![](../../shim.gif) |
MYNYDD MELYN
![MYNYDD MELYN](images/mynyddmelyn1.jpg)
CYFEIRNOD GRID: SN 021367
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 240
Cefndir Hanesyddol
Ardal ganolig o sir Benfro ar ei ffurf fodern, yn cynnwys
rhostiroedd uwchdirol Mynydd Melyn a Chnwc-y-gwartheg. Gorwedda o fewn
cantref canoloesol Cemaes. Dygwyd Cemaes o dan reolaeth yr Eingl-Normaniaid
yn oddeutu 1100 gan y teulu Fitzmartin a bu ym meddiant y teulu hwnnw,
fel Barwniaeth Cemaes, tan 1326, pan gawsant eu holynu gan y teulu Audley.
Roedd y Farwniaeth yn rhannu yr un ffiniau â chantref Cemais, a
grëwyd yn ddiweddarach yn 1536, ond goroesodd llawer o hawliau a
rhwymedigaethau ffiwdal, rhai mor hwyr â 1922. Mae’r ardal
gymeriad hon yn nodweddiadol o dirwedd uwchdirol Cymru yn y ffaith ei
bod yn cynnwys tystiolaeth helaeth o anheddu cynhanesyddol, sef cofebau
defodol ac angladdol ond hefyd safleoedd anheddu megis grwpiau o gytiau
a systemau caeau. Erbyn y cyfnod canoloesol mae’n debyg bod Mynydd
Melyn a Mynydd Carningli i’r dwyrain yn un darn o rostir agored.
Daliwyd Mynydd Carningli, gan gynnwys o leiaf ran o Fynydd Melyn, yn uniongyrchol
gan Arglwyddi Cemaes, ond yn 1278 cyhoeddodd Nicholas Fitzmartin siarter
yn rhoi i’r bwrdeiswyr yr hawl i bori cyffredin dros ‘all
my land wet and dry, moors and turbaries’ ar Fynydd Carningli. Diffiniodd
y siarter ardal fawr gan gynnwys yr ardal yn gorwedd i’r gorllewin
o Fynydd Melyn ac i’r gogledd o ddaliad âr Nantmarchan, a
oedd yn werth ffi un marchog. Gorweddai hwn ar hyd Cwm-mawr i’r
de o Fynydd Melyn. Rhannwyd hanner gorllewinol yr ardal hon rhwng plwyf
Dinas a phlwyf Llanychlwyddog. Mae’n bosibl bod y rhaniad rhyngddynt
yn ffin hynafol. Ymddengys bod y rhan honno o Fynydd Melyn ym mhlwyf Llanychlwyddog,
yn dir heb ei amgáu hefyd. Roedd yn perthyn i ddaliad mwy o faint,
a elwid hefyd yn Fynydd Melyn, a oedd yn cynnwys tir cymysg yn ymestyn
i lawr y llethr i’r de o’r ardal hon. Roedd yn werth ffi un
marchog a ddaliwyd gan y Farnwriaeth, a’i chanol yn y fferm o’r
un enw yn is i lawr y llethr, ac fe’i cofnodwyd yn yr Extent of
Cemaes o 1594. Ymddengys felly fod Mynydd Melyn yn y cyfnod canoloesol
yn gymysgedd o dir comin agored a thir heb ei amgáu a ddaliwyd
gan ffermydd unigol. Fodd bynnag, ymddengys bod yr hawl i bori cyffredin
wedi ymestyn dros yr ardal gyfan yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol
gan fod map ystad o 1758 yn enwi rhan o’r ardal yn ‘ffridd’
a oedd yn perthyn i sawl fferm ar y llethrau gogleddol is, er nad yw’n
glir p’un a oedd gan y tir hwn ffens derfyn neu a oedd heb ei amgáu.
Fodd bynnag, erbyn arolwg y degwm yn yr 1840au roedd y tir uwch (sy’n
gorwedd yn yr ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon) wedi’i rannu’n
gaeau mawr, mewn patrwm sy’n debyg i’r hyn a geir heddiw,
ac roedd ffermydd a chaeau wedi’u sefydlu dros y llethrau is mewn
ardal sy’n gydffiniol bellach. Ymddengys mai ychydig iawn sydd wedi
newid yn yr ardal hon ers arolwg y degwm.
![MYNYDD MELYN](images/mynyddmelyn2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae hon yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol uwchdirol
sy’n codi hyd at 307m ar gopa crwm Mynydd Melyn. Nid oes dim adeiladau
yn y dirwedd hon. Mae’n agored ei naws, ond nid yw’n rhostir
agored, ac mae wedi’i rhannu’n gaeau mawr iawn. Mae ffiniau
hyˆ n yn cynnwys cloddiau â wyneb carreg a waliau carreg sychion.
Erbyn hyn nid yw’r rhain ar y cyfan yn ffurfio ffiniau, a ffensys
gwifren, y mae llawer ohonynt yn rhedeg ar hyd y ffiniau hyˆ n, sy’n
rhwystrau cadw stoc. Nid oes unrhyw goed yn yr ardal. Mae defnydd tir
yn gymysgedd o borfa wedi’i gwella a phorfa rug arw. Mae safleoedd
archeolegol yn elfen bwysig o dirwedd hanesyddol yr ardal, yn enwedig
safleoedd cynhanesyddol, gan gynnwys: cylchoedd o gytiau, crug crwm, maen
hir, carneddau clirio a systemau caeau. Mae safleoedd eraill yn cynnwys
croes ganoloesol ar gyfer pererinion
Mae Mynydd Melyn yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol
unigryw, ond eto i gyd nid oes modd pennu ei ffiniau yn fanwl gywir. Mae’r
ardal hon yn tueddu i raddol ymdoddi i’r caeau mwy garw yn yr ardaloedd
cyfagos.
Ffynonellau: Map degwm Dinas Parish 1841; Howells
1977; Map degwm Plwyf Llanlawer 1843; map degwm Plwyf Llanychlwydog 1844;
Llyfrgell Genedlaethol Cymru Llwyngwair Map 8 (1758); Miles 1995; map
degwm Plwyf Trefdraeth 1844
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |