![Dolbeudiau-Dolyrychain](webphotos/dolbeudiaudolyrychain.jpg)
DOLBEUDIAU – DOLYRYCHAIN
CYFEIRNOD GRID: SN 712659
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 124.7
Cefndir Hanesyddol
Yn y Cyfnod Canoloesol gorweddai’r ardal hon o
fewn Maenor Penardd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Yn debyg i faenorau
eraill yr abaty mae’n debyg, erbyn diwedd y Cyfnod Canoloesol, os
nad ynghynt, fod Penard wedi’i rhannu’n ffermydd a gâi
eu prydlesu yn fasnachol. Pan ddiddymwyd yr abaty rhoddwyd ei diroedd
i Iarll Essex, a’u gwerthodd ar ôl hynny i ystad Trawscoed
ym 1630. Mapiau o ystad Trawscoed yw’r darluniad cartograffig ar
raddfa fawr cynharaf o’r ardal. Dengys y mapiau hyn dyddiedig 1781
(LlGC Trawscoed Cyf 1, 6 a 8) dirwedd sy’n newid. Roedd ffermydd
Dolbeudiau, Brynhope a Dolyrychain i gyd yn bodoli, ac ar bob tu i bob
fferm roedd ychydig o gaeau bach wedi’u gwahanu gan dir anamgaeëdig,
agored. Erbyn yr arolwg degwm (plwyf Caron 1845) roedd system gaeau heddiw
wedi’i sefydlu ac roedd yr ardal gyfan wedi’i gorchuddio â
chaeau o faint bach i ganolig. Er y byddai angen gwneud rhagor o ymchwil
i gadarnhau hynny, mae’n bosibl i ffermydd yr ardal hon gael eu
sefydlu ar dir agored ar gyrion Cors Caron ar ddiwedd y Cyfnod Canoloesol
neu ddechrau’r cyfnod modern, er mwyn defnyddio’r gors at
ddibenion pori anifeiliaid a chywain gwair.
![Dolbeudiau-Dolyrychain](webphotos/dolbeudiaudolyrychain2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal hon yn cynnwys esgair donnog isel
rhwng 160m a 210m yn ffinio ag ochr orllewinol Cors Caron. I’r gorllewin
ac i’r gogledd mae’r tir yn disgyn yn gyflym at y gors, i’r
de ac i’r dwyrain mae llethrau’n disgyn yn fwy graddol i dir
ffermio is. Nodweddir y patrwm caeau gan gaeau bach, afreolaidd eu siâp
gerllaw’r ffermydd a chaeau mwy rheolaidd o faint canolig ymhellach
allan, a chaeau mawr ar y llethr yn edrych dros Gors Caron. Rhennir y
caeau gan gloddiau neu gloddiau â wyneb o gerrig ac arnynt wrychoedd.
Mae’r gwrychoedd mewn cyflwr gweddol ar y llethrau dwyreiniol isaf,
ond mewn mannau eraill maent wedi tyfu’n wyllt, wedi’u hesgeuluso
neu maent wedi dirywio. Erbyn hyn mae ffensys gwifrau yn darparu’r
prif atalfeydd cadw stoc. Tir pori wedi’i wella a geir yn bennaf,
a cheir darnau o dir mwy garw, brwynog mewn pantiau. Ar wahân i
blanhigfa fach o gonifferau, ychydig o goed sydd yno.
Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig.
Mae’r ffermydd ychydig yn fwy o faint na’r cyffredin ar gyfer
y rhanbarth. Carreg leol yw’r deunydd adeiladu traddodiadol ac mae
llechi (llechi gogledd Cymru) wedi’u defnyddio ar gyfer y toeau.
Fel arfer mae’r waliau wedi’u rendro â sment ar dai
ac wedi’u gadael yn foel ar adeiladau fferm traddodiadol. Mae bron
yr holl ffermdai/tai yn dyddio o’r 19eg ganrif, mae ganddynt ddau
lawr ac maent yn yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol - sef simneiau
yn nhalcennau’r tþ, drws ffrynt canolog, a dwy ffenestr ar
y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Mae gan
y mwyafrif o’r tai nodweddion Sioraidd cryfach - sef ffenestri mawr,
ystafelloedd uchel a chynllun/drychiad cymesur - yn hytrach nag elfennau
brodorol. Mae adeiladau allan wedi’u hadeiladu o gerrig yn cynnwys
nifer o resi wedi’u gosod yn lled-ffurfiol o amgylch iardiau, er
y ceir adeiladau llai o faint wedi’u lleoli’n anffurfiol ar
ffermydd llai o faint. Mae gan ffermydd gweithredol resi sylweddol o adeiladau
amaethyddol dur a choncrid modern.
Mae’r unig archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal yn
cynnwys bwthyn ôl-Ganoloesol.
Mae’r ardal hon wedi’i diffinio’n glir
gan Gors Caron i’r gorllewin ac i’r gogledd, ond mewn mannau
eraill, mae’r ardal hon yn tueddu i ymdoddi i’w chymdogion.
![Map Dolbeudiau-Dolyrychain](webphotos/dolbeudiaudolyrychainmap.jpg)
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |