Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Blaenau Caron

BLAENAUCARON

CYFEIRNOD GRID: SN 708613
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 113.2

Cefndir Hanesyddol

Mae hanes cynnar yr ardal hon yn aneglur. Efallai ei bod yn rhan o faenorau Abaty Ystrad Fflur, neu’n rhan o ddemen yr abaty. Rhoddwyd y maenorau i Iarll Essex pan ddiddymwyd yr abaty, gan eu gwerthu i ystad Trawscoed ym 1630. Ar ddiwedd y 18fed ganrif roedd rhywfaint o dir yn yr ardal hon ym meddiant Trawscoed, ac efallai mai fel hyn y daeth yn rhan o’r ystad. Fodd bynnag, daeth demên yr Abaty i feddiant John Stedman ym 1567. Bu farw Richard Stedman heb wneud ewyllys ym 1746 a throsglwyddwyd yr ystad i’r teulu Powell o Nanteos. Roedd gan Nanteos ddaliadau sylweddol yma yn y 19eg ganrif. Mae’n debyg, erbyn diwedd y Cyfnod Canoloesol, os nad ynghynt, fod maenorau a demenau abatai wedi’u rhannu’n ffermydd a gâi eu prydlesu yn fasnachol. Efallai mai dyma a roddodd fod i’r patrwm anheddu a welir heddiw. Dengys map Degwm Caron dyddiedig 1845 yr ardal i raddau helaeth fel y mae heddiw (Map Degwm a Rhaniad Caron). Fodd bynnag, dengys mapiau ystad dyddiedig 1819 (LlGC Nanteos 180, 186: LlGC Cyf 45, 68) o ardal Blaenaucaron, ffermydd uwch i’r gogledd-ddwyrain, megis Pantycraf a Fron-Felen, fel aneddiadau anghysbell wedi’u gosod mewn clwstwr o gaeau bach afreolaidd eu siâp yng nghanol ffridd agored. Mae’n amlwg i gryn dipyn o dir gael ei amgáu rhwng 1819 a 1845. Ym 1819, roedd ffermydd ar dir is megis Glanyrafon wedi’u hatgyfnerthu ac wedi’u hamgáu, ac roedd eu golwg bryd hynny yn debyg iawn i’w golwg heddiw. Gwelir yr un patrwm amgáu a fu ar waith yn y 19eg ganrif mewn ardaloedd ymylol eraill yng Ngheredigion ac mae’n gysylltiedig â thwf yn y boblogaeth. Erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd y boblogaeth wedi tyfu’n ddigon mawr i ganiatáu adeiladu capel (Percival 1998, 520).

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae tirwedd Blaenaucaron yn un o gaeau afreolaidd o faint bach i ganolig a ffermydd gwasgaredig rhwng 240m a 300m ar lawr y dyffryn, a llethrau isaf dyffryn Afon Groes a’i rhagnentydd. Ar lefelau is ym mhen gorllewinol yr ardal rhennir y caeau gan gloddiau a gwrychoedd, a rhai cloddiau â wyneb o gerrig a gwrychoedd. Fel arfer mae’r cloddiau yn cael eu disodli gan gloddiau â wyneb o gerrig ac ambell wal sych i’r dwyrain ac ar dir uwch. Mae’r gwrychoedd mewn cyflwr gweddol dda ar dir is, ond maent mewn cyflwr gwael ac yn dechrau tyfu’n wyllt ar lefelau uwch, ac mewn rhai achosion mae ffensys gwifrau wedi’u rhoi yn eu lle. Tir pori wedi’i wella a geir yn bennaf yn yr ardal, a darnau o dir heb ei wella a thir pori garw.

Carreg leol yw’r deunydd adeiladu traddodiadol a defnyddiwyd llechi (llechi gogledd Cymru) ar gyfer y toeau. Yn achos y tai mae’r waliau fel arfer wedi’u rendro â sment, ond gadawyd rhai yn foel. Mae’r waliau bob amser yn foel ar adeiladau fferm traddodiadol yn dyddio o’r 19eg ganrif. Mae ffermdai/tai hþn fel arfer yn dyddio o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd. Maent yn gymharol fach, mae ganddynt ddau lawr ac maent yn yr arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol – sef simneiau yn nhalcennau’r tþ, drws ffrynt canolog, dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r drws ac un uwch ei ben. Mae nodweddion brodorol megis bondo isel, ffenestri bach ac un simnai sy’n fwy o faint na’r llall i’w cael ar rai tai. Cyfyngir adeiladau allan a adeiladwyd o gerrig fel arfer i un neu ddwy res fach. Mae gan ffermydd gweithredol resi bach o adeiladau amaethyddol dur a choncrid modern. Ceir capel ac ysgol yn dyddio o’r 19eg ganrif yn yr ardal hon.

Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys rhai o’r adeiladau a grybwyllwyd uchod.

I’r de-orllewin ac i’r de-ddwyrain mae’r ardal hon yn raddol ymdoddi i’w hardaloedd cyfagos. I’r gogledd mae ffin eithaf pendant ag ardal o gaeau mawr a thir agored.

Map Blaenau Caron

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221