Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Ucheldir Ceredigion >

Afon Mwyro

AFON MWYRO

CYFEIRNOD GRID: SN 774650
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 74.4

Cefndir Hanesyddol

Yn y Cyfnod Canoloesol lleolid yr ardal hon o fewn Maenor Penardd a oedd yn eiddo i Abaty Ystrad Fflur, efallai fel rhan o ddemen yr abaty. Rhoddwyd y maenorau i Iarll Essex pan ddiddymwyd yr abaty, gan eu gwerthu i ystad Trawscoed ym 1630. Ar ddiwedd y 18fed ganrif roedd rhan o’r ardal hon ym meddiant Trawscoed, ac efallai mai fel hyn y daeth yn rhan o’r ystad. Fodd bynnag, daeth demen yr Abaty i feddiant John Stedman ym 1567. Bu farw Richard Stedman heb wneud ewyllys ym 1746 a throsglwyddwyd yr ystad i’r teulu Powell o Nanteos. Roedd gan Nanteos ddaliadau sylweddol yma yn y 19eg ganrif. Mae’n debyg, erbyn diwedd y Cyfnod Canoloesol, os nad ynghynt, fod maenorau a demenau abatai wedi’u rhannu’n ffermydd a gâi eu prydlesu yn fasnachol. Canlyniad y broses hon yw patrwm anheddu sy’n debyg i’r hyn a geir heddiw, fel y gwelir ar fap 1845 (Map Degwm a Rhaniad Caron, 1845). Erbyn 1845 roedd caeau wedi’u sefydlu ar loriau’r dyffrynnoedd ac mewn pocedi o amgylch y ffermydd. Ehangodd y system hon o gaeau bach yn ystod y 19eg ganrif nes cyrraedd ei ffurf bresennol. Roedd y boblogaeth yn ddigon mawr ar ddechrau’r 20fed ganrif i gyfiawnhau adeiladu capel ysgoldy ym 1905 (Percival 1998, 520). Ers hynny bu lleihad cyffredinol yn y boblogaeth.

Afon Mwyro

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal dirwedd hon yn cynnwys llawr dyffryn a llethrau isaf Afon Mwyro, sy’n amrywio o ran uchder o 210m yn ei phen gorllewinol i 370m ar ymyl y tir amgaeëdig ar lethrau’r dyffryn. Mae caeau bach ar lawr y dyffryn fel arfer yn troi yn rhostir/ffriddoedd agored wrth doriad y llethr, er bod tir amgaeedig, yn ardal ffermydd Tyncwm a Berthgoed, yn ymestyn i fyny a thros esgeiriau isel. Nodweddir y patrwm anheddu gan ffermydd gwasgaredig a chapel nas defnyddir bellach ar esgeiriau isel a’r llethrau isaf. Mae ffermdy Berthgoed yn arddull frodorol Sioraidd nodweddiadol y rhanbarth sy’n perthyn i’r cyfnod o ganol y 19eg ganrif hyd ei diwedd, sef cerrig wedi’u rendro a tho llechi masnachol. Mae ganddo adeiladau amaethyddol modern mawr. Ceir hefyd adeilad fferm modern mawr mewn lleoliad anghysbell ar lawr y dyffryn. Waliau sych a rhai cloddiau o gerrig llanw sy’n ffurfio’r ffiniau. Lle y ceir gwrychoedd maent wedi’u hesgeuluso, ac mae ffensys gwifrau wedi’u hychwanegu at y mwyafrif o’r ffiniau. Ceir tir pori wedi’i wella yn y mwyafrif o’r caeau ar lawr y dyffryn, ond mae’r tir yn dueddol o fod yn borfa fwy garw ar y llethrau isaf. Mae rhedyn yn gorchuddio rhai llethrau mwy serth. Ceir rhai pantiau mawnaidd. Mae clystyrau gwasgaredig o goed yn y cyffiniau ac i fyny’r afon o’r hen gapel yn rhoi golwg eithaf coediog i’r dirwedd.

Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn adlewyrchu’r gostyngiad yn y boblogaeth a welwyd yn yr ardal hon drwy gydol yr 20fed ganrif, ac mae’n cynnwys bythynnod anghyfannedd a safleoedd aneddiadau eraill a fawr ddim arall.

I’r gorllewin mae’r ardal hon yn ymdoddi i lawr amgaeedig y dyffryn. Ar bob ochr arall ceir ffin bendant rhwng yr ardal hon a thir agored.

Map o ardal Afon Mwyro

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221