Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Cors Caron

CORS CARON

CYFEIRNOD GRID: SN 696640
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 1067

Cefndir Hanesyddol

Yn y Cyfnod Canoloesol roedd ardal Cors Caron wedi’i rhannu rhwng maenorau Penardd, Blaenaeron a Mefenydd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Mae hanes yr ardal ar ôl diddymu’r abaty yn ansicr, ond mae’n debyg i’w chymeriad agored sicrhau i’r Goron ei hawlio. Ym mhob cyfnod bu Cors Caron yn ffynhonnell mawn, a darparai gyfleoedd i hela adar dðr, pori anifeiliaid yn yr haf a chywain gwair. Roedd gweithgarwch torri mawn wedi’i ganoli ar y rhan o’r gors gerllaw Tregaron. Yn ystod y blynyddoedd yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf buwyd yn torri mawn â pheiriannau, ond ni pharodd hynny yn hir (Cyngor Cefn Gwlad Cymru 1995). Mae Rheilffordd Milford a Manceinion, a agorwyd ym 1866 ac a gaewyd ym 1964, yn croesi’r gors o’r de i’r gogledd. Nid amgaewyd y gors erioed. Mae’n bwysig i’r dirwedd hanesyddol oherwydd ei chofnod o hanes llystyfiannol a newidiadau yn yr hinsawdd a gynhwysir o fewn y dyddodion mawn (gweler Turner 1964). Erbyn hyn mae’n Warchodfa Natur ddynodedig.

Cors Caron

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Ardal o gyforgors agored yw Cors Caron sy’n ymestyn dros 1000 o hectarau sydd tua 165m o uchder. Mae Afon Teifi yn llifo i lawr canol yr ardal o’r gogledd i’r de. Ceir nifer o lynnoedd agored o ddðr ar y gors; y caiff rhai ohonynt eu cynnal a’u cadw yn artiffisial. Mae tystiolaeth ar yr wyneb o weithgarwch torri mawn yn y gorffennol, yn arbennig yn y pen deheuol gerllaw Tregaron. Mae rhai hen ffiniau i’w gweld ar ffiniau deheuol a gogleddol y gors, ac mae coetir yn tresmasu rywfaint ar y gors ar yr ochr ogleddol. Ar wahân i’r rhain, cors yw’r ardal gyfan.

Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys pont ôl-ganoloesol Pont Einion (ddyddiedig 1805 ac sydd bellach yn rhestredig), llwybr Canoloesol posibl ac ardal gladdu yn y gors yn dyddio o’r Oes Haearn, nad yw ei hunion leoliad yn hysbys.

Mae i Gors Caron ffiniau pendant ar bob ochr, ond yn arbennig ar yr ochr orllewinol a’r ochr ddwyreiniol lle y mae’r tir yn codi’n serth at dir pori wedi’i wella.

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221