 |

NANT COU A NANT OCHRGARREG
CYFEIRNOD GRID: SN 697581
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 233.3
Cefndir hanesyddol
Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes yr ardal hon. Mae’n
debyg ar ddechrau’r Cyfnod ôl-Ganoloesol fod llawer o’r
ardal hon yn dir agored a’i fod yn cael ei hawlio gan y Goron felly.
Dim ond yn ystod yr ychydig ganrifoedd diwethaf y cafodd yr ardal hon
ei gwladychu a’i hamgáu. Dengys map degwm 1845 (Map Degwm
a Dyraniad Caron) dirwedd wahanol iawn i’r un a welir heddiw. Bodolai
ffermydd Ochrgarreg, Caebwd, Troed-y-Rhiw a Chefn-y-Esgair Fawr a Fach
bryd hynny, pob un yng nghanol rhai caeau bach wedi’u gosod o fewn
tir agored. Ymddengys fod Glangors yn anheddiad sgwatwyr. Nid oedd ffermydd
eraill - sef Pant-Glas, Bryn-wernen, Tyncae – wedi’u sefydlu.
Erbyn 1887 pan wnaeth yr Arolwg Ordnans (Arolwg Ordnans, 1891, 6”
i 1 filltir, Cardiganshire XXVII.NW) ei arolwg ar raddfa fawr, roedd y
patrwm anheddu a’r system gaeau bresennol, ar wahân i waith
a wnaed i isrannu caeau mawr ymhellach, wedi’u sefydlu. Felly, fel
mewn llawer o ardaloedd tebyg yn ucheldir Ceredigion, adlewyrchir effeithiau
ffisegol y twf yn y boblogaeth ar ddechrau’r 19eg ganrif yn y dirwedd.
Ers hynny mae nifer yr aneddiadau cyfannedd wedi gostwng.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Ardal sydd wedi’i chanoli ar rannau uchaf dyffrynnoedd
Nant Cou a Nant Ochrgarreg rhwng 290m a 400m. Nodweddir y topograffi gan
ucheldiroedd tonnog a llethrau serth. Mae’r aneddiadau wedi’u
gwasgaru ac maent wedi’u gosod mewn system o gaeau bach, afreolaidd
eu siâp. Ar gyrion uwch yr ardal hon mae’r caeau bach hyn
yn cael eu disodli gan gaeau mwy o faint, mwy rheolaidd eu siâp.
Ceir coetir collddail ar y llethrau mwy serth. Rhennir y caeau gan gloddiau
ag wyneb o gerrig ac arnynt wrychoedd, ac ambell wal sych. Ar lefelau
is mae’r gwrychoedd mewn cyflwr gweddol dda; ar lefelau uwch maent
wedi’u hesgeuluso. Erbyn hyn mae’r mwyafrif o’r ffiniau
wedi’u hatgyfnerthu gan ddefnyddio ffensys gwifren. Mae’r
ffiniau ar lefelau is yn cynnwys coed gwrychoedd nodedig. Tir pori wedi’i
wella yw’r tir amaethyddol, a cheir tir pori garw a rhedyn ar lethrau
serth a thir brwynog a dyddodion mawnaidd mewn pantiau. Ceir clystyrau
sylweddol o goetir collddail ar y llethrau, ac mae’r rhain, ynghyd
â’r coed gwrychoedd, yn rhoi golwg weddol goediog i’r
dirwedd.
Nodweddir y math o anheddu gan ffermydd bach. Cerrig
lleol yw’r deunydd adeiladu traddodiadol ac mae llechi (llechi gogledd
Cymru) wedi’u defnyddio ar gyfer y toeau. Mae’r waliau naill
ai wedi’u rendro â sment neu wedi’u gadael yn foel ar
dai, ac maent yn foel ar adeiladau fferm traddodiadol. Mae’r tai
i gyd bron yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif.
Maent yn gymharol fach, mae ganddynt ddau lawr ac maent yn yr arddull
frodorol Sioraidd nodweddiadol – sef simneiau yn nhalcennau’r
ty, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall
i’r drws ac un uwch ei ben. Ar ben hynny mae ganddynt nodweddion
brodorol cryf megis bondo isel, ffenestri bach ac un simnai sy’n
fwy o faint na’r llall. Mae llawer o’r tai wedi’u moderneiddio,
a cheir o leiaf dri thy modern neu dri thy a ailadeiladwyd. At ei gilydd
mae adeiladau allan y ffermydd sydd wedi’u hadeiladu o gerrig wedi’u
cyfyngu i un neu ddwy res fach, a cheir sawl enghraifft sydd ynghlwm wrth
y ty ac yn yr un llinell ag ef. Nid yw nifer o ffermydd yn gweithio bellach
ac nis defnyddir eu hadeiladau allan. Mae gan ffermydd gweithredol resi
bach o adeiladau amaethyddol dur a choncrid modern – nid yw’r
rhain yn nodweddion amlwg yn y dirwedd.
Mae’r unig safle archeolegol a gofnodwyd yn yr
ardal hon - darganfyddiadau yn dyddio o’r Oes Efydd - yn darparu
elfen o ddyfnder amser i’r dirwedd.
I’r gogledd mae’r ardal hon yn ymdoddi i’r
ardal sy’n cyffinio â hi ac nid oes unrhyw ffin bendant. I’r
gorllewin ni ddiffiniwyd yr ardal dirwedd eto, er ei bod yn dir agored.
Mae coedwigoedd a blannwyd yn ffurfio ffin bendant i’r de, a nodir
yr ymyl ddwyreiniol yn glir lle y mae’n cwrdd â thir agored.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |