![](../../shim.gif) |
![MYNYDD BACH – CWM YSTWYTH](webphotos/mynyddbachystwythvalley.jpg)
MYNYDD BACH – CWM YSTWYTH
CYFEIRNOD GRID: SN 696712
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 656.9
Cefndir Hanesyddol
Yn y Cyfnod Canoloesol gorweddai’r rhan fwyaf
o’r ardal hon o fewn Maenor Mefenydd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad
Fflur (Williams 1990, 57). Ym 1630 prynodd ystad Trawscoed y mwyafrif
o gyn-faenorau Ystrad Fflur (Morgan 1987, 41), gan gynnwys, ymddengys,
ran o’r ardal hon, gan Robert Devereux, Iarll Essex. O ddiwedd y
18fed ganrif o leiaf mae llethrau serth yr ardal hon yn dra choediog (gweler
mapiau o’r ystad LlGC Trawscoed Cyf 1, 49, 55, 60 a’r map
degwm o blwyf Gwnnws dyddiedig 1847), er bod yr ardal a elwir yn Fynydd
Bach yn ffridd agored neu’n rhostir hyd at yr arolwg degwm, ac mae’n
debyg, felly, fod y tir yn perthyn i’r Goron yn hanesyddol. Rhannwyd
Mynydd Bach yn gyfres o gaeau mawr yn ail hanner y 19eg ganrif. Erbyn
hyn mae’r ardal gyfan wedi’i phlannu â choedwigoedd.
Dechreuodd y gwaith plannu ar y llethrau serth ar dir a brynwyd gan ystad
Trawscoed yn y 1930au (Edlin 1959, 13), ac yn ddiweddarach ar dir uwch
Mynydd Bach. Âi rheilffordd Milford Manceinion, a agorodd ym 1866
ac a gaeodd yn y 1960au, trwy’r ardal hon.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal dirwedd hon yn cwmpasu bryniau creigiog
Mynydd Bach, sy’n codi i uchder o 370m, a llethrau serth dyffryn
Afon Ystwyth sy’n disgyn at yr afon ar uchder o 80m. Mae’r
ardal gyfan wedi’i gorchuddio gan goed. Ym mhen dwyreiniol pellaf
yr ardal ger Pontrhydygroes, ac yn y de-orllewin ger Tynygraig, mae clystyrau
bach o goed collddail wedi goroesi, ond mewn mannau eraill mae coedwigoedd
o goed coniffer naill wedi disodli’r pren caled neu maent wedi’u
plannu ar dir a arferai fod yn agored. Cyn cael eu plannu â choed,
roedd y llethrau serth wedi’u gorchuddio gan goedwigoedd o goed
collddail, ac roedd y tir uchel yn dir pori garw. Lleolir ffiniau caeau
yn deillio o weithgarwch amgáu a gyflawnwyd ar ddiwedd y 19eg ganrif
o fewn y coedwigoedd ar Fynydd Bach, ond nis astudiwyd ar gyfer yr arolwg
hwn. Lleolir olion y diwydiant cloddio plwm ar gyrion gogleddol yr ardal
hon, ond lleolir prif elfennau’r diwydiant y tu allan, ac felly
fe’u disgrifir rywle arall. Mae hen argloddiau a hafnau rheilffordd
hefyd yn elfennau diwydiannol yn y dirwedd. Planhigfeydd, llwybrau, ffyrdd
a nodweddion coedwigaeth eraill yw elfennau mwyaf cyffredin ac amlycaf
y dirwedd hanesyddol.
Yn ogystal ag elfennau diwydiannol y dirwedd y cyfeiriwyd
atynt uchod, mae’r archeoleg a gofnodwyd ar ffurf dau grug crwn
yn dyddio o’r Oes Efydd yn darparu dyfnder amser i’r dirwedd.
Mae i’r ardal dirwedd hon ffiniau pendant iawn
ac yn cyffinio â’r coedwigoedd ceir rhostir neu dir pori wedi’i
wella lled-agored, neu lawr dyffryn, neu dir ffermio cyfannedd ac amgaeëdig.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |