![](../../shim.gif) |
![Cwm Gwyddyl](webphotos/cwmgwyddyl.jpg)
CWM GWYDDYL
CYFEIRNOD GRID: SN 740693
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 596.9
Cefndir Hanesyddol
Yn y Cyfnod Canoloesol gorweddai’r ardal hon o fewn Maenor Mefenydd
a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Fel maenorau eraill, mae’n
debyg erbyn diwedd y Cyfnod Canoloesol fod Mefenydd wedi’i rhannu’n
ffermydd unigol a gâi eu prydlesu yn fasnachol. Fel hyn efallai
y sefydlwyd y ffermydd yn yr ardal hon. Pan ddiddymwyd Ystrad Fflur rhoddwyd
tiroedd yr abaty i Iarll Essex. Ym 1630, prynodd ystad Trawscoed y rhan
fwyaf ohonynt. Ymddengys fod yr ardal hon yn un ymylol a deinamig ac mae
mapiau hanesyddol yn cadarnhau natur ddeinamig y dirwedd (Map Degwm a
Rhaniad Gwnnws, 1847; LlGC Trawscoed Cyf 1, 66, 68; LlGC Trawscoed 340;
LlGC Morgan Richardson Adnau Rhif 4 a 5). Dengys mapiau ystad yn dyddio
o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif sawl math o dirwedd.
Yn y de dangosir ardal Bryn Capel fel un agored, a dangosir yr ardal o
amgylch Fferm Llethr fel nifer o gaeau bach mewn ffridd agored; yr un
yw’r disgrifiad o Ysguboriau a Thynpontpren. At ei gilydd yn ystod
y cyfnod hwn roedd hon yn ardal o ffermydd gwasgaredig â chaeau
neu badogau bach wedi’u lleoli mewn tir agored. Erbyn yr arolwg
degwm (Gwnnws 1847) roedd rhai o’r ffriddoedd wedi’u hamgáu
ac roedd caeau mwy o faint wedi’u hisrannu. Ymddengys i’r
broses hon barhau drwy gydol y 19eg ganrif. Yn yr 20fed ganrif dirywiodd
y system amaethyddol, a gadawyd ffermydd a bythynnod. Gadawyd i lawer
o gaeau droi’n dir pori garw unwaith eto.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal hon yn cynnwys dyffryn agored, eang, helaeth sydd
bellach yn cynnwys nant afrwydd. Mae’n amrywio o ran uchder o 200m
yn y pennau deheuol a gogleddol i 340m ar y llethrau dwyreiniol. Mae golwg
ardal gydryw o dir pori garw a rhostir agored, yn gymysg â thir
pori wedi’i wella, yn cuddio hanes tirwedd cymhleth. Roedd yr ardal
hon i gyd wedi’i amgáu gynt. Mae maint y caeau yn amrywio’n
fawr o rai bach i rai mawr, mae’r caeau llai o faint fel arfer yn
agosach at ffermydd. Mae’r mathau o ffiniau yn amrywio, ond y clawdd
yw’r math mwyaf cyffredin. Ceir cloddiau â wyneb o gerrig
ac ambell wal sych hefyd. Mae’r gwrychoedd wedi diflannu neu maent
wedi’u hesgeuluso’n fawr ac mae ffensys gwifrau wedi’u
hychwanegu atynt. Yn achlysurol iawn rhennir caeau gan ffosydd. Mae llawer
o gaeau wedi’u cyfuno i ffurfio unedau mwy o faint, neu nid ydynt
yn cael eu defnyddio bellach. Yr argraff gyffredinol a rydd yr ardal hon
yw un o dir pori garw iawn, yn tueddu tuag at rostir â dyddodion
mawnaidd mewn pantiau. Fodd bynnag, ceir lleiniau sylweddol o dir pori
wedi’i wella. Mae’r rhain yn dueddol o fod wedi’u lleoli
lle y mae’r system gaeau wedi cael ei chynnal a’i chadw. Nodweddir
y patrwm anheddu gan ffermydd a bythynnod gwasgaredig, gan gynnwys sawl
safle anghyfannedd. Mae sawl planhigfa fach o goed coniffer wedi’u
gwasgaru ar draws y dirwedd, ond ar wahân i’r rhain, ardal
ddi-goed ydyw yn ei hanfod. Mae olion y diwydiant cloddio metel wedi’u
gwasgaru ar draws rhan ddwyreiniol yr ardal, ond mae’r rhain yn
ddinod o’u cymharu â’r olion yn yr ardal gyfagos i’r
dwyrain.
Mae’n debyg bod yr adeiladau hþn yn dyddio o ganol y 19eg
ganrif hyd ei diwedd ac maent wedi’u hadeiladu o gerrig sydd fel
arfer wedi’u rendro â sment ar dai ac wedi’u gadael
yn foel ar adeiladau allan. Mae gan y tai ddau lawr ac maent yn yr arddull
frodorol Sioraidd ranbarthol – sef simneiau yn nhalcennau’r
tþ, drws ffrynt canolog, dwy ffenestr ar y naill ochr a’r
llall i’r drws ac un uwch ei ben. Ceir nodweddion brodorol cryf
megis bondo isel, cynllun llawr anghymesur, ffenestri bach ac un simnai
sy’n fwy na’r llall ar rai tai. Mae rhai ffermdai wedi’u
hailadeiladu/adnewyddu neu maent wedi’u disodli gan dai neu fyngalos
modern. Mae adeiladau allan ffermydd yn dyddio o’r bedwaredd ganrif
ar bymtheg fel arfer yn fach ac maent yn ffurfio un neu ddwy res, ond
mae cwpl o enghreifftiau mwy o faint ar rai ffermydd. Nid yw’r ffermydd
fel y dangosir gan eu hadeiladau yn amrywio’n fawr, ond ceir ffermydd
o wahanol faint fel y dangosir gan y ffaith bod gan ffermydd llai o faint
un rhes o adeiladau allan ynghlwm wrth y tþ ac yn yr un llinell
ag ef, drwodd i ffermydd mwy o faint y mae eu hadeiladau wedi’u
gosod yn fwy ffurfiol o amgylch iard. Mae gan y mwyafrif o ffermydd gweithredol
adeiladau amaethyddol dur a choncrid modern bach, ond ceir cwpl o enghreifftiau
o adeiladau modern mawr iawn. Mae nifer o fythynnod, tai a bythynnod anghyfannedd
yn y dirwedd hon.
Yn ogystal â bythynnod anghyfannedd ac olion y diwydiant cloddio
metel, mae dau faen hir yn dyddio o’r Oes Efydd yn cynrychioli archeoleg
gofnodedig yr ardal hon. Mae’r rhain yn darparu dyfnder amser i’r
dirwedd.
Nid yw ffiniau’r ardal hon yn arbennig o bendant i’r dwyrain
ac i’r gorllewin, a cheir yr un patrwm o gaeau mawr a thir o ansawdd
gwael yn yr ardaloedd cyfagos hyn. I’r gogledd ac i’r de ac
i’r de-orllewin mae’r ffiniau yn fwy pendant lle y ceir lleiniau
o dir wedi’i wella a chaeau llai o faint.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |