Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Geufron Hendre-felen

GEUFRON - HENDRE-FELEN

CYFEIRNOD GRID: SN 722707
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 96.4

Cefndir Hanesyddol

Yn y Cyfnod Canoloesol, gorweddai’r ardal hon o fewn Maenor Mefenydd Abaty Ystrad-fflur. Yn ystod y Diddymiad, rhoddwyd maenor yr abaty i Iarll Essex a werthodd hwy i ystad Trawsgoed yn 1630. Ymddengys fod y rhan fwyaf o’r tir yn yr ardal hon wedi aros yn ystad Trawsgoed hyd at yr 20fed ganrif. Fel maenorau eraill, mae’n debygol bod Mefenydd wedi’i rhannu’n ffermydd a gafodd eu prydlesu a’u ffermio ar sail fasnachol, a hynny erbyn diwedd y Cyfnod Canoloesol neu cyn hynny hyd yn oed. Mae’r enw Hendre-felen yn awgrymu fferm hirsefydlog, sy’n tarddu, o bosibl, o’r Cyfnod Canoloesol. Mae mapiau’r degwm (Map Degwm a Dosraniad Gwnnws, 1847; Map Degwm a Dosraniad Sputty Ystwyth, 1848) yn dangos bod y patrwm anheddu a’r systemau caeau presennol wedi’u sefydlu erbyn y 1840au, er y collwyd rhywfaint o ffermydd a bythynnod ers hynny. Dengys map ystad cynharach, yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif (LlGC Trawscoed Cyf 1, 60) ddarlun tebyg i fap y degwm, ond mae’n cynnwys rhai mân wahaniaethau. Dangosir caeau bach o bobtu i’r ffermydd, a chaeau mwy o faint ymhellach allan, a rhywfaint o dir agored ar gyrion yr ardal. Lleolir rhai clystyrau bach o goetir i’r de o Fferm Cilmeddu. Erbyn yr arolygon degwm roedd y caeau mwy o faint wedi’u hisrannu. Mae’n amlwg bod tystiolaeth y mapiau yn nodi tirwedd a oedd yn datblygu ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Ymddengys i raddfa ddatblygu aneddiadau a systemau caeau gyrraedd uchafbwynt erbyn yr arolwg degwm, ac ers hynny mae wedi bod yn arafu.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae hon yn dirwedd o lethrau esmwyth yn wynebu’r dwyrain sy’n amrywio o ran uchder o 180m i 260m. Cysgodir y llethrau hyn o’r gwyntoedd mynychaf gan dir uwch i’r gorllewin, ac maent yn gorwedd uwchlaw tir gwlypach o ansawdd gwael i’r dwyrain. Gwahenir tair fferm wasgaredig iawn gan system neu systemau caeau o gaeau bach afreolaidd eu siâp. Rhennir y caeau gan gloddiau ac arnynt wrychoedd. At ei gilydd mae’r gwrychoedd mewn cyflwr da, er bod rhai yn dechrau cael eu hesgeuluso ac mae ffensys gwifrau wedi’u hychwanegu atynt. Tir pori wedi’i wella yw’r defnydd a wneir o’r tir yn bennaf, er y ceir pocedi o dir mwy garw ar lethrau is lle y rhwystrir dwr rhag draenio. Mae clystyrau bach o goed a’r ffaith bod rhai o’r gwrychoedd wedi tyfu’n wyllt yn rhoi golwg goediog i’r ardal hon.

Carreg leol yw’r deunydd adeiladu traddodiadol ac mae llechi (llechi o ogledd Cymru) wedi’u defnyddio ar y toeau. Mae ffermdai/tai hyn yn dyddio o’r 19eg ganrif, mae ganddynt ddau lawr ac maent yn yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol – sef simneiau yn nhalcennau’r ty, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Ceir ffermdy ar ffurf byngalo modern. Mae’r adeiladau allan wedi’u hadeiladu o gerrig at ei gilydd wedi’u cyfyngu i un neu ddau adeilad. Mae gan ffermydd gweithredol resi o adeiladau amaethyddol dur a choncrid modern.

Nid oes unrhyw beth yn y cofnod archeolegol i roi elfen o ddyfnder amser i’r dirwedd hon. Mae’r holl archeoleg gofnodedig yn cynnwys safleoedd ôl-Ganoloesol sydd gan amlaf yn aneddiadau anghyfannedd.

Mae i’r ardal gymeriad dirwedd hon ffiniau pendant. I’r gogledd, i’r de ac i’r gorllewin ceir planhigfa o goed coniffer wedi’i phlannu ar dir a arferai fod yn agored, neu dir agored. Ceir tir pori garw, is i’r dwyrain.

Map Geufron- Hendre Felen

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221