![](../../shim.gif) |
![Dyffryn Castell](webphotos/dyffryncastell.jpg)
DYFFRYN CASTELL
CYFEIRNOD GRID: SN 780818
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 198.9
Cefndir Hanesyddol
Ni wnaed unrhyw ymchwil i hanes cynnar yr ardal hon. Erbyn diwedd y 18fed
ganrif roedd rhan o’r ardal hon wedi dod i feddiant ystad Nanteos.
Erbyn dechrau’r 19eg ganrif dengys mapiau o’r ystad (LlGC
Cyf 45, 24, 26) dirwedd o ffermydd gwasgaredig, tir amgaeëdig ar
lawr y dyffryn, a chaeau mwy o faint ar lethrau isaf y dyffryn sy’n
cael eu disodli gan dir agored ar lefelau uwch. Fodd bynnag, gwnaed rhywfaint
o waith i isrannu caeau ers hynny. Er enghraifft, ym 1819, cynhwysai Fferm
Troed rhiw-goch un annedd mewn cae mawr iawn, erbyn hyn mae wedi’i
isrannu. Mae’n debyg bod patrwm anheddu a system gaeau’r ardal
yn gyffredinol yn dyddio o ddiwedd y Cyfnod Canoloesol o leiaf. Ym 1770,
agorwyd ffordd dyrpeg, a âi trwy’r ardal hon o’r Amwythig
drosodd i Bontarfynach ac ymlaen i Aberystwyth. Agorodd ffordd dyrpeg
newydd ym 1812 a dilynai lwybr yr hen un o’r dwyrain i Westy Dyffryn
Castell lle y fforchiai gan ddilyn llwybr mwy uniongyrchol i Aberystwyth
trwy Bonterwyd. Mae ffordd bresennol yr A44 yn dilyn yr un llwybr. Mae’n
amlwg i ffyrdd tyrpeg symbylu masnach, gan arwain at adeiladu Gwesty Dyffryn
Castell, ond nid yw’n glir i ba raddau y symbylwyd y diwydiant cloddio
ganddynt. Dechreuodd y mwynglawdd ar raddfa fawr cyntaf yn yr ardal, sef
Castell, weithredu ym 1785, ond caeodd ym 1803. Fe’i hailagorwyd
sawl gwaith yn ystod y 19eg ganrif, a chaeodd o’r diwedd ym 1908
(Bick 1983, 10). Gall lefelydd ym mwynglawdd Esgairlle fod yn hen iawn
am i arteffactau trin mwyn wedi’u gwneud o garreg gael eu darganfod
yma. Dechreuwyd gweithio lefelydd masnachol yn y mwynglawdd hwn ym 1846,
a chaeodd ym 1892 (Bick 1983, 10-11). Cofnodir yr ardd yng Ngwesty Dyffryn
Castell ar Gronfa Ddata Gerddi Hanesyddol Cymru.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Yn ei hanfod mae’r ardal hon yn cynnwys llawr a llethrau isaf
dyffryn Afon Castell, a leolir rhwng 160m a 260m. Tir pori wedi’i
wella a geir yn bennaf, ond ceir tir pori mwy garw yn gorwedd ar y llethrau
serth, a cheir tir mawnaidd a brwynog mewn pantiau ar lawr y dyffryn.
Mae’r tir pori wedi’i wella yn cael ei ddisodli gan rostir
agored neu blanhigfeydd mawr o goedwigoedd ar lefelau uwch. Ceir planhigfeydd
bach o gonifferau yn yr ardal hon, ond ar wahân i’r rhain,
tirwedd heb goed ydyw. Mae’r tir wedi’i rannu’n gaeau
o faint canolig i fawr ar lawr y dyffryn ac yn gaeau mawr ar lethrau’r
dyffryn. Rhennir y caeau hyn gan gloddiau. Erbyn hyn nid oes unrhyw wrychoedd
wedi goroesi yn unman. Mae ffensys gwifrau yn ffurfio ffiniau cadw stoc.
Yng Ngwesty Dyffryn Castell mae waliau sych yn diffinio padogau bach;
mae’r waliau hyn mewn cyflwr gwael. Mae’r ddau fwynglawdd
metel, sef Castell ac Esgairlle, yn elfennau tirwedd amlwg. Tomenni ysbwriel
a hen lefelydd yw nodwedd dirwedd amlycaf y mwyngloddiau hyn, ond yng
Nghastell mae hen adeiladau’r mwynglawdd yn nodweddion tra gweladwy
sy’n dwyn i gof y diwydiant hwn a arferai fod yn bwysig. Mae llwybr
troellog y ffordd dyrpeg, sef ffordd bresennol yr A44, ar lethr ogleddol
y dyffryn yn elfen dirwedd nodedig a phwysig arall yn yr ardal hon.
Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig a leolir ar waelod
llethrau’r dyffryn neu ar derasau ar lefelau uwch. Mae nifer fechan
o ffermydd a bythynnod anghyfannedd ar draws yr ardal. Carreg leol yw’r
deunydd adeiladu traddodiadol ac mae llechi (llechi gogledd Cymru yn ôl
pob tebyg) wedi’u defnyddio ar gyfer y toeau. Mae’r waliau
naill wedi’u rendro â sment neu wedi’u gadael yn foel
ar dai. Mae’r mwyafrif o’r ffermdai/tai hyn yn dyddio o ganol
y 19eg ganrif hyd ei diwedd, maent yn gymharol fach, mae ganddynt ddau
lawr ac maent yn yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol. Mae un tþ,
yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif yn ôl pob tebyg, sydd ag un llawr
a hanner ac sydd yn y traddodiad brodorol, ac mae gan Westy Dyffryn Castell
nodweddion Sioraidd cryf. Ceir o leiaf un ffermdy modern. Fel arfer cyfyngir
adeiladau allan wedi’u hadeiladu o gerrig i un neu ddwy res fach,
ac mae rhai ynghlwm wrth y tþ ac yn yr un llinell ag ef. Ceir nifer
o ffermydd nad ydynt yn gweithio bellach ac ni ddefnyddir eu hadeiladau
allan. Mae gan yr unig fferm y mae’n amlwg ei bod yn gweithio resi
helaeth iawn o adeiladau amaethyddol dur a choncrid modern. Ceir grðp
o adeiladau amaethyddol modern ar wahân hefyd.
Ar wahân i’r archeoleg sy’n gysylltiedig â’r
diwydiant cloddio metel ac aneddiadau anghyfannedd, lleolir anheddiad
Canoloesol â ffos o’i amgylch – sef Llys Arthur –
o fewn yr ardal hon, yn ogystal â safle cylch cerrig Neolithig posibl.
Mae hon yn ardal dirwedd wedi’i diffinio’n dda. Ar bob ochr,
ceir rhosdi’r uchel, agored neu goewig yn dyddio o’r 20fed
ganrif.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |