![Banc Creignant Mawr](webphotos/banccreignantmawr.jpg)
BANC CREIGNANT MAWR
CYFEIRNOD GRID: SN 737802
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 140.2
Cefndir Hanesyddol
Yn y Cyfnod Canoloesol roedd yr ardal hon yn rhan o
Faenor Nantyrarian a oedd yn eiddo i Abaty Cwm-hir (Williams 1990, 40).
Ar ôl diddymu’r abaty, mae’n fwy na thebyg i’w
chymeriad ucheldirol sicrhau i’r Goron ei hawlio, ond erbyn diwedd
y 18fed ganrif roedd wedi’i meddiannu gan ystad Gogerddan, neu roedd
wedi’i throsglwyddo i’r ystad mewn rhyw ffordd arall. Mae
map o’r ystad yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif yn ei dangos fel
ardal agored (LlGC Cyf 37, 51) heb unrhyw aneddiadau, ac fel hyn y parhaodd
nes iddi gael ei phrynu gan y Comisiwn Coedwigaeth a blannodd gonifferau
arni yn y 1960au. Bu cloddio ar raddfa fach yn yr ardal hon – agorwyd
mwynglawdd metel Bog ym 1830 a chafodd ei weithio drwodd i 1882, er na
fu’r gweithrediad mor llwyddiannus â hynny.
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal gyfan wedi’i gorchuddio â
phlanhigfa o goedwigoedd ag ymyl galed ac mae’n cynnwys ucheldir
creigiog, sy’n amrywio o ran uchder o 300 i 380m. Mae olion gweithgarwch
cloddio am fetel o fewn y coedwigoedd yn cynnwys tomenni, siafftiau, olion
adeiladau a ffrydiau. Fodd bynnag, planhigfeydd, lonydd, ffyrdd a nodweddion
coedwig eraill yw’r elfennau tirwedd hanesyddol mwyaf cyffredin
ac amlycaf yn yr ardal hon.
Yn ogystal â’r olion yn gysylltiedig â
chloddio am fetel, mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys dau grug
crwn posibl yn dyddio o’r Oes Efydd.
Mae i’r rhandir hwn o goedwigoedd ffiniau pendant
a cheir ucheldir agored i’r gogledd, i’r gorllewin ac i’r
de, a thir amgaeëdig a lled-amgaeëdig is lle y mae pobl yn byw
i’r dwyrain.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |