Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Craig Ystradmeurig

CRAIG YSTRADMEURIG

CYFEIRNOD GRID: SN 705684
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 63.0

Cefndir Hanesyddol

Yn y Cyfnod Canoloesol mae’n debyg y gorweddai’r ardal hon o fewn Maenor Mefenydd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Pan ddiddymwyd yr abaty mae’n debyg i’w chymeriad ucheldirol sicrhau yr ystyrid mai tir y Goron ydoedd. Cyn hynny byddai’r tir agored hwn wedi bod yn llawer mwy helaeth, a byddai wedi’i chysylltu ag ardal i’r gogledd-ddwyrain, ond fe’i hynyswyd i bob pwrpas o ganlyniad i greu caeau mawr yn ffinio â’r ardal hon yn y 19eg ganrif (Map Degwm a Rhaniad Spytty Ystrad Meurig, 1843).

Craig Ystradmeurig

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Llain fach o ucheldir creigiog rhwng 200m a 340m. Wedi’i chynnwys yn yr ardal mae clogwyn Craig Ystradmeurig sy’n wynebu’r gorllewin. Ardal agored ydyw yn ei hanfod, er y ceir rhai waliau sych sydd wedi’u dymchwel ac mae ffensys gwifrau yn ei rhannu’n gaeau mawr iawn. Ceir tir pori wedi’i wella, yn arbennig ar y copaon, ond mae’r llethrau creigiog serth wedi’u gorchuddio â thir pori garw.

Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys bryngaer sylweddol yn dyddio o’r Oes Haearn a chrug crwn yn dyddio o’r Oes Efydd.

Mae i’r ardal hon ffiniau pendant i’r de, i’r gorllewin ac i’r gogledd lle y mae’n cwrdd ag ardaloedd a nodweddir gan systemau caeau o gaeau bach. I’r dwyrain mae’n ymdoddi i lain o gaeau mawr o dir pori wedi’i wella.

Map o ardal Craig Ystradmeurig

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221