![Berthddu](webphotos/berthddu.jpg)
BERTHDDU
CYFEIRNOD GRID: SN 675662
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 216.5
Cefndir Hanesyddol
Yn y Cyfnod Canoloesol gorweddai rhan o’r ardal
hon o fewn Maenor Mefenydd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur. Pan ddiddymwyd
Ystrad Fflur rhoddwyd holl ddaliadau’r abaty i Iarll Essex. Yn fuan
ar ôl hynny, ymddengys i’r tir yn yr ardal hon ac o’i
hamgylch gael ei brynu gan y teulu Lloyd o Ffosybleiddiaid, ac efallai
iddo ddod i feddiant y teulu Vaughan o Drawsgoed ar ôl hynny. Ni
wyddom sut y crëwyd y dirwedd hon. Mae’r system gaeau reolaidd
yn awgrymu i’r tir gael ei amgáu i gyd gyda’i gilydd
neu mewn ychydig o episodau, yn hytrach na thresmasu afreolaidd. Ni wyddom
pryd yr amgaewyd y tir, ond roedd y patrwm anheddu wedi’i sefydlu
erbyn arolwg degwm 1844 (Map Degwm a Rhaniad Lledrod, 1844). Adeiladwyd
capel yn yr ardal hon yn y 19eg ganrif.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Esgair wedi’i halinio o’r de-ddwyrain i’r
gogledd-orllewin sy’n codi i 270m lle y mae ar ei huchaf. Mae ei
llethrau gogledd-ddwyreiniol a de-orllewinol yn disgyn yn gyflym i 170m
lle y maent ar eu hisaf. Mae’r ardal hon yn cynnwys ffermydd gwasgaredig
a chaeau eithaf rheolaidd o faint bach i ganolig; mae’r caeau mwy
o faint fel arfer wedi’u lleoli ar y tir uwch. Mae natur reolaidd
y caeau yn cyferbynnu â systemau caeau afreolaidd ardaloedd i’r
dwyrain. Rhennir y caeau gan gloddiau ac arnynt wrychoedd ar y llethrau
isaf, a chloddiau â wyneb o gerrig ac arnynt wrychoedd sydd ar y
cyfan wedi’u hesgeuluso ar y tir uwch a chopa’r esgair. Mae
ffensys gwifrau wedi’u hychwanegu at lawer o’r hen ffiniau.
Tirwedd agored ydyw heb fawr ddim coed. Mae tir pori wedi’i wella
yn gyffredin. Mae’r tai wedi’u hadeiladu o gerrig wedi’u
rendro a chanddynt doeau llechi masnachol ac maent yn arddull frodorol
Sioraidd yr ardal sy’n nodweddiadol o’r cyfnod o ganol y 19eg
ganrif hyd ei diwedd, sef tai deulawr â simneiau yn y ddau dalcen,
drws ffrynt canolog, dwy ffenestr ar y naill ochr a’r llall i’r
drws ac un uwch ei ben. Mae nodweddion brodorol megis bondo isel, ffenestri
bach ac un simnai sy’n fwy o faint na’r llall i’w gweld
ar rai tai. Mae’r adeiladau allan wedi’u hadeiladu o gerrig
moel ac fe’i cyfyngir fel arfer i un neu ddwy res fach. Mae gan
ffermydd gweithredol resi o faint bach i ganolig o adeiladau amaethyddol
modern.
Nid yw’r archeoleg a gofnodwyd yn arbennig o amrywiol,
ac mae’n cynnwys adeiladau sydd wedi goroesi neu adeiladau anghyfannedd
gan fwyaf yn dyddio o’r cyfnod ôl-Ganoloesol, ac mae twmpath
llosg neu aelwyd yn dyddio o’r Oes Efydd yn darparu’r unig
elfen o ddyfnder amser ar gyfer y dirwedd.
Ni ddiffiniwyd ardaloedd cymeriad tirwedd i’r gogledd,
i’r dwyrain ac i’r gorllewin eto. I’r de ac i’r
de-ddwyrain ceir caeau afreolaidd ardaloedd cyfagos, er nad oes unrhyw
ffin bendant rhwng y rhain a’r ardal hon.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |