Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

PWLLPEIRAN

PWLLPEIRAN

CYFEIRNOD GRID: SN 783740
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 277.1

Cefndir Hanesyddol

Yn y Cyfnod Canoloesol roedd yr ardal hon yn rhan o Faenor Cwmystwyth a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur (Williams 1990). Erbyn diwedd yr Oesoedd Canol o leiaf roedd y faenor wedi’i rhannu’n ffermydd a gâi eu prydlesu a’u ffermio yn fasnachol. Mae dogfen ddyddiedig 1545-50 (Morgan 1991) yn cofnodi ffermydd Pwllpeiran a Milwyn o fewn yr ardal hon. Erbyn 1590, roedd y teulu Herbert wedi dod i feddiant y rhan fwyaf o’r tir yn yr ardal, a throsglwyddwyd y tir hwn i’r teulu Johnes ym 1704. Ehangodd Thomas Johnes ei ddaliadau ar ddiwedd y 18fed ganrif trwy gyfnewid tir, yn arbennig am dir a ddelid gan Drawscoed, i adeiladu ystad a fyddai’n cynnwys y rhan fwyaf o’r tir yn yr ardal. Roedd Johnes yn wellhäwr tir brwd ac yn ddatblygwr technegau ffermio newydd; yn ddiau ei ymdrechion fu’n gyfrifol am rai ffiniau caeau ac adeiladau. Fodd bynnag, dengys mapiau yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif (LlGC Gweithredoedd Trawscoed Rhif 5, Cyfres IV, Cyf 1, 33, 35, 36, 73, 75; LlGC R.M. A64) fod y patrymau caeau ac anheddu yn debyg iawn i’r rhai a welir heddiw, gan ystyried bod rhai ffermydd wedi diflannu, bod eraill wedi’u creu a bod rhai caeau wedi’u hisrannu. Nid yw’r sicr pryd y sefydlwyd y patrwm anheddu a’r system gaeau, ond mae’n bosibl eu bod yn dyddio o’r cyfnod Canoloesol neu o gyfnod cynharach. Gwnaed arbrofion yma yn y 1930au i gynyddu cynhyrchiant tir pori uchel (Colyer 1982, 100-3), ac yng nghanol y 1950au prynwyd ffermydd gan MAFF a’r Comisiwn Coedwigaeth i wella economi’r mynydd-dir; arweiniodd hyn at sefydlu Fferm Hwsmonaeth Arbrofol Pwllpeiran ym 1955 (Wildig 1994). Lleolir craidd y fferm hon yn yr ardal hon, er y lleolir llawer o’i thir pori ucheldirol mewn ardaloedd tirwedd cyfagos. Bu’r fferm yn gyfrifol am gryn dipyn o welliannau tir ac am ddatblygu technegau newydd ar gyfer plannu a chynnal a chadw gwrychoedd. Lleolir melin Peiran, a oedd yn eiddo i Faenor Cwmystwyth yn y cyfnod Canoloesol yn yr ardal hon. Parhawyd i ddefnyddio’r felin tan ddiwedd y 18fed ganrif (Macve 1998). Cloddiwyd lefelydd prawf ar gyfer plwm yng nghanol y 19eg ganrif, ond roeddynt yn aflwyddiannus (Bick 1974, 23). Pwysleisiwyd llwybr naturiol dyffryn Afon Ystwyth lle y lleolir yr ardal hon ym 1770 pan adeiladwyd ffordd dyrpeg. Darparai’r ffordd hon, sef ffordd bresennol y B4574, y prif gysylltiad rhwng gogledd Ceredigion a dwyrain Cymru a Lloegr, nes i ffordd dyrpeg newydd gael ei chwblhau trwy Bonterwyd ym 1812 (Lewis 1955, 42-45). Wedi’i leoli yn yr ardal hon mae pentref Cwmystwyth, a’i gapeli a’i ysgol. Mae hanes y pentref yn ansicr, ond mae’n debyg ei fod yn dyddio o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, a’i fod yn ddibynnol ar y diwydiant cloddio metel.

PWLLPEIRAN

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal fawr a chymhleth hon yn gorwedd ar draws dyffryn Afon Ystwyth. Mae’n amrywio o ran uchder o 180m ar lawr y dyffryn i uchafbwynt o 380m ar lethrau’r dyffryn. Mae tir pori wedi’i wella yn gorchuddio’r rhan fwyaf o’r tir amaeth, er y ceir tir pori mwy garw ar lefelau uwch ac ar lethrau serth. Mae’r caeau yn fach ac yn afreolaidd eu siâp. Rhennir y caeau gan amrywiaeth o fathau o ffiniau. Y math mwyaf cyffredin yw’r clawdd ac arno wrych. At ei gilydd mae’r gwrychoedd ar fferm Pwllpeiran mewn cyflwr da, mewn mannau eraill mae eu cyflwr yn amrywio; mae llawer wedi’u hesgeuluso ac maent yn dechrau tyfu’n wyllt – mewn rhai achosion maent bron wedi tyfu’n goed - ac ar dir uwch maent wedi diflannu. Mae ffensys gwifren wedi’u hychwanegu at y mwyafrif o’r gwrychoedd. Ceir waliau sych â chapfeini wedi’u gosod ar oleddf o 45 gradd hefyd - gwaith Thomas Johnes yw’r rhain - yn ogystal â waliau wedi’u plastro â morter gerllaw rhai ffyrdd. Mae’r waliau sych mewn cyflwr gwael, ond mae’r waliau sydd wedi’u plastro â morter mewn gwell cyflwr. Lleolir clystyrau bach o goed llydanddail a phlanhigfeydd bach o goed coniffer ar lethrau. Mae’r rhain ynghyd â’r gwrychoedd sydd wedi tyfu’n wyllt yn rhoi golwg goediog i rannau o’r ardal.

Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd a bythynnod gwasgaredig, sy’n cynnwys Fferm Hwsmonaeth Arbrofol Pwllpeiran a’i chyfadail o adeiladau fferm a swyddfeydd modern, ynghyd ag anheddiad cnewyllol llac o anheddau diwydiannol yng Nghwmystwyth. Mae’n debyg bod yr adeiladau hyn yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif ac maent wedi’u hadeiladu o garreg, sydd wedi’i rendro â sment, wedi’i gadael yn foel neu wedi’i phaentio ar dai, ac wedi’i gadael yn foel ar adeiladau allan ffermydd. Mae gan y tai ddau lawr ac maent yn arddull frodorol Sioraidd y rhanbarth - sef simneiau yn nhalcennau’r tþ, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Mae gan rai tai nodweddion brodorol cryf tra bod eraill yn bendant yn y traddodiad Sioraidd. Mae dylanwad ystad i’w weld ar rai tai. Fel arfer mae adeiladau allan ffermydd yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn cynnwys dwy neu dair rhes fach, ond ceir cwpl o enghreifftiau mwy o faint ar rai ffermydd. Mae gan y mwyafrif o’r ffermydd gweithredol adeiladau amaethyddol dur a choncrid modern bach, ond ceir cwpl o enghreifftiau o adeiladau modern mawr iawn. Lleolir porthordy yn perthyn i ystad yr Hafod yn ogystal ag adeiladau eraill y dylanwadwyd arnynt gan yr ystad yng Nghwmystwyth. Fodd bynnag, y prif fath o adeilad yma yw’r tþ gweithiwr. Mae’r rhain naill ai’n fythynnod brodorol teras yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif neu’n dai a adeiladwyd yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif yn yr arddull frodorol Sioraidd. Ceir nifer o fythynnod a thai anghyfannedd yn y dirwedd hon. Ar wahân i fferm Pwllpeiran, nid oes fawr ddim datblygiadau modern.

Cyfyngir yr archeoleg a gofnodwyd i olion cloddio am fetel a bythynnod a ffermydd anghyfannedd.

Mae ffiniau’r ardal hon i’r gogledd lle y mae’n ffinio â choedwigoedd, ac i’r de ac i’r gorllewin yn erbyn tir agored yn rhai pendant, ond nid ydynt mor bendant i’r dwyrain lle y mae’n ymdoddi i anheddiad sgwatwyr. Yn hanesyddol ymdoddai ardal graidd ystad yr Hafod i’r de-orllewin i’r ardal hon, ond erbyn hyn mae ei chymeriad tra choediog yn darparu llinell derfyn bendant.

MAP PWLLPEIRAN

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221