Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

LLETHR LLWYD

LLETHR LLWYD

CYFEIRNOD GRID: SN 741598
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 95.3

Cefndir Hanesyddol

Nodweddir yr ardal hon gan ei golwg anamgaeëdig, agored. Yn y cyfnod hanesyddol mae’n debyg i’w natur agored sicrhau iddo gael ei hawlio gan y Goron. Nodir aneddiadau yn perthyn i’r cyfnod hanesyddol yn y cofnod archeolegol, ond ymddengys fod y rhain wedi’u gadael erbyn canol y 19eg ganrif, os nad ynghynt. Ffridd fu’r prif ddefnydd a wnaed o’r ardal yn y cyfnod hanesyddol.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Lleolir yr ardal hon o dir pori garw agored ar lethrau serth ac weithiau greigiog dyffryn Groes Fawr sy’n wynebu’r de rhwng 320m a 500m. Safleoedd archeolegol yw prif elfennau’r dirwedd hanesyddol, ac maent yn cwmpasu dau brif gyfnod: yr Oes Efydd a’r cyfnod ôl-Ganoloesol. Mae archeoleg yr Oes Efydd yn cynnwys nifer o grugiau crwn neu garneddau claddu, maen hir posibl a nifer fawr o garneddau clirio a safleoedd tai posibl. Priodolir y carneddau clirio i’r Oes Efydd ond dim ond yn betrus; mae’n bosibl eu bod yn gysylltiedig â’r gweithgarwch anheddu diweddarach ar draws yr ardal. Mae’r gweithgarwch anheddu diweddarach hwn yn cynnwys nifer fawr o gytiau hir a safleoedd anheddu eraill. Gall rhai o’r rhain dyddio’n gyfan gwbl o’r Cyfnod Canoloesol, neu efallai eu bod yn tarddu o’r Cyfnod Canoloesol, ond mae’n fwy tebygol i bobl ddechrau byw ynddynt yn y cyfnod ôl-Ganoloesol. Mae’n amlwg bod rhai o’r anheddiadau a gofnodwyd yn dyddio o’r cyfnod ôl-Ganoloesol, a hefyd waliau’r bythynnod/fferm sy’n sefyll, gwrymiau amaethu ac olion amaethyddiaeth eraill.

LLETHR LLWYD

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221