![](../../shim.gif) |
PEN CAER
![PEN CAER](images/pencaer.jpg)
CYFEIRNOD GRID: SM 903389
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 1274
Cefndir Hanesyddol
Ardal fawr o fewn ffiniau modern Sir Benfro sy’n
cynnwys y rhan fwyaf o benrhyn Pen Caer/Pen Strwmbwl ar wahân i’r
llain arfordirol, o fewn plwyf Llanwnda yn bennaf ond sydd hefyd yn cynnwys
rhan o blwyf San Nicolas. Yn ystod y cyfnod canoloesol roedd yr ardal
hon yn rhan o gantref canoloesol Pebidiog, yr oedd iddo’r un ffiniau
â chantref diweddarach Dewisland a grëwyd ym 1536. Fe’i
delid yn uniongyrchol gan esgobion Tyddewi, a bu’n graidd i’r
Esgobaeth ers 1028 pan y’i rhoddwyd (neu y’i cadarnhawyd)
gan Rhys ap Tewdwr, sef brenin Dyfed cyn y Goresgyniad Eingl-Normanaidd,
i’r Esgob Sulien. Mae i’r ardal hanes anheddu hir a chymhleth,
y mae llawer ohono yn gysylltiedig â Christnogaeth ganoloesol. Fodd
bynnag, mae’n bosibl i’r dirwedd bresennol gael ei sefydlu
ynghynt am fod ffiniau sy’n dyddio o bosibl o’r cyfnod cynhanesddyol
wedi’u cadw yn ardal gymeriad Garn Fawr sy’n ffinio â
hi. Ymddengys fod y caeau yn union i’r gogledd-orllewin o Garn Fawr,
o amgylch Fferm Tal-y-gaer, er enghraifft, yn parhau’r system gynhanesyddol
hon. O 1115 ymlaen, pan benodwyd Bernard yn Esgob Tyddewi, cyflwynwyd
systemau Eingl-Normanaidd o lywodraethu ffiwdal a gweinyddu eglwysig i
Bebidiog ac ymestynnai’r rhan fwyaf o ardal gymeriad Pen Caer dros
Villa Grandi, y cyfeiriwyd ati fel maenor ym 1326 ond nid yn yr ystyr
Eingl-Normanaidd, ffurfiol efallai. Ar ben hynny ymddengys i systemau
tirddaliadaeth Cymreig barhau, er iddynt gael eu haddasu mewn gwahanol
ffyrdd, tra parhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal hyd at
ddechrau’r 20fed ganrif. Bu Pebidiog yn destun arolwg manwl ym 1326,
pan gofnodwyd ffermydd presennol Castell, Tre-fisheg a Thresinwen. Ymddengys
eu bod yn ffurfio trefgorddau llac yn hytrach na threflannau Eingl-Normanaidd
ac nid yw’r un ohonynt heddiw yn cynnwys aneddiadau cnewyllol go
iawn. Efallai bod trefgordd ‘Castell Wladus’ wedi’i
lleoli ar safle'r castell mwnt a beili yng Nghastell Poeth, nad yw ei
hanes yn hysbys ond a fu’n fyrhoedlog yn ôl pob tebyg, ac
na chafodd fawr ddim dylanwad ar ddatblygiad yr ardal. Ymddengys i drefgordd
yn ‘Llandogen’ gael ei sefydlu o amgylch safle Capel Degan,
sydd wedi diflannu bellach, y mae’n debyg ei fod yn dyddio o ddechrau’r
cyfnod canoloesol. Mae’n bosibl bod safle capel arall yn dyddio
o ddechrau’r cyfnod canoloesol yn Llandruidion lle y darganfuwyd
beddau cist mewn caeau a elwir yn Hen Fynwent. Hwn hefyd oedd safle treflan
yn ystod y cyfnod canoloesol ac fe’i lleolid o fewn ‘maenor’
Villa Camerarii. Yr un oedd y ffin rhwng Villa Camerarii a Villa Grandi
a ffin y plwyf a ddynodir bellach gan ffin cae barhaol a ffordd annosbarthedig
- ond mae’n bosibl i’r gyntaf gael ei sefydlu yn gynharach.
Mae daliadau eraill a nodir yn arolwg 1326, a ddelid ‘yn ôl
cyfraith Cymru’, yn cynnwys Trefasser (man geni Asser, cynghorwr
Alffred Fawr, yn ôl traddodiad di-sail), Llanwnnwr (a oedd hefyd
yn safle capel cynnar) Panteurig, Penysgwarne, Treathro a Thresinwen.
Nid yw system o lein-gaeau eithaf hir sy’n ymestyn o’r gogledd
i’r de yn hanner gogleddol yr ardal yn nodweddiadol o lein-gaeau
Eingl-Normanaidd, canoloesol ond mae’n bosibl iddynt ddeillio o
leiniau a ddelid o dan systemau tirddaliadaeth Cymreig brodorol. Ymddengys
fod y mwyafrif o’r caeau yn yr ardal yn perthyn i gyfnod diweddarach.
Mae’r caeau hyn yn rheolaidd eu siâp a chanddynt ffiniau syth,
ac mae’n bosibl eu bod yn gorwedd ar dirwedd a gynhwysai gaeau agored
neu dir comin yn y cyfnod canoloesol. Mae enwau’r ffermydd ‘Goodhope’,
‘Harmony’ (gerllaw capel o eiddo’r Bedyddwyr a sefydlwyd
ym 1828) a ‘Thai-bach’ yn awgrymu aneddiadau ôl-ganoloesol
newydd, â’r tþ bonedd yn Nhrehowel hefyd nad oes ganddo
unrhyw hanes cofnodedig sy’n gynharach na 1603. Ar wahân i
fap degwm 1845, sy’n dangos yr un dirwedd, fwy neu lai, ag a welir
heddiw, nid oes unrhyw fapiau hanesyddol ar gyfer yr ardal hon. Fodd bynnag,
dengys map ystad o Felindre, a leolir i’r de o’r dirwedd hon,
a luniwyd ym 1849 system gaeau o leiniau cymysg, agored ac wedi’u
hamgáu. Mae’n bosibl bod caeau agored yn ymestyn ar draws
rhan helaeth o dirwedd Pen Caer ar un adeg, ond roeddynt wedi’u
hymgorffori ac wedi’u hamgáu erbyn yr arolwg degwm.
![PEN CAER](images/pencaer2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae Pen Caer yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol fawr
a chymhleth sy’n ymestyn dros ran orllewinol penrhyn Pen Caer/Pen
Strwmbwl i’r de ac i’r gogledd o rostir uchel Garn Fawr. I’r
gogledd o Garn Fawr mae ffurfio llwyfandir tua 60m - 70m o uchder sydd
â chlogwyni yn ffin iddo. I’r de o Garn Fawr mae’r ardal
hon yn ymestyn ar draws tir sy’n graddol ddisgyn ac yn wynebu’r
de. Mae’r dirwedd hanesyddol yn cynnwys ffermydd gwasgaredig wedi’u
gosod mewn tirwedd o gaeau bach a chanolig eu maint, afreolaidd eu siâp.
Trefasser a’i glwstwr llac o ffermydd, tai a bythynnod yw’r
unig anheddiad cnewyllol yn yr ardal, ac mae’n fach iawn. Mae ffiniau
caeau yn gymysgedd o waliau sych a chloddiau caregog. Mae’r mwyafrif
o’r ffiniau mewn cyflwr da, er bod rhai o’r waliau sych wedi
dirywio ac ni allant gadw da byw bellach. At ei gilydd, mae waliau yn
fwy cyffredin yn agosach at yr arfordir ac ar gyrion rhostir uchel Garn
Fawr, a chloddiau a geir yn bennaf mewn mannau eraill. Mae’r mwyafrif
o’r cloddiau wedi’u hadeiladu o gerrig bras a phridd. Mae’r
cerrig sylfaen mewn rhai cloddiau yn enfawr, ac mae’r cloddiau eu
hunain, fel arfer, yn fawr iawn. Mae cloddiau caregog a waliau isel yn
ymestyn o’r bryngeyrydd ar Garn Fawr i dir isel yr ardal hon a pharheir
â hwy yn y ffiniau caeau modern; mae’n amlwg bod y rhain yn
dyddio o’r cyfnod cynhanesyddol ac maent yn tystio i batrwm amgáu
hynafol o leiaf ran o’r dirwedd hon. Mae’n dirwedd agored
iawn, sydd dan lach gwyntoedd y gorllewin trwy’r amser bron. O ganlyniad
mae’r gwrychoedd lle y’u ceir ar y cloddiau yn isel ac yn
agored i’r gwynt, ac ni cheir unrhyw goed, ar wahân i goetir
prysglog mewn pantiau cysgodol a gerllaw tai. Tri pori wedi’i wella
yw’r defnydd a wneir o’r tir bron yn gyfan gwbl, a cheir rhywfaint
o dir âr a rhai pocedi o dir pori garw. Mae bron holl stoc adeiladau’r
ardal hon yn cynnwys ffermydd gwasgaredig, tai a bythynnod. Nid oes fawr
ddim adeiladau sy’n gynharach na dechrau’r 19eg ganrif. Un
eithriad yw’r ty yn Nhrehowell. Mae’r tþ hwn, sy’n
dyddio o’r 18fed ganrif, yn yr arddull frodorol ac mae llechi wedi’u
gosod dros ei ddrychiadau. Cerrig yw’r deunydd adeiladu cyffredin.
Mae adeiladau wedi’u codi o gerrig bras sydd wedi’u gadael
yn foel neu wedi’u rendro â sment ac wedi’u distempro
â lliw. O bryd i’w gilydd mae llechi wedi’u gosod drostynt
fel yn achos Trehowell. Nid oes unrhyw anheddau pwysig yn yr ardal, ac
mae gan y mwyafrif o’r ffermdai a’r tai eraill ddau lawr a
thri bae a drws ffrynt canolog a simneiau talcen. Ceir enghreifftiau yn
y traddodiad brodorol yn dyddio o ddechrau 19eg ganrif yn bennaf, ac yn
yr arddull ‘Sioraidd’ yn dyddio o’r cyfnod rhwng canol
a diwedd y 19eg ganrif. Mae’r nifer fawr o fythynnod unllawr yn
y traddodiad brodorol a chanddynt dri bae a drws ffrynt canolog yn un
o elfennau nodedig yr ardal hon. Mae nifer ohonynt yn rhestredig. Maent
wedi’u canoli ar gyrion tir ymylol, sy’n awgrymu iddynt ddechrau
fel aneddiadau sgwatwyr, ac maent yn cynnwys Garn Fawr a Studio Cottage
lle y bu’r arlunydd John Piper yn preswylio. Mae hen adeiladau fferm
wedi’u codi o gerrig moel. Mae’r mwyafrif ohonynt yn eithaf
bach ac maent yn cynnwys ysgubor, beudy a sied droliau wedi’u gwasgu
i mewn i un neu ddwy res, ond ceir enghreifftiau mwy o faint, megis yn
Nhrefasser Isaf, Trehowell a Phenysgwarne. Yn achos rhai o’r enghreifftiau
hyn mae’r adeiladau fferm a’r buarth wedi’u lleoli ychydig
o bellter o’r annedd, sy’n dynodi tþ a ddyrchafwyd un
neu ddau ris i fyny’r ysgol gymdeithasol na ffermdai mwy cyffredin
yr ardal. Mae sawl rhes o adeiladau allan mwy o faint yn rhestredig, sy’n
anarferol - y rhai yn Nhrefasser, Penysgwarne a Threhowell er enghraifft
- ac yn fwy anarferol byth mae rhai adeiladau fferm llai o faint hefyd
yn rhestredig fel ym Mhontiago a gerllaw Harmony. Llechi yw’r defnydd
toi traddodiadol ar gyfer tai ac adeiladau allan fferm. Gellir gweld y
sgim sment neu’r growt morter a osodwyd ar doeau llechi ar dai ac
adeiladau fferm ac mae’n nodweddiadol o gyrion gorllewinol, agored
y rhan hon o Sir Benfro. Disodlodd dalenni asbestos lechi ar nifer fawr
o hen adeiladau fferm. Mae adeiladau amaethyddol modern o goncrid, dur
ac asbestos yn fwy o faint ac yn nodwedd dirwedd amlycach ar ffermydd
i’r gogledd o Garn Fawr nag ar y rhai i’r de. Prin yw’r
tai modern yn yr ardal hon, a’r unig adeilad annomestig/anamaethyddol
sylweddol yw’r capel yn Harmony a adeiladwyd o gerrig yn y 19eg
ganrif. Mae safleoedd archeolegol yn niferus ac yn amrywiol ac maent yn
tystio i dirwedd gyfannedd dros sawl mileniwm. Lleolir nifer o safleoedd
gweithio fflint cynhanesyddol gerllaw’r arfordir. Mae safleoedd
cynhanesyddol eraill yn cynnwys un maen hir a nifer o feini hirion posibl
yn dyddio o’r oes efydd, crug crwn a beddrod siambr posibl. Mae
tair caer yn dyddio o’r oes haearn yn yr ardal, gan gynnwys enghraifft
gofrestredig. Dangosir pa mor bwysig oedd yr ardal hon yn y cyfnod canoloesol
gan y ffaith ei bod yn cynnwys tair carreg arysgrifedig, tri chapel posibl
a safle ffynnon gysegredig. Ar gyfer y cyfnod canoloesol, cofnodwyd un
(neu ddau) gastell cloddwaith, y mae’r ddau ohonynt yn rhestredig
yn ogystal â nifer o safleoedd anheddu. Ceir chwareli cerrig sy’n
dyddio o gyfnodau diweddarach.
I’r gogledd ac i’r gorllewin mae’r
llethr arfordirol a’r clogwyni uchel yn darparu ffin bendant ar
gyfer yr ardal hon. I’r dwyrain mae’r ardal hon yn ymdoddi
i ardal Llanwnda, sy’n rhannu llawer o elfennau tirwedd hanesyddol
tebyg. I’r de ni ddisgrifiwyd yr ardal gymeriad dirwedd hanesyddol
eto, ond yn y fan hon mae’r elfennau hynny sy’n nodweddu Pen
Caer megis ffiniau caeau o gerrig sych a chloddiau enfawr o gerrig yn
llai cyffredin, ac mae gwrychoedd a chlystyrau bach o goetir yn amlycach.
Ffynonellau: Archifdy Sir Benfro D/JP/193, HDX/57/30;
Charles 1992; Jones 1996; Ludlow 2002; Llyfrgell Genedlaethol Cymru 14229/6;
Map degwm plwyf Llanwnda 1845; Ress 1932; Willis-Bund 1902
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |