Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Bwlchddwyallt a Blaengorffen

BWLCHDDWYALLT A BLAENGORFFEN

CYFEIRNOD GRID: SN 704621
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 621.8

Cefndir Hanesyddol

Yn y Cyfnod Canoloesol, gorweddai’r rhan fwyaf o’r ardal hon o fewn Maenor Penardd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur (Williams 1990, 56). Tua diwedd y Cyfnod Canoloesol, os nad ynghynt, byddai’r faenor wedi’i rhannu’n ffermydd a gâi eu prydlesu yn fasnachol (Rees 1936, 58). Pan ddiddymwyd yr abaty rhoddwyd y rhan fwyaf o diroedd yr abaty i Iarll Essex ac fe’u prynwyd ar ôl hynny, ym 1630, gan ystad Trawscoed. Daeth John Stedman i feddiant tir demên, a drosglwyddwyd ym 1746 i ystad Nanteos. Mae’n debyg felly fod y patrwm o ffermydd gwasgaredig yn dyddio o ddiwedd y Cyfnod Canoloesol o leiaf, ac iddo gael ei gadw gan berchenogion diweddarach yr ystadau. Yn ddiau roedd wedi’i sefydlu erbyn canol y 19eg ganrif - dangosir ffermydd gwasgaredig â chaeau afreolaidd bach o bob tu iddynt wedi’u lleoli yng nghanol caeau mawr ar fap degwm 1845 (Map Degwm a Rhaniad Caron). Dengys mapiau ystad cynnar bod y broses o gau’r tir yn dal i fynd yn ei blaen ar ddechrau’r 19eg ganrif. Er enghraifft, dengys y mapiau yr esgair i’r de-ddwyrain o Sunnyhill (LlGC Cyf 45, 54, 66, 68) fel ffridd agored a gwasgariad o gaeau bach ar wahân a oedd yn eiddo i berchenogion gwahanol - aneddiadau sgwatwyr o bosibl? - a dangosir fferm Bwlchddwyallt (LlGC Trawscoed 332; LlGC Trawscoed Cyf 1, 14) fel fferm anghysbell â phum cae bach o’i hamgylch wedi’i lleoli mewn tir agored.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal hon yn ymestyn dros esgair wedi’i halinio o’r de-orllewin i’r gogledd-ddwyrain sy’n codi o 200m ar y llethrau sy’n wynebu’r gogledd-orllewin i 346m lle y mae ar ei huchaf. Mae’r llethrau’n serth fel arfer. Mae bron y cyfan o dir amaethyddol yr ardal gan gynnwys copaon yr esgair yn dir pori wedi’i wella, er y ceir lleiniau o dir pori garw ar lethrau serth, a thir brwynog mewn rhai pantiau. Ceir clystyrau o goetir collddail ar rai o’r llethrau serth a chlympiau o goetir collddail wedi’u gwasgaru ar draws yr ardal. Mae’r cyfuniad hwn o goetir gwasgaredig a thir pori wedi’i wella yn rhoi golwg parcdir agored yn dyddio o’r 18fed ganrif i’r ardal (sy’n gamarweiniol). Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig a leolir mewn system gaeau o gaeau mawr afreolaidd eu siâp, gyda chaeau llai o faint o bob tu i’r ffermydd. Cloddiau ac arnynt wrychoedd sy’n ffurfio’r hen ffiniau, ond yn gyffredinol mae’r rhain bellach yn ddiangen. Dim ond ar lefelau is y mae’r gwrychoedd yn cadw gwartheg i mewn; mewn mannau eraill maent naill ai wedi’u hesgeuluso neu nid ydynt yn bodoli ac maent wedi’u disodli gan ffensys gwifrau. Mae ffensys gwifrau newydd hefyd yn darparu ffiniau rhai caeau mawr newydd.

Ychydig o archeoleg gofnodedig sydd yn yr ardal hon. Fodd bynnag, ceir safle o bwys, sef Castell Tregaron, bryngaer yn dyddio o’r Oes Haearn, ac mae canfyddiadau yn dyddio o’r Oes Efydd yn darparu rhagor o ddyfnder amser i’r dirwedd.

Mae i’r ardal ffiniau pendant. I’r dwyrain ceir tir agored ac i’r de, i’r gorllewin ac i’r gogledd ceir ardaloedd is a nodweddir gan gaeau bach, afreolaidd eu siâp.

Map Bwlchddwyallt a Blaengorffen

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221