![](../../shim.gif) |
WDIG
![WDIG](images/goodwick.jpg)
CYFEIRNOD GRID: SM 943382
ARDAL MEWN HECTARAU: 113
Cefndir Hanesyddol
Llain gul o dir o fewn ffiniau modern Sir Benfro, i’r
gorllewin o Borthladd Abergwaun, Nant Wdig a Gwaun Wdig. Erbyn hyn mae’r
ardal yn cynnwys ardal adeiledig tref Wdig yn bennaf, a ddatblygodd bron
yn gyfan gwbl yn y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif. Prin yw’r
aneddiadau cynharach a gofnodwyd; gorweddai y tu allan i fwrdeistref ganoloesol
Abergwaun a bwrdeistref ddiweddarach Abergwaun. Mae rhan ogleddol yr ardal,
lle y saif Gorsaf Fferi Wdig a’i ddatblygiadau cysylltiedig bellach,
yn gorwedd ar dir a grëwyd tua 1906 i gysylltu’r orsaf fferi
â morglawdd mawr. Yn hanesyddol roedd y pentir lle y codwyd y morglawdd,
sef Pwynt Pen-cw, fwy neu lai yn ynys. Fodd bynnag, mae carreg forthwyl
?neolithig a ddarganfuwyd ar y llethr uwchben Pwynt Pen-cw, llawr gweithio
fflint posibl, crug crwn posibl a thlws bylchgrwn pwysig yn dyddio o ddechrau’r
Oesoedd Canol a ddarganfuwyd ar draeth Wdig, i gyd yn arwydd o bresenoldeb
dynol, os nad anheddiad, cynharach. At hynny, rhoddwyd yr enw Pwllgwdig
ar yr ardal mor gynnar â 1074 pan oedd yn lleoliad brwydr rhwng
Tywysogion Cymreig rhyfelgar. Nodwyd Gwaun Wdig yn betrus fel lleoliad
y frwydr hon. Tua diwedd y cyfnod canoloesol, roedd yr ardal yn rhan o
gantref canoloesol Pebidiog neu ‘Dewisland’. Delid Pebidiog
yn uniongyrchol gan esgobion Tyddewi, a bu’n graidd i’r Esgobaeth
ers 1028 pan y’i rhoddwyd gan Rhys ap Tewdwr, sef brenin Dyfed cyn
y Goresgyniad Eingl-Normanaidd, i’r Esgob Sulien. Efallai i Gomin
Pwll-hir yr adeiladwyd rhan o’r dref arno gael ei sefydlu yn y cyfnod
canoloesol, ond nid oes ganddo unrhyw hanes cynnar a gofnodwyd. Gwelir
nifer o nodweddion ffisegol sy’n gysylltiedig â gweithgarwch
adfer tir ar forfeydd heli uchel Gwaun Wdig, gan gynnwys y gwaith a wnaed
i gamlesu Nant Wdig ar ?ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol a
sawl cloddwaith arall. Efallai i Esgobion Tyddewi a oedd yn berchen ar
ddolydd morfeydd heli yma tan yr 20fed ganrif wneud rhywfaint o waith
i ddraenio’r tir hwn. Ymddengys i bentrefan bach cnewyllol yn y
Dyffryn, a safai ar ynys o dir amgaeedig ar y morfa heli, ddatblygu o
dy bonedd Dyffryn Goodwick. Roedd y ty, y gall fod cyfeiriad ato mewn
gweithred ddyddiedig 1595, yn bendant mewn bodolaeth ym 1624 ac mae’r
safle yno o hyd. I’r gogledd roedd ty bonedd - Goodwick House -
wedi’i adeiladu ar ran o Dir Comin Pwll-hir uwchben y porthladd,
cyn 1702. Roedd cei wedi’i adeiladu hefyd ar safle’r morglawdd
(a welir ar fap dyddiedig 1815). Mae map degwm 1845 yn dangos tair elfen
hynod o’r hyn a fyddai’n ffurfio tref Wdig - y cei gydag anheddiad
bychan, cnewyllyn bach o dai ar y groesffordd ar y blaendraeth a phentrefan
y Dyffryn. Yn wir, ni ddechreuwyd datblygu’r ardal hon mewn gwirionedd
tan 1906 pan agorwyd yr orsaf fferi a’r cysylltiad rheilffordd o
Hwlffordd gan y Great Western Railway, Rheilffordd Abergwaun a Rosslare
a Phacedlong Dinas Cork. Dangosir y rheilffordd, y morglawdd a’r
cyfleusterau porthladd newydd oll ar fap AO 1908 ac mae llawer o’r
strwythurau presennol yn cynnwys elfennau sylweddol o’r adeiladau
gwreiddiol hyn, yn enwedig yr orsaf reilffordd, y siediau injan a’r
hen dollty. Prynwyd Goodwick House gan y GWR a’i ailgodi fel Gwesty
Fishguard Bay. Dengys y map fod Dyffryn erbyn hynny wedi’i gysylltu
â phrif anheddiad Wdig gan y rheilffordd a bu’n rhaid codi
tai newydd ar lawr y dyffryn ac i fyny llethrau serth y dyffryn. Roedd
cyfyngiadau’r safle eisoes yn amlwg, am fod terasau o dai wedi’u
hadeiladu ar y tir gwastad yn uchel uwchlaw’r porthladd. Ysbeidiol
fu’r datblygiadau yn ystod yr 20fed ganrif. Parhaodd datblygiadau
tai i ymestyn ar hyd llawr y dyffryn gan gysylltu Dyffryn â Wdig
ei hun ac ar lethrau serth y dyffryn. Yn ystod chwarter olaf yr 20fed
ganrif gwelwyd cryn dipyn o ddatblygiadau masnachol ar y morfa y tu ôl
i’r blaendraeth a gwnaed cryn welliannau i seilwaith y porthladd.
![WDIG](images/goodwick2.jpg)
Disgrifiadau ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae Wdig yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol drefol
fach a leolir ar safle cyfyngedig yn ymestyn dros lethr serth y dyffryn
yn wynebu’r de-orllewin ac ar lawr dyffryn cul. Er mai anheddiad
cnewyllol ydyw, mae naws wledig i rannau o Wdig oherwydd y mannau agored
a’r coetir ar lethrau serth y dyffryn rhwng y tai. I’r dwyrain
ceir y môr a llain o forfa arfordirol. Craidd a raison d’ètre
yr anheddiad yw porthladd a rheilffordd Wdig. Prin yw’r elfennau
tirwedd hanesyddol sy’n gynharach na’r 19eg ganrif ac mae’r
rhan fwyaf ohonynt yn dyddio o ganol i ddiwedd y 19eg ganrif a’r
20fed ganrif. Ceir rhan hynaf yr ardal yn y Dyffryn. Yma ceir adeiladau
hyn o gerrig, gan gynnwys Dyffryn House, ty sylweddol wedi’i adeiladu
o gerrig a chanddo elfennau yn dyddio o’r 16eg ganrif, a hen felin
ddwr. O’r craidd masnachol/diwydiannol yn y porthladd mae aneddiadau
preswyl yn ymestyn ar hyd llawr y dyffryn ac ar lethrau’r dyffryn.
Mae rhan breswyl ganolog, hynaf Wdig wedi’i chanoli ar gyffordd
wrth droed llethr y dyffryn. Yma mae’r siopau, y tai, y tafarndai
a’r capeli yn dyddio o ganol i ddiwedd y 19eg ganrif. Mae cryn amrywiaeth
yn y deunyddiau a’r arddulliau adeiladu. Mae’r deunyddiau’n
amrywio o frics coch i gerrig moel a cherrig wedi’u rendro â
sment. Mae haearn rhychog yn diogelu’r waliau ar rai adeiladau.
Ymhlith yr adeiladau hyn mae’r neuadd haearn rhychog – sef
cyn-Sefydliad Wdig a godwyd tua 1900. Mae’r adeiladau o gerrig at
ei gilydd yn dyddio o gyfnod cynharach ac maent yn cynnwys bythynnod yn
dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif. Mae eglwys San Pedr sydd yn yr
arddull gothig yn dyddio o 1910. Llechi yw’r deunydd toi mwyaf cyffredin.
Lleolir datblygiadau llinellol yn cynnwys tai teras a adeiladwyd ar ddiwedd
y 19eg ganrif fel unedau unigol ar lawr y dyffryn, tra datblygwyd terasau
mwy anffurfiol, tai ar wahân a thai pâr ar lethrau cyfyng
y dyffryn. Mae’r rhain, unwaith eto, yn adlewyrchu amrywiaeth o
arddulliau a deunyddiau, ond mae llawer o adeiladau yn arddangos portshys,
ffenestri ac addurniadau eraill yn yr arddull neo-gothig. Yn ystod yr
20fed ganrif codwyd ystadau tai llinellol bach ar y llethrau uwch sy’n
llai serth ar yr isffordd i gyfeiriad Stop-and-Call ac ar y llwyfandir
uwchlaw porthladd Wdig, yn ogystal ag ar hyd priffordd yr A487 (sydd bellach
yn dawel ers adeiladu Ffordd Osgoi Dwyrain Abergwaun) i’r de-ddwyrain
o’r hen graidd preswyl. Mae llawer o adeiladau brics coch sy’n
dyddio o ddechrau’r 20fed ganrif i’w gweld o hyd yn yr orsaf
reilffordd ar y cei. Mae cyn-dy’r gorsaf-feistr a adeiladwyd o frics
ar Station Hill. Gerllaw, mae Gwesty Fishguard Bay yn dyddio o ddiwedd
y 19eg ganrif ond fe’i hehangwyd ym 1905 gan y Great Western Railway
i baratoi ar gyfer teithwyr yn croesi’r Iwerydd. Mae gerddi’r
gwesty, a luniwyd yn ystod degawd cyntaf yr 20fed ganrif wedi’u
cynnwys yng Nghofrestr Parciau a Gerddi Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a
Sir Benfro. Mae sawl strwythur rhestredig yn Wdig yn cynnwys adeiladau
cyhoeddus a bythynnod hyn, ond nid ydynt yn cynnwys y tai teras nodweddiadol
sy’n dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif na thai eraill. Mae’r
rhan fwyaf o’r porthladd a’i gyfleusterau yn dyddio o ddiwedd
yr 20fed ganrif ac mae’n cynnwys y seilwaith helaeth ar gyfer y
llongau fferi ceir i Iwerddon. Un o brif nodweddion yr ardal hon yw’r
prif forglawdd gogleddol, sy’n dyddio o ddechrau’r 20fed ganrif;
nid yw’r morglawdd dwyreiniol llai o faint yn nodwedd mor amlwg.
Datblygwyd gorsafoedd petrol, diwydiant ysgafn, a chyfleusterau hamdden
ar ddiwedd yr 20fed ganrif ar dir a adferwyd ar hyd yr A40 (Cefnffordd)
sy’n rhedeg ar hyd glan y môr. Yn yr ardal hon ceir lleiniau
bychan o lethrau arfordirol serth. Mae’r archaeoleg a gofnodwyd
yn ymwneud yn bennaf â strwythurau sy’n dyddio o’r 19eg
ganrif a’r 20fed ganrif sy’n gysylltiedig â’r
porthladd a’r dref. Ond mae crug crwn a allai ddyddio o’r
oes efydd a safle gweithio fflint cynhanesyddol wedi’u lleoli yn
yr ardal.
Mae hon yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol nodedig
iawn sy’n cyferbynnu â thir fferm a morfeydd cyfagos. Ceir
llain o forfa a blaendraeth rhyngddi ac ardal drefol hyn Abergwaun.
Ffynonellau: Cadw 2002; Charles 1992; James 1981;
Jones 1952; Jones 1996; map degwm Plwyf Llanwnda; Ludlow 1994; Taflen
IV.SE Sir Benfro Arolwg Ordnans, 1891 a 1901; Comisiwn Brenhinol Henebion
Cymru 1925; Roberts ac eraill 1986
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |