![](../../shim.gif) |
![PONTRHYDFENDIGAID](webphotos/pontrhydfendigaid.jpg)
PONTRHYDFENDIGAID
CYFEIRNOD GRID: SN 730665
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 13.5
Cefndir Hanesyddol
Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes y pentref hwn. Yn y
Cyfnod Canoloesol, gorweddai Pontrhydfendigaid o fewn Maenor Mefenydd
a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Mae Williams (1990, 57) yn cofnodi
melin ddwr a melin bannu.. Mae’n bosibl bod y diwydiannau hyn yn
ganolbwynt i anheddiad bach. Pan ddiddymwyd yr abaty rhoddwyd y faenor
i Iarll Essex, ac ym 1630 fe’i prynwyd gan y teulu Vaughan o Drawscoed.
Mae’r map ar raddfa fawr cynharaf o’r ardal yn dod o gasgliad
Trawscoed dyddiedig 1781 (LlGC Trawscoed Cyf 2, 1), ac yn dangos datblygiad
llinellol ar y ddwy ochr i ffordd, a rhai adeiladau sydd wedi’u
hychwanegu gan law ddiweddarach. Yr argraff a geir o’r map yw un
o anheddiad sy’n datblygu, argraff a ategir gan ffynonellau dogfennol
cyfyngedig - adeiladwyd capel ym 1794 (Percival 1998, 523). Yn y 19eg
ganrif darparai’r pentref dai ar gyfer gweithwyr yn y diwydiant
cloddio plwm lleol, ac ar gyfer y rhai a oedd wrthi’n gwneud crefftau
lleol: casglu, sychu a pharatoi gwlân, gwneud hetiau, gwneud basgedi
a gweithgynhyrchu canhwyllau (Jones 1974, 72-80). Mae datblygiadau yn
ystod yr ugeinfed ganrif wedi cynnwys cyfleusterau arddangos a chwaraeon,
a thai newydd.
![PONTRHYDFENDIGAID](webphotos/pontrhydfendigaid2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae pentref Pontrhydfendigaid yn cynnwys datblygiadau
llinellol yn dyddio o’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif ar hyd
y naill ochr a’r llall i’r B4343 ac am ychydig o bellter ar
gilffyrdd. Mae’r bont ei hun yn dyddio o’r 18fed ganrif ac
mae’n rhestredig. Mae enghraifft dda o gapel yn yr arddull Sioraidd
hefyd yn rhestredig. Mae’r mwyafrif o’r tai hyn yn dyddio
o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif. Maent wedi’u
hadeiladu o garreg – wedi’i rendro â sment neu wedi’i
gadael yn foel – a chanddynt doeau llechi. Ceir o leiaf un bwthyn
brodorol deulawr yn dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif, ond mae’r
mwyafrif o’r tai yn ddiweddarach ac mae’n debyg iddynt gael
eu hadeiladu ar gyfer gwahanol ddosbarthiadau o weithwyr yn y diwydiant
cloddio plwm. Ceir amrywiaeth o dai, gan gynnwys terasau o fythynnod deulawr
yn y traddodiad brodorol, tai gweithwyr yn y traddodiad Sioraidd yn dyddio
o ddiwedd y 19eg ganrif, tai teras mwy o faint yn yr arddull Sioraidd
(rhai â manylion pensaernïol megis porticos a fframiau drysau),
a filas yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif. Mae’n debyg i ddwy fila
yn y traddodiad Sioraidd yn dyddio o ganol y 19eg ganrif a oedd ar wahân
i’r pentref (ond sydd bellach wedi’u cysylltu ag ef gan ddatblygiadau
llinellol modern) ar y ffordd i Ystrad Fflur gael eu hadeiladu ar gyfer
rheolwyr mwyngloddiau. Lleolir tai modern mewn ystadau bach a thai neu
fyngalos unigol o fewn y pentref neu ar ei gyrion. Adeiladwyd cyfleusterau
chwaraeon, adeiladau amaethyddol â fframiau dur a neuaddau arddangos
ar gyrion gogleddol y pentref.
Ar wahân i arteffactau yn dyddio o’r cyfnod
cynhanes, mae’r holl archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys adeiladau,
safleoedd crefftau gwledig a safleoedd diwydiannol bach yn dyddio o’r
cyfnod ôl-Ganoloesol.
Mae i’r ardal hon ffiniau pendant am y ceir tir
amaethyddol, amgaeëdig o bob tu iddi.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |