![Cefn Meurig](webphotos/cefnmeurig.jpg)
CEFN-MEURIG
CYFEIRNOD GRID: SN 725680
ARWYNEBEDD MEWN GRID: 166.4
Cefndir Hanesyddol
Yn y Cyfnod Canoloesol gorweddai rhan o’r ardal
gymeriad hon o fewn maenor Mefenydd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur.
Pan ddiddymwyd yr abaty, rhoddwyd llawer o’i diroedd i Iarll Essex,
y prynwyd y mwyafrif ohonynt gan ystad Trawscoed ym 1630, gan gynnwys
tir yn yr ardal hon. Yn debyg i faenorau eraill a oedd yn eiddo i Ystad
Fflur, mae’n debyg bod Mefenydd wedi’i rhannu’n ffermydd
a gâi eu prydlesu yn fasnachol erbyn diwedd y Cyfnod Canoloesol,
os nad ynghynt. Mae’n bosibl felly i’r patrwm anheddu yn yr
ardal hon gael ei sefydlu yn y 15fed ganrif neu’r 16eg ganrif. Ar
fapiau hanesyddol mae’r ardal hon yn cynnwys nifer o wahanol fathau
o dirwedd. Dengys y mapiau degwm (Map Degwm a Rhaniad Gwnnws, 1847; Map
Degwm a Rhaniad Ysbyty Ystwyth, 1848) yr ardal hon fel un rhannol agored,
a rhannol amgaeëdig yn cynnwys caeau bach a mawr. Yn gynharach, dengys
mapiau ystad o ddiwedd y 18fed ganrif (LlGC Gweithredoedd Trawscoed Cyf
1, 68; Morgan Richardson Adn. 4) o fferm Cefn Meurig, fferm cloddiau a
fferm nad yw’n bodoli bellach, batrwm tebyg lle mae’r ffermydd
wedi’u lleoli mewn clwstwr o dri neu bedwar cae bach â system
o gaeau mwy o faint neu dir agored o bob tu iddynt. Mae’n amlwg
o ddiwedd y 18fed ganrif o leiaf roedd proses o greu caeau llai o faint
o rai mwy o faint. Roedd y broses hon yn dal i fod ar waith adeg yr arolwg
degwm, ond ymddengys ei bod wedi’i chwblhau erbyn y cyfnod o ganol
y 19eg ganrif hyd ei diwedd. Ers diwedd yr 20fed ganrif bu’r systemau
caeau yn dirywio.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Ardal o dir sy’n raddol godi o 180m gerllaw pentref
Pontrhydfendigaid yn ei phen de-ddwyreiniol, i bron 300m tua’r gogledd-orllewin.
Mae elfennau’r dirwedd hanesyddol yn cynnwys caeau bach afreolaidd
eu siâp a ffermydd a thai gwasgaredig. Ar y llethrau isaf yn ne-ddwyrain
yr ardal rhennir y caeau gan gloddiau a gwrychoedd. Mae’r gwrychoedd
mewn cyflwr eithaf da, er bod ffensys gwifrau wedi’u hychwanegu
at rai ohonynt. Ar y llethrau uwch mae cyflwr y gwrychoedd yn gwaethygu
a gwelir rhywfaint o newid yn y math o ffiniau a ddefnyddir a cheir cloddiau
o bridd a cherrig a waliau sych wedi’u hesgeuluso wedi’u cymysgu
â chloddiau. Ar y lefelau uchaf, yn y pen gogledd-orllewinol, mae’r
dirwedd yn dechrau mynd yn anialwch. Ceir rhai clystyrau bach o goetir
collddail. Ar y lefelau isaf tir pori wedi’i wella a geir gan fwyaf,
sy’n mynd yn llai cyffredin ar y llethrau uwch. Ar y lefelau uchaf
hyn ceir mwy o dir pori garw wedi’i orchuddio â rhedyn, er
bod tir wedi’i wella i’w gael o hyd.
Carreg, sydd fel arfer wedi’i rendro ar anheddau
ac wedi’i gadael yn foel ar adeiladau allan amaethyddol, yw’r
deunydd adeiladu traddodiadol, a cheir llechi ar y toeau. Mae tai hþn
sy’n dyddio o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd yn ôl pob
tebyg yn gymharol fach, mae ganddynt ddau lawr ac maent yn yr arddull
frodorol Sioraidd nodweddiadol – sef simneiau yn nhalcennau’r
tþ, drws ffrynt canolog, dwy ffenestr ar y naill ochr a’r
llall i’r drws ac un uwch ei ben. Mae rhai o’r ffermdai wedi’u
moderneiddio ac mae rhai eraill wedi’u hailadeiladu’n ddiweddar.
Mae rhai adeiladau allan o gerrig yn gymharol fach ac maent yn ffurfio
dwy neu dair rhes. Nid yw adeiladau amaethyddol concrid a dur modern yn
sylweddol. Ceir hefyd nifer fach o dai a byngalos modern ar draws yr ardal.
Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys mwynglawdd
metel bach, ac amlosgiad posibl yn dyddio o’r Oes Efydd.
Mae ffiniau’r ardal hon yn weddol bendant. I’r
gogledd ac i’r gogledd-ddwyrain mae’r ardal hon yn ymdoddi
i’r ardal gyfagos – tirwedd o gaeau mawr a thir pori mwy garw.
I’r gogledd ac i’r gogledd-orllewin ceir tir mwy agored, ac
i’r de ceir system gaeau reolaidd.
![Map ardal Cefn Meurig](webphotos/cefnmeurigmap.jpg)
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |