![Bryn gwyn](webphotos/bryngwyn.jpg)
BRYN GWYN
CYFEIRNOD GRID: SN 746862
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 148.2
![Bryn gwyn](webphotos/bryngwyn2.jpg)
Cefndir Hanesyddol
Yn ôl pob tebyg ystyrid mai tir y Goron oedd y
llain hon o ucheldir uchel o fewn Gwestfa Trefmeurig yng Nghwmwd Perfedd,
er bod rhan ohoni wedi’i meddiannu gan ystad Gogerddan neu wedi’i
throsglwyddo i’r ystad mewn rhyw ffordd arall erbyn diwedd y 18fed
ganrif. Dengys map o’r ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif
annedd - Fagwyr Isaf - yng nghornel dde-ddwyreiniol yr ardal hon wedi’i
lleoli mewn llain fawr o dir agored. Mae’r annedd wedi mynd bellach.
Cadwyd cymeriad agored y tir nes iddo gael ei drosglwyddo i’r Comisiwn
Coedwigaeth a chael ei blannu â chonifferau yn y 1960au.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Gorchuddir yr ardal ucheldirol greigiog hon, sy’n
codi i uchder o dros 440m, gan blanhigfeydd o goed coniffer a chanddynt
ymyl caled. Cyn ei phlannu rhostir agored ydoedd; erbyn hyn planhigfeydd,
lonydd, ffyrdd a nodweddion coedwig eraill yw’r elfennau tirwedd
hanesyddol mwyaf cyffredin ac amlycaf yn yr ardal hon.
Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal hon yn
cynnwys cylch cytiau yn dyddio o’r Oes Haearn, a thri chwt hir o’r
cyfnod ôl-Ganoloesol ar ei chwr deheuol.
Mae ymylon y coedwigoedd yn rhoi ffiniau pendant i’r
ardal hon. I’r gorllewin ceir rhostir agored, ac ar bob ochr arall
dir agored a chronfa ddwr.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |