![](../../shim.gif) |
![Cyrtau a Bryn Hownant](webphotos/cyrtaubrynhownant.jpg)
CYRTAU A BRYN-HOWNANT
CYFEIRNOD GRID: SN 705601
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 117.8
Cefndir Hanesyddol
Mae hanes cynnar yr ardal yn aneglur. Efallai ei bod
yn rhan o un o faenorau Abaty Ystrad Fflur, neu’n rhan o ddemên
yr abaty. Rhoddwyd y maenorau i Iarll Essex pan ddiddymwyd yr abaty, ac
fe’u gwerthodd i ystad Trawscoed ym 1630. Ar ddiwedd y 18fed ganrif
roedd rhywfaint o dir yn yr ardal hon ym meddiant Trawscoed, ac efallai
mai fel hyn y daeth yn rhan o’r ystad. Trosglwyddwyd demên
yr abaty i John Stedman ym 1567. Fodd bynnag, bu farw Richard Stedman
heb wneud ewyllys ym 1746 a throsglwyddwyd yr ystad i’r teulu Powell
o Nanteos. Roedd gan Nanteos ddaliadau sylweddol yma yn y 19eg ganrif.
Mae’n debyg, erbyn diwedd y Cyfnod Canoloesol, os nad ynghynt, fod
maenorau a demenau abatai wedi’u rhannu’n ffermydd a gâi
eu prydlesu yn fasnachol. Mae tystiolaeth hefyd bod rhai daliadau yn yr
ardal hon, erbyn y 18fed ganrif, ym meddiant ystad arall, sef ystad Llanfair
Clydogau a oedd yn eiddo i Thomas Johnes, a allai fod wedi dod i’w
feddiant o ganlyniad i brynu rhan o ystad Esgob Tyddewi yn Llanddewi-Brefi.
Pa system dirddaliadaeth bynnag a fodolai, mae’r dirwedd hon wedi
newid gryn dipyn yn ystod y 200 mlynedd diwethaf. Dengys map o’r
ystad dyddiedig 1819 (LlGC Cyf 45, 70) yr ardal o amgylch fferm Waun-Gota
a sefydlwyd yn ddiweddarach (ni sefydlwyd fferm Waun-Gota tan ar ôl
1845) fel tir agored yn gymysg â lleiniau, ond i’r dwyrain
o Gyrtau fel caeau o faint canolig. Dengys map cynharach dyddiedig 1791
(LlGC Cyf 36, 151) y llechwedd i’r dwyrain o Fryn-Hownant fel llain-gaeau
gwasgaredig. Erbyn arolwg degwm 1845 (Map Degwm a Rhaniad Caron) dim ond
ychydig o leiniau gerllaw Waun-gota a gofnodwyd; roedd y gweddill wedi’u
hamgáu. O’r ffynonellau map hanesyddol hyn ymddengys i’r
rhandir hwn o gaeau rheolaidd, o faint canolig, ddatblygu o system o gaeau
isranedig (y mae bron yn sicr ei fod yn dir pori wedi’i rannu ac
nid tir âr), a oedd yn dal i fod yn rhannol weithredol drwodd i’r
cyfnod rhwng dechrau a chanol y 19eg ganrif. Ar fapiau modern dangosir
yr ardal o gyn-lain-gaeau yng nghyffiniau fferm Waun Gota fel cyfres o
gaeau hirsgwar wedi’u halinio o’r gogledd-orllewin i’r
de-ddwyrain. Crëwyd y daliad a elwir yn Waun-Gota allan o’r
system gynharach o leiniau. Yn debyg i ardaloedd eraill mae pwysau a newidiadau
demograffig wrth wraidd y patrwm hwn yn perthyn i’r 19eg ganrif:
pwysau mawr ar dir ymylol yn hanner cyntaf y ganrif, allfudo, diboblogi
a chyfuno daliadau yn yr ail hanner.
![Cyrtau a Bryn Hownant](webphotos/cyrtaubrynhownant2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Ardal o gaeau rheolaidd o faint canolig ar lethrau Afon
Groes sy’n wynebu’r gogledd-orllewin a’r de-orllewin
ac sy’n disgyn yn raddol rhwng 200m a 320m. Rhennir y caeau gan
gloddiau ac arnynt wrychoedd. Ar y llethrau isaf mae’r gwrychoedd
mewn cyflwr eithaf da, yn uwch i fyny’r llethrau maent wedi’u
hesgeuluso ac ar y lefelau uchaf mae ffensys gwifrau wedi’u rhoi
yn eu lle, hyd yn oed lle y maent mewn cyflwr eithaf da ategir y gwrychoedd
gan ffensys gwifrau. Tir pori wedi’i wella a geir yn bennaf yn yr
ardal, er bod llain sylweddol o dir pori o ansawdd gwael a thir brwynog
yn y pen gogledd-ddwyreiniol gerllaw Waun-Gota. Nid oes unrhyw aneddiadau
yn yr ardal.
Mae’r unig archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys bwthyn
ôl-Ganoloesol.
Nid yw’r ffiniau rhwng yr ardal hon a thir is yn
glir iawn, ond tua’r tir uwch, agored mae’r ffiniau’n
fwy pendant.
![Cyrtau a Bryn Hownant](webphotos/cyrtaubrynhownantmap.jpg)
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |