![](../../shim.gif) |
![Fullbrook](webphotos/fullbrook.jpg)
FULLBROOK
CYFEIRNOD GRID: SN 668636
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 725.7
Cefndir Hanesyddol
Yn y Cyfnod Canoloesol, gorweddai’r ardal hon
o fewn Maenor Mefenydd Abaty Ystrad-fflur. Cofnodir bod pandy yma (Williams
1990, 59). Yn ystod y Diddymiad, rhoddwyd holl ddaliadau Ystrad-fflur
i Iarll Essex. Yn fuan ar ôl hynny, ymddengys fod y tir yn yr ardal
hon, ac o’i hamgylch, wedi’i brynu gan y teulu Lloyd o Ffosybleiddiaid
ac fe’i caffaelwyd yn ddiweddarach gan y teulu Vaughan o Drawsgoed.
Ar adeg yr arolwg degwm (Map Degwm a Dosraniad Lledrod, 1844; Map Degwm
a Dosraniad Caron, 1845) roedd y patrwm anheddu a’r systemau caeau
presennol wedi’u sefydlu. Dim ond ychydig o dystiolaeth ynghylch
y modd y datblygodd y dirwedd a ddarperir gan fapiau cynharach yr ystad.
Yn 1819 amgylchynwyd fferm Fullbrook (LlGC Cyf 45, 58) gan gaeau bach,
gyda chaeau ychydig yn fwy, ond bach o hyd, ymhellach i ffwrdd –
patrwm y gellir ei weld ar fapiau modern. Mae map o ddiwedd y 18fed ganrif
(LlGC Trawsgoed Cyf 2, 10) sy’n cwmpasu ffermydd Ty-y-swydd, Ty-hen
a Thynbwlch yn dangos tirwedd sy’n debyg i’r dirwedd a gofnodwyd
gan y syrfewyr degwm ac eithrio lleiniau a isrannwyd sydd o dan berchenogaeth
luosog mewn un cae. Gallai hyn fod yn arwydd bod o leiaf rhan o’r
patrwm caeau modern wedi datblygu o’r system caeau a isrannwyd,
ond ar hyn o bryd, enwau lleoedd, fel Maes-glas, yw’r unig dystiolaeth
arall i ategu hyn. Yn Ynys-y-bont mae’r map degwm yn dangos y fferm
wedi’i hamgylchynu gan gaeau, gyda’r ardaloedd is, corsiog
wedi’u hisrannu (gan ffosydd draenio yn ôl pob tebyg) yn gaeau
mwy sy’n fwy rheolaidd. Fodd bynnag, mae map o ddiwedd y 18fed ganrif
(LlGC Trawsgoed Cyf 2, 19) yn dangos yr ardal gorsiog fel tir comin nas
rhannwyd. Dengys y dystiolaeth o fapiau bod yr ardal gorsiog hon, heblaw
am fferm Ynys-y-Bont, yn dir comin yn wreiddiol, sef estyniad o Gors Caron
yn ôl pob tebyg. Ar ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau’r
19eg ganrif, daeth y tir hwn o dan berchenogaeth breifat ac ymdrechwyd
i’w ddraenio. O gofio golwg fodern y tir, mae’n debygol nad
oedd y broses ddraenio hon erioed yn arbennig o lwyddiannus a throdd y
tir yn ôl i fod yn fignen yn ddigon buan. Fel yr awgryma’r
enw, roedd ac mae Ynys-y-bont yn anheddiad ar ynys o fewn môr o
fignen. Yn yr 19eg ganrif, datblygodd anheddiad bach ar ffurf clwstwr
ger capel Berth (a adeiladwyd yn 1840) yn Nhy’n yr eithen.
![Fullbrook](webphotos/fullbrook2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae hon yn ardal o dir tonnog i’r gorllewin o Gors
Caron. Mae’n amrywio mewn uchder o 160m yn ei ffin â Chors
Caron, i tua 230m ar sawl copa crwn. Mae’n dirwedd o ffermydd gwasgaredig
a chaeau bach, afreolaidd. Gwrthgloddiau â gwrychoedd yw ffiniau’r
caeau. Mae’r gwrychoedd mewn cyflwr da ar y cyfan ac yn gallu gwrthsefyll
stoc, er eu bod wedi tyfu’n wyllt yn rhan ddeheuol yr ardal. Dim
ond ar y tir uwch y mae’r gwrychoedd wedi syrthio ac mae angen eu
cryfhau â gwifren. Yn yr ardal hon, ceir ardal gorsiog sydd tua
160m ar ochr orllewinol Cors Canon, ond sy’n amgylchynu ynys o dir
uwch ar 170m lle y saif Fferm Ynys-y-bont. Nodweddir yr ardal hon gan
ddaear a orchuddir gan frwyn a dyddodion mawn ac fe’i rhennir gan
ffosydd draenio a ffensys gwifren. Mae’r rhan fwyaf o’r caeau
yn borfa sydd wedi gwella. Ceir ardaloedd o ddaear nad yw ei ansawdd gystal
– porfa arw a brwyn – ger Cors Caron, a cheir dyddodion mawnog
mewn rhai pantiau. Ceir sawl ardal o goed llydanddail, ac mae’r
rhain, ar y cyd â’r gwrychoedd sydd wedi tyfu’n wyllt
yn rhoi agwedd gymharol goediog i’r dirwedd yn rhan ddeheuol yr
ardal.
Heblaw am y clwstwr o dai o ddiwedd yr 19eg ganrif yn
Nhy’n yr eithen, a oedd yn dai i weithwyr fwy na thebyg, mae gan,
neu roedd gan, y rhan fwyaf o’r adeiladau yn yr ardal hon swyddogaeth
amaethyddol. Mae’r ffermydd yn fach. Cerrig lleol yw’r deunydd
adeiladu traddodiadol, gyda llechi (llechi gogledd Cymru) yn cael eu defnyddio
ar gyfer toeon, er y defnyddir brics glas ar gapel o ddiwedd yr 19eg ganrif
a brics coch ar gwpl o dai o ddyddiad tebyg. Mae’r muriau cerrig
naill ai wedi’u rendro â sment, eu gadael yn foel neu wedi’u
paentio (yr olaf o’r rhain fel arfer) ac maent bob amser yn foel
ar adeiladau fferm traddodiadol. Mae ffermdai/tai hyn yn dyddio bron i
gyd i gyfnod rhwng canol a diwedd yr 19eg ganrif, maent yn gymharol fach,
gyda dau lawr ac yn efelychu’r arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol,
gyda simneiau pen talcen, drws blaen yn y canol a dwy ffenestr i’r
naill ochr o’r drws ac un uwchben. Mae nodweddion brodorol cryf
fel bondo isel, ffenestri bach ac un simne yn fwy na’r llall, yn
bresennol yn y rhan fwyaf o’r tai, yn hytrach na nodweddion Sioraidd.
Ailadeiladwyd rhai ffermdai yn ddiweddar a cheir ychydig o dai/byngalos
o ddiwedd yr 20fed ganrif a dechrau’r 21ain ganrif ym mhen deheuol
yr ardal hon. Yn gyffredinol, cyfyngir yr adeiladau allan i un neu ddwy
rhes fechan, gyda rhai ohonynt wedi’u cysylltu â’i gilydd
ac wedi’u lleoli yn yr un llinell â’r ty. Mae sawl fferm
nad yw’n gweithio bellach ac ni ddefnyddir yr adeiladau allan. Mae
gan ffermydd sy’n gweithio resi canolig eu maint i resi mawr o adeiladau
amaethyddol modern a wnaethpwyd o ddur a choncrit.
Mae archeoleg gofnodedig yr ardal hon yn gyfoethog ac
yn amrywiol, ond caiff ei dominyddu gan safleoedd ôl-Ganoloesol
fel melin, pontydd, anheddau, capel a gefail. Mae safleoedd o gyfnodau
cynharach yn rhoi dyfnder amser i’r dirwedd hon ac maent yn cynnwys
mwnt Canoloesol, Castell Llwyn-gwinau, a safle melin Canoloesol, a chanfyddiadau
o’r cyfnod Neolithig, yr Oes Efydd a’r cyfnod Rhufeinig. Yn
arbennig o nodedig mae grwp o domenni neu aelwydydd wedi llosgi o’r
Oes Efydd – safleoedd anheddu posibl.
Mae’r ardal hon wedi’i diffinio’n arbennig
o dda i’r dwyrain lle y mae’n arwain hyd at Gors Caron, ond
mewn mannau eraill mae’n uno â’i hardaloedd cyfagos.
![Map Fullbrook](webphotos/fullbrookmap.jpg)
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |