![Brignant](webphotos/brignant.jpg)
BRIGNANT
CYFEIRNOD GRID: SN 755752
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 708.6
Cefndir Hanesyddol
Yn y Cyfnod Canoloesol roedd yr ardal hon yn rhan o
faenor ucheldirol Cwmystwyth a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Pan
ddiddymwyd yr abaty fe’i prynwyd gan y teulu Herbert (Morgan 1991),
ac unigolion eraill o bosibl, ac ni ddaeth i feddiant ystad Trawscoed
tan 1630 fel y digwyddodd yn achos y mwyafrif o’r maenorau. Mae
dogfen ddyddiedig 1545-50 y cyfeiriwyd ati gan Morgan (1991) a luniwyd
pan ddiddymwyd Ystrad Fflur yn awgrymu i’r faenor gael ei rhannu
wedyn yn ffermydd a gâi eu prydlesu a’u ffermio yn unigol
ac yn fasnachol. Mae Prignant a Phantycraf yn ddwy fferm yn yr ardal hon
a restrir yn nogfen 1545-50. Erbyn dechrau’r 19eg ganrif roedd yr
holl dir yn yr ardal hon wedi dod i feddiant ystad Hafod. Roedd Thomas
Johnes o Hafod naill ai wedi etifeddu’r tir a brynwyd yn wreiddiol
gan y teulu Herbert, neu roedd wedi’i brynu neu roedd wedi dod i’w
feddiant trwy gyfnewid tir yn ddiweddar. Dengys map o ystad Hafod dyddiedig
1834 yr holl eiddo, gan gynnwys tiroedd a oedd newydd ddod i feddiant
ystad Hafod bryd hynny. Mae’r map yn cofnodi sawl fferm ar draws
yr ardal, gyda rhai ohonynt megis Prigant ar dir uchel iawn, ond dengys
yn glir fod y tir, ar wahân i un neu ddau gae bach gerllaw ffermydd,
naill ai’n agored neu wedi’i rannu’n gaeau mawr iawn.
Yn ystod y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif gadawyd yr aneddiadau a’r
caeau yn raddol. Mae planhigfeydd bach o goed coniffer bellach wedi’u
sefydlu yn yr ardal. Dechreuwyd cloddio am blwm yng nghanol y 18fed ganrif
pan sefydlwyd mwynglawdd Bodcoll, a bu ar waith drwy gydol y 19eg ganrif
(Bick 1983, 30).
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal hon yn ymestyn dros ucheldir creigiog
sy’n agored ar y cyfan ac mae’n amrywio o ran uchder o 270m
i 450m. Ar y llethrau isaf mae tir pori wedi’i wella yn gyffredin,
sy’n cael ei ddisodli gan borfa arw a rhedyn ar dir uwch. Mae pantiau
mawnaidd a brwynog yn gyffredin. Cloddiau oedd y prif fath o ffin, ac
maent yn dal i gael eu defnyddio ar rai o’r llethrau isaf lle y
mae ffensys gwifrau wedi’u hychwanegu atynt. Ceir rhai gwrychoedd
wedi’u hesgeuluso yma hefyd. Ar y llethrau uwch, mae’r tir
yn agored ei natur i bob pwrpas, er bod ffensys gwifren yn ei rannu. Ar
wahân i goedwigoedd yn dyddio o’r 20fed ganrif tirwedd heb
goed ydyw yn y bôn. Mae tystiolaeth o weithgarwch cloddio yn cynnwys
tomenni sbwriel, lefelydd a siafftiau, yn nwyrain pellaf yr ardal gan
mwyaf.
Mae archeoleg gofnodedig yr ardal hon yn cynnwys safleoedd
ôl-Ganoloesol yn bennaf. Mae mwyngloddiau metel a chwareli yn nodweddion
cyffredin yn y dirwedd, ond mae’r aneddiadau anghyfannedd yn fwy
niferus. Mae dosbarthiad yr aneddiadau anghyfannedd hyn yn dangos bod
pobl yn byw yn yr ardal (er bod y boblogaeth braidd yn denau) drwodd i’r
19eg ganrif. Mae sefydliad mynachaidd posibl – Bwlch-yr-Oerfa –
a maen hir posibl yn dyddio o’r Oes Efydd, yn darparu dyfnder amser
i’r dirwedd.
Mae i’r ardal hon ffiniau pendant. I’r de
ceir Cwm Ystwyth ac ardal ystad Hafod sydd wedi’i phlannu â
llawer iawn o goed. Mae coedwigoedd modern yn ffinio â’r ardal
i’r dwyrain. I’r gogledd ceir pentref Pontarfynach, ac anheddiad
sgwatwyr Rhos-y-gell a leolir ar dir is i’r gorllewin.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |