![](../../shim.gif) |
![Blaen Sychnant](webphotos/blaensychnant.jpg)
BLAEN SYCHNANT
CYFEIRNOD GRID: SN 710687
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 181.3
Cefndir Hanesyddol
Yn y Cyfnod Canoloesol, gorweddai’r ardal hon
o fewn Maenor Mefenydd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Pan ddiddymwyd
yr abaty rhoddwyd y maenorau i Iarll Essex a’u gwerthodd, ar ôl
hynny, ym 1630, i ystad Trawscoed. Mae’n debyg bod yr ardal gymharol
uchel hon yn agored ac felly iddi gael ei hawlio gan y Goron, ond roedd
rhan ohoni ym meddiant Trawscoed fel y dangosir ar fap o’r ystad
dyddiedig 1781 (LlGC Trawscoed Cyf 1, 66). Dengys y map hwn dir i’r
gogledd o Fynachdy naill ai fel tir agored neu dir sydd wedi’i amgáu’n
gaeau mawr. Mae’n debyg bod ystad Trawscoed yn bwriadu meddiannu’r
darn hwn o dir y Goron a’i fod am ei amgáu. Fodd bynnag,
ymsefydlodd sgwatwyr neu dyddynwyr ar y tir, er mawr siom i’r ystad,
a geisiodd yn aflwyddiannus eu gyrru ymaith (Morgan 1997, 211). Erbyn
canol y 19eg ganrif roedd patrwm o fythynnod sgwatwyr â chaeau bach
a chaeau mwy rheolaidd, mwy o faint yn perthyn i’r ystad wedi’i
sefydlu ar draws yr ardal gyfan (arolwg degwm dyddiedig 1843). Yn ystod
yr 20fed ganrif gadawyd yr aneddiadau hyn a chwalwyd y patrwm o gaeau.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae hon yn ardal o ucheldir tonnog, sydd weithiau yn
greigiog, sy’n amrywio o ran uchder rhwng 200m a 300m. Ceir casgliad
o fythynnod anghyfannedd wedi’u gwasgaru ar draws y dirwedd, ac
o leiaf un annedd gyfannedd – sef bwthyn carreg. Bythynnod sgwatwyr
yn dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif yw’r rhain. O bob tu i’r
bythynnod anghyfannedd ceir systemau caeau creiriol o gaeau a phadogau
bach a chaeau mwy o faint ymhellach allan. Arferai cloddiau pridd a cherrig
a waliau sych rannu’r caeau, ond erbyn hyn ffensys gwifrau sy’n
eu rhannu. Tir pori wedi’i wella, sy’n ymestyn weithiau dros
hen gloddiau ffin, a geir gan amlaf yn yr ardal, ond ceir darnau o dir
pori mwy garw hefyd. Tirwedd heb goed ydyw yn y bôn.
Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal hon yn
cynnwys bythynnod anghyfannedd ac olion cysylltiedig yn bennaf. Fodd bynnag,
mae mwynglawdd metel wedi’i gofnodi, ac mae mwnt Canoloesol - Cwm
Meurig Isaf - yn darparu elfen o ddyfnder amser ar gyfer y dirwedd.
I’r gogledd ac i’r de-orllewin, mae ucheldir
agored a lled-amgaeëdig yn ymdoddi i’r ardal hon. Mewn mannau
eraill mae’r ffin rhwng yr ardal hon a’i chymdogion yn fwy
pendant, am fod y tir yn disgyn i dir pori amgaeëdig, is, lle y ceir
aneddiadau.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |