Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Mynyddoedd Cambria

MYNYDDOEDD CAMBRIA

CYFEIRNOD GRID: SN 879665
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 298840

Cefndir Hanesyddol

Mae’r ardal fawr iawn hon o fynydd-dir uchel yn gorwedd ar y naill ochr a’r llall i’r ffin rhwng siroedd Ceredigion a Phowys. Mae’r rhan fwyaf ohoni yn gorwedd o fewn Powys, ac nis astudiwyd yn fanwl am ei bod y tu allan i’r ardal astudiaeth. Yn hanesyddol mae rhan fawr o’r ardal hon yn gorwedd o fewn maenorau Penardd, Mefenydd, Cwmteuddwr a Chwmystwyth a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur (Williams 1990, 56-57). Erbyn diwedd y Cyfnod Canoloesol, ac efallai yn gynharach na hynny, roedd y maenorau wedi’u rhannu’n ffermydd, a gâi eu prydlesu a’u ffermio yn fasnachol. Mae’n ansicr sut y byddai rhannau ucheldirol y maenorau wedi gweithredu. Yn ddiau cynhwysai rhannau o’r cyrion ucheldirol ffermydd - mae dogfen yn dyddio o 1545-50 (Morgan 1991, 5-7) yn enwi ffermydd sydd bellach yn anghyfannedd mewn lleoliad ucheldirol - ond gweithredai’r rhan fwyaf o’r ucheldir fel tir pori garw yn ôl pob tebyg a ddefnyddid yn dymhorol. Mae Williams (1990, 59) yn cyfeirio at ddogfen sy’n nodi trawstrefa ym Maenor Mefenydd. Cynhwysai defnydd mynachaidd arall dorri mawn a physgodfa yn Llynnoedd Teifi. Mae’n debyg, pan ddiddymwyd yr abaty, y byddai’r Goron wedi hawlio tir agored, a phrydleswyd tir amaeth yn gyntaf ac yn ddiweddarach fe’i prynwyd gan ystadau cynnar, yn arbennig yn yr ardal hon ystadau Trawscoed a Chastell Powys. Ffurfiodd tir a ddaeth i feddiant yr olaf yng Nghwmystwyth ac o’i amgylch ystad Hafod yn y pen draw. Roedd yr ystadau hyn yn awyddus i gynyddu maint eu daliadau, ac amgaewyd tir agored y Goron yn anghyfreithlon ganddynt, proses a fu fwyaf dynamig ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Defnyddiwyd dulliau cyfreithiol hefyd. Noddwyd deddfau amgáu. Amgaeodd y ddwy o fewn yr ardal hon, sef Deddf Amgáu Gwnnws ddyddiedig 1815 a Deddf Amgáu Llanfihangel-y-Creuddyn ddyddiedig 1866 (Chapman 1992, 50, 53), leiniau helaeth o ucheldir, fel y gwnaeth deddf arfaethedig 1815 ar gyfer ardal Llynnoedd Teifi (LlGC Trawscoed 347), ond ni chawsant fawr o effaith ffisegol ar y dirwedd. Yn yr 20fed ganrif, mae gweithgarwch gwella tir law yn llaw â gweithgarwch amgáu wedi bwyta i mewn i ddiffeithdir a rhostir. Trwy’r dulliau cyfreithiol ac anghyfreithiol hyn y lleihawyd y tir agored i’w faint presennol. Yn croesi’r ardal mae nifer o lwybrau naturiol tros fynydd pwysig sy’n cysylltu cymunedau amaethyddol a marchnadoedd Ceredigion â thiroedd a threfi i’r dwyrain. Mae’r llwybrau tros fynydd hyn yn enwog am y defnydd a wneid ohonynt gan borthmyn yn y cyfnod hanesyddol, ond mae’n debyg eu bod yn hþn. Nid yn unig yr oeddynt yn darparu modd cyfathrebu ar draws mynyddoedd Cambria, ond roeddynt yn fodd i gyrraedd y rhostir uchel at ddibenion sefydlu aneddiadau parhaol neu dymhorol, ar gyfer pori anifeiliaid ac ar gyfer torri mawn. Trowyd y llwybr o Gwmystwyth i’r dwyrain i Raeadr Gwy a’r tu hwnt yn ffordd dyrpeg ym 1770 (Colyer 1984, 176-82), ond fe’i disodlwyd gan ffordd dyrpeg newydd (ffordd bresennol yr A44) a agorwyd i’r gogledd ym 1812.

Mynyddoedd Cambria

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae hon yn ardal fawr iawn o ucheldir. Mae’n codi i uchder o dros 500m mewn mannau, ar gyfartaledd mae tua 400m o uchder ac anaml y mae’n disgyn o dan 300m. Mae brigiadau creigiog ar rai o’r copaon uwch ac o amgylch Llyn Teifi yn nodweddion dramatig y mae eu mawr angen mewn tirwedd sydd fel arall yn ddiflas ac yn undonog. Tir pori garw iawn heb ei wella a geir yn bennaf a gorgors ar dir uwch a dyddodion mawnaidd yn y mwyafrif o bantiau a dyffrynnoedd. Ceir rhywfaint o dir pori wedi’i wella, ar lethrau is yn bennaf lle y mae ambell ffens wifrau yn rhannu’r ardal. Mae rhai ffermydd sydd wedi’u gwasgaru’n eang, yn arbennig ar ochr Powys i’r ffin. Mae’r rhain wedi’u hadeiladu’n draddodiadol o gerrig, â chasgliad o adeiladau fferm modern o bob tu iddynt, ac maent wedi’u lleoli o fewn system o ychydig o gaeau a rennir gan gloddiau, ond lle y mae ffensys gwifrau bellach yn darparu’r atalfeydd cadw stoc. Mae’r caeau sydd ynghlwm wrth y ffermydd hyn bellach yn cynnwys tir pori wedi’i wella, a cheir lleiniau pellach o dir pori agored wedi’i wella gerllaw. Tirwedd heb goed ydyw. Yn gyffredinol tirwedd o rostir agored yw hwn.

Dim ond yr archeoleg a gofnodwyd ar gyfer rhan Ceredigion o’r ardal hon a ddisgrifir. Mae archeoleg yn ychwanegu mwy o ddyfnder amser i’r dirwedd, am fod nifer fawr o grugiau crwn a maen hir yn dyddio o’r Oes Efydd yn awgrymu bob pobl yn byw yn yr ardal hon hyd yn oed ar dir uchel, er na wyddom am unrhyw aneddleoedd. Fodd bynnag, mae aneddleoedd ôl-Ganoloesol a safleoedd eraill o’r un cyfnod megis corlannau, caeau, cysgodfeydd a systemau caeau yn dangos bod pobl yn byw ar y tir is ar gyrion yr ardal hon, drwodd i’r 19eg ganrif. Ceir olion gweithgarwch cloddio am fetel hefyd.

Mae i’r ardal hon ffiniau pendant iawn ac yn ffinio â hi ceir naill ai leiniau mawr o goedwigoedd ucheldirol, neu dir amgaeëdig a chyfannedd is. Ar yr ochr ddwyreiniol, ym Mhowys, ni phennwyd ffiniau’r ardal hon yn fanwl eto.

Mynyddoedd Cambria Gogledd

Mynyddoedd Cambria Gogledd

Mynyddoedd Cambria Canol

Mynyddoedd Cambria Canol

Mynyddoedd Cambria Canol

 

Mynyddoedd Cambria De

Mynyddoedd Cambria De

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221