![](../../shim.gif) |
![PONTERWYD](webphotos/ponterwyd.jpg)
PONTERWYD
CYFEIRNOD GRID: SN 750810
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 360.4
Cefndir Hanesyddol
Roedd rhan orllewinol yr ardal hon yn rhan o Faenor
Nantyrarian a oedd yn eiddo i Abaty Cwm-hir. Ni wnaed unrhyw ymchwil i
hanes cynnar y gweddill o’r ardal. Erbyn y 18fed ganrif, ac yn gynharach
yn ôl pob tebyg, roedd ystadau Nanteos a Gogerddan yn meddu ar leiniau
helaeth o dir ym Mhonterwyd ac o’i amgylch. Dengys mapiau ystad
yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif (LlGC
Cyf 45, 35; Cyf 37, 51, 53) fod yr ardal hon wedi newid gryn dipyn yn
ystod y ddwy ganrif ddiwethaf. Ddwy ganrif yn ôl, cynhwysai Ponterwyd
ei hun bont a dwy annedd, ag un neu ddau badog, o fewn llain fawr o dir
agored. Ceid patrwm anheddu tebyg i’r dwyrain o Bonterwyd - dim
ond ychydig o anheddau, aneddiadau sgwatwyr o bosibl, a ddangosir ar y
mapiau. Fodd bynnag mae’n bosibl bod Bryn Bras a Throed-yr-Henriw
yn aneddiadau hirsefydlog, am y dangosir ac yr enwir y ddwy fferm hyn
ar y mapiau ystad, pob un â chaeau bach gerllaw’r anheddau
a chaeau mwy o faint ymhellach allan. I’r gogledd o’r pentref
ac i’r de o Gronfa Ddwr bresennol Dinas gorweddai system gaeau o
gaeau bach ar draws llawr dyffryn Afon Rheidol. Er bod yr ardal wedi’i
lleoli wrth gyffordd coridor llwybr hynafol yn rhedeg o’r dwyrain
i’r gorllewin a choridor llwybr yn rhedeg o’r gogledd i’r
de ac er mai lleoliad ffair ydoedd (Lewis 1955, 45-47), adeiladu ffordd
dyrpeg trwy Bonterwyd ym 1812 (Colyer 1984, 176-82) a symbylodd ddatblygiad
pentref Ponterwyd. Sefydlwyd gwesty - a elwir yn westy’r George
Borrow bellach – ac adeiladwyd capel a thai. Datblygodd gweithgarwch
cloddio am blwm yn yr ardal. Roedd gweithfeydd wedi’u sefydlu yn
Llywernog erbyn 1756 (Bick 1983, 12-18), ond yn y 19eg ganrif y datblygodd
y diwydiant yn llawn, gyda mwyngloddiau Ponterwyd, Clara a Llywernog i
gyd yn gweithio. Cyfunwyd y mwyngloddiau i ffurfio Cwmni Cloddio Arian-Plwm
Unedig Llywernog ym 1858, ond nid ymddengys fod cynhyrchiant erioed wedi
bod yn fawr, a rhoddwyd y gorau i weithio’r mwyngloddiau yn y diwedd
ym 1907. Erbyn hyn mae Llywernog yn amgueddfa fwyngloddio. Hyrwyddodd
adeiladu’r ffordd dyrpeg a datblygiad y diwydiant cloddio dwf Ponterwyd
a’r ardal o’i amgylch. Mae bythynnod, rhai y mae pobl yn dal
i fyw ynddynt a rhai sy’n anghyfannedd, yn tystio i’r twf
a fu yn y boblogaeth yn y 19eg ganrif. Ynghyd â hynny bu cynnydd
yn arwynebedd y tir amaeth, ac amgaewyd llawer o rostir, ac isrannwyd
caeau mawr yn unedau llai o faint. Yn y 1950au ac ar ddechrau’r
1960au o ganlyniad i ddatblygu cynllun hydrodrydanol Rheidol, bu twf dramatig
yn y boblogaeth, a arweiniodd at lawer o dai newydd ym Mhonterwyd ac o’i
amgylch.
![PONTERWYD](webphotos/ponterwyd2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal gymhleth hon wedi’i chanoli
ar bentref Ponterwyd yng Nghwm Rheidol. Mae’r afon yma yn llifo
mewn dyffryn cul ar ryw 200m o uchder, gyda’r pentref ac aneddiadau
eraill wedi’u lleoli ar deras ar uchder o 230m. Ar lethrau i fyny
at 310m o uchder lleolir ffermydd a bythynnod uwch. Wedi’u gwasgaru
o amgylch y pentref cnewyllol llac ceir ffermydd a bythynnod wedi’u
gosod mewn system gaeau o gaeau o faint canolig. Rhennir y caeau hyn gan
gloddiau, ac mewn rhai achosion, waliau sych sydd wedi dymchwel. Mae’r
ychydig o wrychoedd sydd i’w gweld wedi tyfu’n wyllt, ac maent
bron mor fawr â choed. Ar wahân i’r gwrychoedd hyn a
phlanhigfeydd bach o goed conifer yn dyddio o’r 20fed ganrif, tirwedd
ddi-goed ydyw ar y cyfan. Nid oes gan y mwyafrif o gloddiau wrychoedd,
ac mae ffensys gwifren yn darparu ffiniau cadw stoc. Tir pori wedi’i
wella a geir yn bennaf yn yr ardal, ond ceir cyfran fawr o dir pori garw,
tir brwynog a phantiau mawnaidd.
Saif capel Sioraidd hwyr a’r Hen Bont, sy’n
dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif (y mae’r ddau’n rhestredig)
ynghanol pentref Ponterwyd. Mae tai hyn yn y pentref yn cynnwys strwythurau
ar wahân, strwythurau pâr a therasau o strwythurau yn dyddio
o’r 19eg ganrif. Mae’r mwyafrif o’r tai yn dyddio o’r
cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif ac maent wedi’u hadeiladau
o garreg sydd fel arfer wedi’i rendro â sment neu wedi’i
phaentio ar dai, ac wedi’i gadael yn foel ar adeiladau eraill. Llechi
yw’r deunydd toi cyffredinol, er y dengys ffotograff cynnar o fwthyn
anhysbys (Smith 1986, 286) ger Ponterwyd fod gwellt yn cael ei ddefnyddio
fel deunydd toi hyd at ddiwedd y 19eg ganrif. Mae gan dai ddau lawr ac
maent yn arddull frodorol Sioraidd y rhanbarth – sef simneiau yn
nhalcennau’r ty, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill
ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Ceir dau neu dri
thy a adeiladwyd yn gynharach yn ystod y 19eg ganrif ac mae ganddynt nodweddion
brodorol cryf megis bondo isel, cynllun llawr anghymesur, ffenestri bach
ac un simnai sy’n fwy o faint na’r llall. Mae’n debyg
i dai ar wahân mwy o faint, diweddarach, sy’n dyddio yn ôl
pob tebyg o ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, gael
eu hadeiladu ar gyfer goruchwylwyr neu reolwyr mwyngloddiau. Ceir dyrnaid
o dai ac adeiladau eraill yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif ym Mhonterwyd,
yn ogystal ag ystad fach o dai yn dyddio o’r 20fed ganrif.
Mae adeiladau gwledig yn cynnwys ffermydd gwasgaredig,
a chanddynt ffermdai yn arddull Sioraidd nodweddiadol y rhanbarth yn dyddio
o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif. Mae gan y mwyafrif
o ffermydd ddwy neu dair rhes o adeiladau allan wedi’u hadeiladu
o gerrig; ac mae gan ffermydd gweithredol adeiladau amaethyddol modern
o faint bach i ganolig. Mae adeiladau gwledig gwasgaredig eraill yn cynnwys
Gwesty’r George Borrow sydd yn yr arddull Sioraidd, tai gweithwyr
yn dyddio o’r 19eg ganrif a chapel bach. Mae llawer o fythynnod
a ffermydd anghyfannedd wedi’u gwasgaru ar draws y dirwedd.
Mae olion y diwydiant cloddio plwm yn elfennau amlwg
a phwysig yn y dirwedd hanesyddol. Mae tomenni ysbwriel, cronfeydd dwr,
ffrydiau a chasgliad o adeiladau a adferwyd ac a ailadeiladwyd yn amgueddfa
fwyngloddio Llywernog ymhlith rhai o’r olion pwysicaf. Mae rhai
o’r adeiladau hyn – stordy powdwr gwn, swyddfeydd, sied trin
mwyn a pheiriant mathru cerrig – yn rhestredig.
Olion y diwydiant cloddio metel ac adeiladau sydd wedi
goroesi megis capeli, ysgol ac anheddau yw elfennau amlycaf yr archeoleg
a gofnodwyd yn yr ardal hon. Darganfyddiadau yn dyddio o’r Oes Efydd
a thwmpath llosg posibl yn dyddio o’r un cyfnod sy’n darparu’r
unig ddyfnder amser i’r dirwedd.
Mae i’r ardal hon ffiniau pendant a cheir rhostir
uchel yn ffinio â hi ar bob ochr bron, ac i’r gogledd cronfeydd
dwr a ffermydd gwasgaredig rhan uchaf Cwm Rheidol. Dim ond i’r de
y mae ansicrwydd ynghylch lle y dylid tynnu’r ffin.
![MAP PONTERWYD](webphotos/ponterwydmap.jpg)
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |