Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

PUMLUMON

PUMLUMON

CYFEIRNOD GRID: SN 805884
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 8986

Cefndir Hanesyddol

Mae’r ardal eang iawn hon, sy’n cynnwys copa Pumlumon, yn gorwedd ar draws y ffin sirol sy’n gwahanu Ceredigion a Phowys. Nid astudiwyd ochr Powys i’r ffin hon yn fanwl, ac efallai y bydd angen ailystyried yr ardal os gwneir rhagor o ymchwil. Wedi’i lleoli yn yr ardal hon roedd rhan o faenor Cwmbuga a oedd yn eiddo i Abaty Cwm-hir. Mae’n debyg i gymeriad agored y tir hwn sicrhau iddi gael ei hawlio gan y Goron. Cynhwysai Faenor Perfedd a oedd yn eiddo i’r Goron. Dengys cofnodion o Faenor Cwmbuga ffriddoedd sylweddol a phorfa haf – swyddogaeth sydd wedi goroesi at ei gilydd ar draws yr ardal gyfan hyd heddiw. Er nad oes unrhyw aneddiadau cyfannedd yn yr ardal bellach, dengys ffynonellau hanesyddol fod patrwm o aneddiadau gwasgaredig i’w gael yn y 18fed ganrif. Cyfeirid at lawer o’r aneddiadau hyn fel lluest (Vaughan 1966), a all nodi iddynt gael eu sefydlu o fewn system o drawstrefa. Ym 1744, fe’u disgrifiwyd gan Lewis Morris, Dirprwy Stiward Maenor Perfedd a oedd yn eiddo i’r Goron, fel ‘bythynnod bach a oedd yn dai haf yn wreiddiol ar gyfer bugeiliaid ac sydd â chae o ychydig erwau o dir wedi’i atodi iddynt.’ (Vaughan 1966, 257). Ymddengys i Morris ddisgrifio system a oedd yn dirywio am fod rhai o’r aneddiadau a restrwyd ganddo yn anghyfannedd. Erbyn diwedd y 18fed ganrif roedd nifer yr aneddiadau hyn wedi gostwng gryn dipyn, ac erbyn canol y 19eg ganrif roeddynt bron wedi diflannu gan adael tirwedd wag. Dechreuodd mwynglawdd plwm Pumlumon gynhyrchu yn yr ardal anghysbell hon ym 1866 a pharhaodd tan 1891 (Bick 1983, 6-8).

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae hon yn ardal eang ac anghysbell sy’n cynnwys dyffrynnoedd â llethrau serth i lawr at 250m a chopa creigiog Pumlumon ar uchder o 752m. Mae bron y cyfan o’r ardal hon yn cynnwys rhostir a thir pori garw a cheir gorgors ar lefelau uwch a dyddodion mawnaidd mewn dyffrynnoedd uchel a phantiau. Arferai hen ffiniau wedi’u ffurfio gan gloddiau rannu darnau bach o’r llethrau is yn gaeau mawr, ond mae’r caeau hyn i raddau helaeth yn ddiangen bellach, ac mae ffensys gwifrau sydd wedi’u gosod yn bell oddi wrth ei gilydd yn darparu ffiniau cadw stoc. Gwnaed gwaith ar raddfa fawr i wella’r tir yn ystod yr ychydig ddegawdau diwethaf ac mae hyn wedi trawsnewid llawer o’r llethrau is, a rhai llwyfandiroedd uchel, yn borfa. Tirwedd ddi-goed ydyw heb unrhyw aneddiadau. Mae tomenni ysbwriel, siafftiau, tramffyrdd a phyllau olwynion mwynglawdd plwm Pumlumon a mwyngloddiau metel eraill ymhlith elfennau amlycaf y dirwedd hanesyddol yn yr ardal hon.

Ar wahân i’r mwyngloddiau metel y cyfeiriwyd atynt uchod, mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys crugiau crwn/carneddau a mannau darganfod yn dyddio o’r Oes Efydd, a safleoedd anheddu ac olion cysylltiedig ôl-Ganoloesol. Mae’r crugiau crwn/carneddau a leolir ar gopaon, megis y grwp ar Bumlumon yn elfennau dramatig yn y dirwedd. Mae aneddiadau ôl-Ganoloesol, sydd wedi’u canolbwyntio ar y llethrau is, yn arwydd o dirwedd boblog tan y 19eg ganrif.

I’r gogledd ac i’r dwyrain ni phennwyd union ffiniau’r ardal hon eto. I’r gorllewin ceir coedwigoedd ucheldirol a Chwm Rheidol, gan gynnwys cronfa ddwr Nant-y-Moch. Nid yw’r ffin rhwng yr ardal hol ac ardal y gronfa ddwr yn arbennig o bendant, a dylid ystyried ei bod yn ardal newid yn hytrach na llinell galed. I’r de mae ardal is, amgaeëdig a chyfannedd Dyffryn Castell yn wahanol iawn i’r llain hon o dir uchel.

MAP GOGLEDD PUMLUMON

 

MAP DE PUMLUMON

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221