Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Craig y Fintan

CRAIG-Y-FINTAN

CYFEIRNOD GRID: SN 709576
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 182.9

Cefndir Hanesyddol

Erbyn hyn mae planhigfa o goedwigoedd yn gwahanu’r llain hon o ucheldir a’r lleiniau mwy o faint o rostir agored ymhellach i’r dwyrain ac i’r de. Nid yw hanes yr ardal yn hysbys, ond mae’n debyg yr ystyrid mai tir agored y Goron ydoedd am ran helaeth o’r gorffennol diweddar. Yn ei hanfod mae’n dal i fod yn agored, er iddi gael eu rhannu’n gaeau mawr. Nid oes unrhyw aneddiadau.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae hon yn llain hirsgwar o rostir sy’n codi o 246m ar ei chwr gogleddol i 485m lle y mae ar ei huchaf. Nodweddir ei chwr gogleddol gan lethr dyffryn creigiog serth yn wynebu’r gogledd, sy’n codi at lwyfandir tonnog o dir pori garw, rhostir a dyddodion mawn. Arferai’r llain hon o rostir fod yn rhan o ardal eang o dir agored, ond erbyn hyn mae planhigfa o goedwigoedd yn gwahanu’r llain hon o ucheldir a’r rhostir agored i’r dwyrain ac i’r de, ac o ganlyniad mae wedi colli rhywfaint o’i chydlyniad a’i chyfanrwydd. Heddiw mae’r ardal yn dal i weithredu fel ffridd. Ceir rhai waliau sych yn rhannu’r ardal, ond erbyn hyn mae’r rhain at ei gilydd wedi’u hesgeuluso ac mae ffensys gwifrau wedi’u hychwanegu atynt. Ymddengys fod y waliau yn gwahanu’r tir agored a’r tir amgaeëdig i’r gorllewin yn wreiddiol, a’u bod yn rhannu’r ardal yn gaeau mawr iawn.

Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys mwynglawdd metel bach, a chrug crwn yn dyddio o’r Oes Efydd.

Mae i’r ardal ffiniau pendant a cheir llawr dyffryn i’r gogledd, planhigfa o goedwigoedd i’r dwyrain ac i’r de, a thir amgaeëdig i’r gorllewin.

Map o ardal Craig y Fintan

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221