![](../../shim.gif) |
![Afon Groes](webphotos/afongroes.jpg)
AFON GROES
CYFEIRNOD GRID: SN 692596
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 375.6
Cefndir Hanesyddol
Mae hanes cynnar yr ardal hon yn aneglur. Efallai ei
bod yn rhan o faenorau Abaty Ystrad Fflur, neu efallai ei bod yn rhan
o ddemen yr abaty. Rhoddwyd y maenorau i Iarll Essex pan ddiddymwyd yr
abaty, gan eu gwerthu i ystâd Trawscoed (Crosswood) ym 1630. Ar
ddiwedd y 18fed ganrif roedd rhan o’r ardal hon ym meddiant Trawscoed,
ac efallai mai fel hyn y daeth yn rhan o’r ystad. Daeth demen yr
Abaty i feddiant John Stedman ym 1567. Fodd bynnag, bu farw Richard Stedman
heb wneud ewyllys ym 1746 a throsglwyddwyd yr ystâd i’r teulu
Powell o Nanteos. Roedd gan Nanteos ddaliadau sylweddol yma yn y 19eg
ganrif. Mae’n debyg, erbyn diwedd y Cyfnod Canoloesol, os nad ynghynt,
fod maenorau a demenau abatai wedi’u rhannu’n ffermydd a gâi
eu prydlesu yn fasnachol. Canlyniad y broses hon yw patrwm anheddu sy’n
debyg i’r hyn a geir heddiw, fel y gwelir ar Fap Degwm Caron dyddiedig
1845. Mae mapiau cynharach - mapiau ystâd yn dyddio o ddiwedd y
18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif (LlGC Gweithredoedd Trawscoed
Cyf 1, 20 a Chyfrol 2, 1; LlGC Cyf 45, 54, 55, 69; LlGC Trawscoed 332)
- yn taflu rhywfaint o oleuni ar y modd y datblygodd y dirwedd. Dengys
mapiau o’r ardal i’r dwyrain o Dregaron ac o amgylch Aberdwr
dyddiedig 1819 rai caeau amgaeedig, gwasgaredig, a chaeau bach yn debyg
i leiniau o amgylch Penffordd. Mae’r cymysgedd hwn o ddaliadau a
chaeau amgaeedig yn awgrymu i’r dirwedd o gaeau bach afreolaidd
eu siâp ddatblygu o system o gaeau isranedig, ac mae’r mapiau
ystâd dyddiedig 1819 yn cofnodi diwedd y broses ddatblygu hon.
![](webphotos/afongroes2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae’r ardal hon yn ymestyn ar draws lloriau dyffrynnoedd
Afon Groes, Afon Brenig, Afon Berwyn a Nant Fleiniog a rhan o’r
ffordd i fyny eu llethrau isaf rhwng 175m a 200m. Mae’n cynnwys
ffermydd gwasgaredig wedi’u lleoli mewn matrics o gaeau bach, afreolaidd
eu siâp. Nodweddir ffiniau gan gloddiau ac arnynt wrychoedd. Mae’r
gwrychoedd at ei gilydd mewn cyflwr da, er na all rhai gadw stoc i mewn
bellach ac maent wedi’u hatgyfnerthu â ffensys gwifrau. Ceir
llawer o goed nodedig ar y ffiniau; mae’r rhain a’r coedwigoedd
bach sydd wedi’u gwasgaru ar draws yr ardal yn rhoi’r argraff
mai tirwedd weddol goediog ydyw. Tir pori wedi’i wella yw’r
tir amaeth yn bennaf, er bod rhywfaint o dir pori heb ei wella, porfa
arw a thir brwynog.
Carreg leol yw’r deunydd adeiladu traddodiadol
a defnyddir llechi (llechi o ogledd Cymru) ar gyfer y toeau. Mae waliau’r
tai naill ai wedi’u rendro â sment neu maent yn foel ac mae
waliau’r adeiladau fferm traddodiadol bob amser yn foel. Mae ffermdai/tai
hþn sy’n dyddio bron yn ddieithriad o ganol y 19eg ganrif
hyd ei diwedd, yn gymharol fach, mae iddynt ddeulawr ac maent yn yr arddull
frodorol Sioraidd draddodiadol – sef simneiau yn nhalcennau’r
tþ, drws ffrynt canolog, dwy ffenestr ar y naill ochr a’r
llall i’r drws ac un uwch ei ben. Mae nodweddion brodorol megis
bondo isel, ffenestri bach ac un simnai sy’n fwy o faint na’r
llall i’w cael ar rai tai. Fel arfer cyfyngir adeiladau allan wedi’u
hadeiladu o gerrig i un neu ddwy res fach, ac mae rhai ohonynt ynghlwm
wrth y tþ ac yn yr un llinell ag ef. Ceir nifer o ffermydd nad ydynt
yn gweithio bellach ac mae eu hadeiladau allan yn mynd â’u
pennau iddynt. Mae gan ffermydd gweithredol resi bach o adeiladau amaethyddol
dur a choncrid modern. Hefyd yn yr ardal hon ceir ty mwy o faint yn dyddio
o ddechrau’r 20fed ganrif, capel rhestredig bach yn dyddio o 1866
a thai gwasgaredig yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif a dechrau’r
21ain ganrif, byngalos gan mwyaf, gyda chrynhoad ohonynt gerllaw Tregaron
ar ochr ddwyreiniol yr ardal hon.
Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys ychydig
o safleoedd yn unig, ac mae’r rhain yn bennaf yn anheddau sydd wedi
goroesi yn dyddio o’r cyfnod ôl-ganoloesol, a mân elfennau
tirwedd eraill yn dyddio o’r un cyfnod. Mae maen hir posibl yn dyddio
o’r Oes Efydd yn darparu’r unig elfen o ddyfnder amser ar
gyfer yr ardal.
Nid yw ffiniau’r ardal hon yn bendant ar y cyfan.
Fodd bynnag, i’r gorllewin mae tref Tregaron yn darparu ffin bendant,
ac i’r gogledd mae’r llethr serth hefyd yn ffin bendant.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |