Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Heolfryn a Dolbeudlau

HEOLFRYN a DOLBEUDIAU

CYFEIRNOD GRID: SN 723660
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 325.8

Cefndir Hanesyddol
Yn y Cyfnod Canoloesol gorweddai’r ardal hon o fewn Maenor Penardd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur (Williams 1990, 56). Pan ddiddymwyd yr abaty, rhoddwyd ei diroedd i Iarll Essex, ac ar ôl hynny ym 1630 prynodd ystad Trawscoed y mwyafrif ohonynt. Mae cryn dystiolaeth ddogfennol o’r prosesau hanesyddol wrth wraidd datblygiad y system gaeau yn yr ardal hon. Ymddengys tan y 18fed ganrif fod llawer o’r tir yn yr ardal hon yn agored, am fod dau fap o’r ystad yn dyddio o’r 18fed ganrif (LlGC Trawscoed Cyf 1, 6, 8) yn ei ddangos fel cymysgedd o dir agored a chaeau mawr iawn, a nodir amgaefeydd neu badogau bach o amgylch ffermydd Dolbeudiau, Brynhope a Dolyrychain. Erbyn arolwg degwm 1845 (Map Degwm a Dyraniad Caron) roedd y system gaeau reolaidd a welir heddiw wedi’i sefydlu. Mae tarddiad y patrwm anheddu o ffermydd gwasgaredig yn codi mwy o broblemau. Mae’n ddigon posibl iddo gael ei sefydlu ar ddiwedd y Cyfnod Canoloesol pan rannwyd Maenor Penardd, yn debyg i faenorau eraill Ystrad Fflur, yn ffermydd a gâi eu prydlesu yn fasnachol.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal hon yn cynnwys llain o dir eithaf tonnog, yn cynnwys esgeiriau creigiog isel, yn amrywio o ran uchder o 170m i 220m a leolir i’r de ac i’r gorllewin o Bontrhydfendigiad. Mae llawer o’r tir uwch yn dir pori wedi’i wella, ond ceir lleiniau sylweddol o dir pori garw a thir brwynog ar lefelau is. Ceir dyddodion mawn mewn rhai pantiau. Mae’r system gaeau yma yn cynnwys caeau rheolaidd o faint bach i ganolig. Rhennir y caeau gan gloddiau isel, syth ac arnynt ffensys gwifrau. Ceir rhai gwrychoedd ar y cloddiau, ond at ei gilydd maent wedi’u hesgeuluso ac eithrio yn rhan ogleddol yr ardal a gerllaw ffermydd lle y gallant gadw stoc o hyd. Rhennir caeau ar dir is mewn pantiau gan ffosydd draenio.

Ceir cwpl o ffermydd bach â thai wedi’u hadeiladu o gerrig yn arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol y rhanbarth yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol a diwedd y 19eg ganrif. Ar wahân i’r rhain, mae’r adeiladau yn cynnwys grwp bach o anheddau a foderneiddiwyd yn helaeth a thai modern, parc carafannau ac Ysgol Sul.

Ar wahân i’r adeiladau uchod a dau fwynglawdd metel bach, mae’r archeoleg a gofnodwyd yn darparu elfen o ddyfnder amser i’r dirwedd ar ffurf bryngaer yn dyddio o’r Oes Haearn, a chlostir hirsgwar o gloddwaith a all ddyddio o’r cyfnod Rhufeinig.

Ac eithrio lle y mae’n ymuno â phentref Pontrhydfendigiad, nid yw ffiniau’r ardal hon yn arbennig o bendant, am eu bod yn ymdoddi ar bob ochr i systemau caeau afreolaidd ardaloedd cyfagos.

Map Heolfryn a Dolbeudlau

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221