ffin rhwng yr ardal hon a’r ardal gyfagos.

MAP SUNNYHILL

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221