![Capel Helaeth](webphotos/capelhelaeth.jpg)
CAPEL HELAETH
CYFEIRNOD GRID: SN 741710
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 92.0
Cefndir Hanesyddol
Mae hanes yr ardal hon yn y Cyfnod Canoloesol yn aneglur.
Am fod eglwys Ysbyty Ystwyth wedi’i chysegru i Sant Ioan Fedyddiwr
ystyriwyd bod y plwyf ym meddiant Marchogion yr Ysbyty, ond mae’n
fwy tebygol efallai ei bod yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur, efallai mewn
un o faenorau’r abaty (Ludlow 1998). Dengys y map cyntaf ar raddfa
fawr, sef map degwm 1848 (Map Degwm a Rhaniad Sputty Ystwyth, 1848) sy’n
cynnwys yr ardal hon, dirwedd debyg iawn i’r un a welir heddiw.
Fodd bynnag, mae’r system o gaeau isranedig a leolid i’r gorllewin
o’r ardal hon yn y 18fed ganrif yn rhoi rhyw syniad o’r hyn
y gall y dirwedd bresennol fod wedi deillio ohono. O gofio’r ffaith
bod pentref Ysbyty Ystwyth wedi’i leoli gerllaw, mae’n bosibl
bod yr ardal hon hefyd yn arfer cynnwys system o gaeau isranedig a gyfunwyd
ac a amgaewyd cyn yr arolwg ar gyfer y mapiau cyntaf ar raddfa fawr. Mae’r
gwasgariad o dai anamaethyddol yn dyddio o’r 19eg ganrif yn ogystal
â ffermydd/tyddynnod yn awgrymu tai gweithwyr (mwynwyr), a adeiladwyd
efallai gan y gweithwyr eu hunain ac a sefydlwyd ar dir comin neu wrth
ochr ffyrdd.
![Capel Helaeth](webphotos/capelhelaeth2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal hon yn cynnwys llain o dir sy’n
codi o 240m yn ei phen gorllewinol i bron 350m yn ei phen dwyreiniol a
phentref Ysbyty Ystwyth. Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd/tyddynnod
a thai/bythynnod gwasgaredig wedi’u lleoli o fewn caeau bach afreolaidd
eu siâp. Mae anheddau anamaethyddol wedi’u gwasgaru wrth ochr
ffordd yn bennaf. Rhennir y caeau gan gloddiau isel a ddisodlir gan gloddiau
â wyneb o gerrig ar dir uwch yn nwyrain yr ardal. Dim ond ychydig
o wrychoedd wedi’u hesgeuluso a geir ar y cloddiau. Mae ffensys
gwifrau yn rhedeg ar hyd pob ffin. Mae’r rhan fwyaf o’r ardal
yn cynnwys tir pori wedi’i wella, ond ceir rhywfaint o dir mwy garw
hefyd. Ceir dyddodion mawnaidd mewn dyffryn ar hyd cwr gogleddol yr ardal.
Carreg – wedi’i gadael yn foel neu wedi’i
rendro â sment – yw’r deunydd adeiladu traddodiadol
a cheir llechi ar y toeau. Mae’r tai yn fach ac yn dyddio o ganol
y 19eg ganrif hyd ei diwedd (fwy na thebyg o ddiwedd y 19eg ganrif), mae
ganddynt ddau lawr ac maent yn yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol
– sef simneiau yn nhalcennau’r tþ, drws ffrynt canolog,
a dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall iddo ac un uwch ei ben.
Mae gan ffermydd resi bach o adeiladau allan o gerrig yn dyddio o’r
19eg ganrif ac adeiladau amaethyddol dur a choncrid modern bach. Yn y
pen dwyreiniol lleolir fferm/tyddyn anghyfannedd adfeiliedig mewn cae
pori.
Nid yw’r archeoleg a gofnodwyd yn darparu unrhyw
awgrym o unrhyw ddyfnder amser i’r dirwedd hon, a’r cyfan
a geir yw anheddau ôl-Ganoloesol sydd wedi goroesi neu sy’n
anghyfannedd a hen gapel.
Nid yw ffiniau’r ardal hon yn bendant, ac i bob
cyfeiriad mae’n ymdoddi i ardaloedd oddi amgylch. I’r dwyrain
ac i’r de-ddwyrain ceir tir uwch, mwy garw yn cynnwys caeau mawr.
Ceir tir mwy garw is yn cynnwys caeau mawr i’r de ac i’r de-orllewin.
I’r gogledd mae’r dirwedd yn eithaf gwahanol, ond nid oes
unrhyw ffin bendant rhyngddi a’r ardal hon, ac mae’r un peth
yn wir am yr ardal i’r gorllewin.
![Map Capel Helaeth](webphotos/capelhelaethmap.jpg)
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |