Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Bryngwyn Bach

BRYNGWYN BACH

CYFEIRNOD GRID: SN 757574
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 3916

Cefndir Hanesyddol

Mae’r ardal gymeriad dirwedd hanesyddol enfawr hon yn croesi o Geredigion i Sir Gaerfyrddin. Ardal o ucheldir ydyw a’r tu mewn iddi ceir rhannau o ystad Llanddewibrefi a oedd yn eiddo i Esgob Tyddewi a Maenor Penardd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Mae’n debyg erbyn diwedd y Cyfnod Canoloesol y byddai’r ddau ddaliad hyn wedi’u rhannu’n ffermydd, a gâi eu prydlesu a’u ffermio yn fasnachol. Fodd bynnag ni wyddom yn iawn pa mor hen yw pob un o’r ffermydd ucheldirol a leolir o fewn yr ardal hon, ac er ei bod yn debyg i rai ohonynt gael ei sefydlu yn y Cyfnod Canoloesol yn y ffordd a nodwyd uchod, mae’n ddigon posibl bod eraill wedi dechrau fel aneddiadau sgwatwyr yn y 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg ganrif. Gadawyd y ffermydd hyn yn ystod yr 20fed ganrif, ac erbyn hyn dim ond mewn dyrnaid y mae pobl yn byw. Mae’r capel sydd wedi goroesi yn Soar y Mynydd yn tystio i’r ffaith bod yr ardal yn fwy poblog ers llawer dydd. Mae’n amlwg bod y ffermydd yn elfen bwysig yn y dirwedd, ond mae’r rhan fwyaf o’r tir yn yr ardal hon yn agored, a bu’n agored am yr ychydig ganrifoedd diwethaf o leiaf, a byddai wedi’i hawlio gan y Goron. Yn croesi’r ardal mae llwybrau naturiol tros fynydd pwysig sy’n cysylltu cymunedau amaethyddol Ceredigion â thiroedd a threfi i’r dwyrain. Mae’r llwybrau tros fynydd hyn yn enwog am y defnydd a wneid ohonynt gan borthmyn yn y cyfnod hanesyddol, ond maent yn debygol o fod yn hen iawn, ac nid yn unig yr oeddynt yn fodd cyfathrebu ar draws cadwyn mynyddoedd Cambria, ond roeddynt yn fodd i gyrraedd y rhostir uchel at ddibenion sefydlu aneddiadau parhaol neu dymhorol, ar gyfer pori anifeiliaid ac ar gyfer torri mawn.

Bryngwyn Bach

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae hon yn llain fawr iawn o ucheldir agored â phatrwm anheddu anwastad o ffermydd ucheldirol sydd wedi’u gwasgaru’n eang. Yn y pen gogleddol mae tir agored yn disgyn i bwynt mor isel â 200m, ond mae’r tir yn codi i dros 500m mewn mannau yn yr ardal ganolog. Ar gyfartaledd mae uchder yr ardal yn amrywio o rhwng 300m a 450m. Anaml y mae’r dirwedd yn greigiog, ac mae lleiniau eang o rostir tonnog a gorgors ar dir uwch a phantiau mawnaidd yn arferol. Mae digonedd o dystiolaeth o aneddiadau anghyfannedd ar draws yr ardal hon, yn arbennig ar hyd y llwybrau. Mae ffermydd cyfannedd, y mae Nantymaen yn enghraifft bwysig ohonynt, wedi’u hadeiladu o gerrig yn draddodiadol. Ceir casgliad o adeiladau fferm modern o bob tu iddynt, ac fe’u lleolir o fewn system yn cynnwys rhai caeau yn unig. Cloddiau sy’n ffurfio ffiniau hþn y caeau hyn, ond erbyn hyn mae ffensys gwifrau yn darparu’r atalfeydd cadw stoc. Mae’r caeau hyn bellach yn cynnwys tir pori wedi’i wella, a cheir rhagor o leiniau o dir pori agored wedi’i wella agored gerllaw’r ffermydd. Ar wahân i lain a blannwyd â choedwigoedd yn ddiweddar, tirwedd heb goed ydyw.

Mae archeoleg gofnodedig yr ardal hon yn gyfoethog ac yn amrywiol. Mae’r nifer fawr o henebion yn dyddio o’r Oes Efydd sy’n cynnwys crugiau crwn unigol, grwpiau o grugiau crwn a charneddau, meini hirion a chylch cerrig, yn darparu cryn ddyfnder amser i’r dirwedd. Ni wyddom am unrhyw safleoedd anheddu yn dyddio o’r cyfnod hwn, ond yn ddiau mae dwysedd yr henebion defodol ac angladdol hyn yn awgrymu tirwedd boblog. Safle yn dyddio o’r Oes Haearn yw Castell Rhyfel a leolir tua ffin yr ardal hon, ac mae Gwys-y-Ychen Bannog yn gloddwaith llinellol amddiffynnol neu weinyddol. Mae nifer fawr o fythynnod anghyfannedd a safleoedd anheddu eraill yn awgrymu poblogaeth uwch yn byw ar draws yr ardal hon drwodd i’r 19eg ganrif. Mae nodweddion amaethyddol a thystiolaeth o weithgarwch torri mawn yn tystio i’r ffaith bod pobl yn arfer byw yn yr ardal hon.

Mae i’r ardal hon ffiniau pendant iawn; i’r dwyrain ac i’r gorllewin ceir planhigfeydd tra helaeth o goedwigoedd. I’r gogledd ac i’r gogledd-orllewin ceir tir amgaeëdig a phoblog is yn bennaf.

Map ardal Bryngwyn Bach

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221