Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Ffair Rhos

FFAIR RHOS

CYFEIRNOD GRID: SN 745678
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 165.5

Cefndir Hanesyddol

Gorweddai Ffair Rhos o fewn Maenor Mefenydd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur, y rhoddwyd ffair iddi gan yr Abaty. Ar ôl diddymu’r Abaty, ffeiriau Ffair Rhos oedd y rhai mwyaf yng Ngheredigion. Cynhelid ffeiriau ar 25 Gorffennaf, 15 Awst a 14 Medi, ac yng nghyfnod Iago I yn ôl y sôn byddent yn denu 5000-6000 o bobl (Howells 1974/75, 270). Mae Jones (1974, 17) yn nodi bod un ffair yn dal i gael ei chynnal ym 1974. Un o atyniadau’r ffeiriau oedd y cysylltiadau trafnidiaeth; lleolir Ffair Rhos wrth gyffordd llwybr pwysig o’r gogledd i’r de a llwybr o’r dwyrain i’r gorllewin sy’n mynd dros y mynyddoedd gan roi mynediad i drefi dwyrain Cymru a Lloegr. Mae’r patrwm anheddu a’r defnydd a wneid o’r tir yn y cyfnod Canoloesol yn anhysbys. Pan ddiddymwyd yr Abaty rhoddwyd ei gyn-diroedd i Iarll Essex, ac ym 1630 prynodd ystad Trawscoed y mwyafrif ohonynt. Dengys map a dynnwyd ar gyfer ystad Trawscoed ym 1815 (LlGC Trawscoed 347), yr ymddengys ei fod ar gyfer deddf amgáu nas dyfarnwyd erioed, wasgariad o dyddynnod ar draws Ffair Rhos. Nid oes unrhyw gofrestr yn mynd gyda’r map, ond ymddengys mai aneddiadau sgwatwyr ar dir comin oedd y rhain, ac efallai y dangosir rhywfaint o wahaniaeth rhwng y rhai a oedd wedi’u sefydlu ers 20 mlynedd neu ragor, yr oedd yn rhaid rhoi’r teitl cyfreithiol i’r tir iddynt, a’r rhai a oedd wedi’u sefydlu ers llai nag 20 mlynedd. Gan na roddwyd unrhyw ddyfarniad amgáu, ymddengys i anheddu gan sgwatwyr a gweithgarwch amgáu ar raddfa fach fynd yn eu blaen yn gyflym yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif, am fod map degwm 1847 (Map Degwm a Rhaniad Gwnnws, 1847) yn cofnodi mwy o fythynnod a thyddynnod. Cyrhaeddodd y gweithgarwch anheddu ei anterth yng nghanol y 19eg ganrif. Adeiladwyd dau gapel yma, un ym 1905 (Percival 1998, 523). Mae’n segur bellach. Moderneiddiwyd llawer o’r anheddau yn dyddio o’r 19 ganrif yn ddiweddar, neu maent wrthi’n cael eu moderneiddio.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon yn cynnwys dyffryn neu bant ucheldirol agored rhwng 240m i 400m wedi’i ganoli ar bentrefan Ffair Rhos. Anheddiad llinellol bach ar y naill ochr a’r llall i isffordd yw Ffair Rhos ac ar bob tu iddo ceir ffermydd, bythynnod a thyddynnod gwasgaredig. Carreg leol yw’r deunydd adeiladu traddodiadol ac mae llechi (llechi gogledd Cymru) wedi’u defnyddio ar gyfer y toeau. Fel arfer mae’r waliau wedi’u rendro â sment ar dai ac maent yn foel ar adeiladau fferm traddodiadol. Mae’r tai hþn, y mae bron pob un ohonynt yn dyddio o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd, yn gymharol fach, mae ganddynt ddau lawr neu un llawr a hanner (er y ceir o leiaf un bwythyn unllawr). Maent wedi’u hadeiladu yn yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol – sef simneiau yn nhalcennau’r tþ, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben - ond ceir nodweddion brodorol cryfach megis bondo isel a ffenestri bach ar y mwyafrif o’r tai yn hytrach nag elfennau Sioraidd. Moderneiddiwyd ac ymestynnwyd llawer o’r tai hyn yn ddiweddar. Lleolir teras byr o dai gweithwyr yn Ffair Rhos, ond mae (neu roedd) gan y mwyafrif o’r tai swyddogaeth amaethyddol, gydag adeiladau allan wedi’u hadeiladu o gerrig, a gyfyngir fel arfer i un neu ddwy res, sydd weithiau ynghlwm wrth y tþ ac yn yr un llinell ag ef. Ceir nifer o ffermydd nad ydynt yn gweithio bellach ac ni ddefnyddir eu hadeiladau allan neu maent wedi’u haddasu. Mae gan ffermydd gweithredol resi bach o adeiladau amaethyddol dur a choncrid modern. Mae nifer fach o dai/byngalos modern ger Ffair Rhos. Ceir dau gapel bach nas defnyddir bellach.

Tir pori garw yw’r defnydd a wneir o’r tir, sy’n tueddu tuag at rostir nas porir. Mae dyddodion mawnaidd yn gyffredin. Ceir rhywfaint o dir pori wedi’i wella ar dir is tua phen dwyreiniol yr ardal. Nid oes unrhyw glystyrau sylweddol o goed. Mae’r ardal gyfan wedi’i pharselu’n system o gaeau afreolaidd eu siâp. Rhennir y caeau hyn gan gloddiau neu gloddiau pridd a cherrig. At ei gilydd ni cheir unrhyw wrychoedd ac eithrio ar y tir is ger pentrefan Ffair Rhos, ond hyd yn oed yma maent wedi’u hesgeuluso ac ni allant gadw stoc bellach. Erbyn hyn ceir ffensys gwifrau ar y cloddiau ffin hþn, a chrëwyd rhai ffiniau gwifrau newydd. Nid yw llawer o’r caeau hþn ar y llethrau uwch yn gweithredu bellach ac maent wedi’u cyfuno i ffurfio unedau mwy o faint. Mae Williams (1990, 59) yn cofnodi ffin berimedr Ganoloesol i Ffair Rhos, ond nis gwelwyd gan yr awdur presennol.

Ar wahân i fwynglawdd metel dinod a chapel diangen; mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys nifer o fythynnod anghyfannedd.

Nid oes i’r ardal hon ffiniau arbennig o bendant. I’r gogledd, i’r dwyrain ac i’r gorllewin mae’n ymdoddi i rostir agored neu dir y mae’r rhan fwyaf ohono bellach wedi troi’n rhostir unwaith eto. I’r gorllewin ceir tir yn cynnwys caeau mawr o dir wedi’i wella a thir heb ei wella.

Ffair Rhos

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221