![](../../shim.gif) |
BRYN-HENLLAN
![BRYN-HENLLAN](images/brynhenllan1.jpg)
CYFEIRNOD GRID: SN 014388
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 461
Cefndir Hanesyddol
Ardal fawr o sir Benfro ar ei ffurf fodern, yn cynnwys
y gwastadedd arfordirol rhwng Mynydd Carningli a’r clogwyni i’r
gogledd. Gorwedda o fewn cantref canoloesol Cemaes. Dygwyd Cemaes o dan
reolaeth yr Eingl-Normaniaid yn oddeutu 1100 gan y teulu Fitzmartin a
bu ym meddiant y teulu hwnnw, fel Barwniaeth Cemaes, tan 1326, pan gawsant
eu holynu gan y teulu Audley. Roedd y Farwniaeth yn rhannu yr un ffiniau
â chantref, Cemais, a grëwyd yn ddiweddarach yn 1536, ond goroesodd
llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal, rhai mor hwyr â 1922.
Mae’r ardal gymeriad hon yn gorwedd o fewn plwyf Dinas, a oedd yn
ffi un marchog, a ddaliwyd o dan Farnwriaeth Cemaes, drwy ddeiliadaeth
Gymreig. Mae’n bosibl bod enw Dinas yn deillio o Ben Dinas. Cafodd
hwnnw ei enwi o bosibl oherwydd ei debygrwydd i ddinas (caeadle amddiffynedig
mawr yn yr oes haearn), yn hytrach na bod amddiffynfa wirioneddol yno.
Yn yr Extent of Cemaes, o 1594, daliwyd Dinas gan ‘a divers tenant’
a’i gwerth oedd £4. Mae eglwys plwyf Dinas, St Brynach, yn
gorwedd yn yr ardal - Brynach oedd ‘nawdd sant’ Cemaes. Hefyd
yn yr ardal hon mae safle mynwent gistfeddau ym Mryn-henllan y mae ei
henw yn awgrymu ei bod wedi rhagflaenu St Brynach. Dichon fod tarddiadau
canoloesol cynnar i’r ddau safle. Efallai mai’r ‘Trefawr’
a restrwyd fel daliad yn yr Extent ynghyd â Bryn-henllan a Fron
Fawr yw’r ardal o amgylch yr eglwys, a elwir bellach yn ‘Cwm-yr-eglwys’.
Mae Fron Fawr wedi troi’n ddwy fferm erbyn hyn. Mae’r patrwm
caeau presennol, sef caeau bach afreolaidd eu siâp, yn awgrymu proses
amgáu ôl-ganoloesol. Mae’n bosibl i’r dirwedd
gael ei had-drefnu’n sylweddol - mae hanner dwyreiniol yr ardal,
er enghraifft, wedi’i labelu’n ‘Coedwig’ ar fap
Rees o dde Cymru yn y 14eg ganrif. Fodd bynnag, mae llain-gaeau wedi’u
ffosileiddio i’w gweld yn yr ardal yn union i’r gorllewin
o Fryn-henllan. Dengys map degwm 1841 rai llain-gaeau wedi’u hamgáu
yn ogystal â chaeau bach mewn patrwm nad yw’n annhebyg i’r
hyn a welir heddiw, er bod rhai anheddau wedi diflannu, mae rhai clystyrau
newydd wedi datblygu ac mae rhai o’r caeau bach wedi cael eu cyfuno.
Dinistriwyd eglwys plwyf Dinas i raddau helaeth gan erydu arfordirol yng
nghanol y 19eg ganrif ac adfail anghyflawn ydyw bellach. Adeiladwyd eglwys
newydd ger pentref Bryn-henllan, fel y mae heddiw, a ddaeth yn gnewyllyn
ar gyfer anheddiad newydd, ynghyd â chapel anghydffurfiol cynharach
gerllaw. Mae ffordd yr A487(T), sy’n croesi’r ardal, yn dilyn
llinell llwybr canoloesol (a chynharach?) fwy neu lai. Fodd bynnag, ymddengys
mai ôl-ganoloesol yw’r datblygiad strimyn i gyd yn Dinas Cross
ac mae’r rhan fwyaf ohono yn dyddio o’r 19eg ganrif a’r
20fed ganrif. Mae bellach yn anheddiad ynddo’i hun ac mae wedi mynd
yn fwy na Dinas a Bryn-henllan. Mae Dinas/Cwm-yr-eglwys yn draeth gwyliau
poblogaidd erbyn hyn, gyda maes carafanau gerllaw.
![BRYN-HENLLAN](images/brynhenllan2.jpg)
Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Bryn-henllan yn
gorwedd ar wastadedd arfordirol goleddol, tonnog sy’n wynebu tua’r
gogledd rhwng tua 40m a 90m uwchben lefel y môr, gyda llethrau serth,
uwch o hyd at 160m i’r de. Mae’n ardal gymhleth o ffermydd
a chaeau, hen bentrefannau a thai modern, a chyfleusterau i dwristiaid.
Tirwedd amaethyddol ydyw yn y bôn ac mae wedi profi newid mawr yn
ystod y blynyddoedd diwethaf gyda llawer o’r ffermydd llai yn cael
eu haddasu at ddefnyddiau eraill. Tir pori wedi’i wella yw’r
defnydd tir amaethyddol bron yn gyfan gwbl, gydag ychydig iawn o dir âr
neu dir garw. Er bod gwyntoedd o Fôr yr Iwerydd yn chwythu dros
y dirwedd hon mae rhannau ohoni yn goediog eu golwg oherwydd y coed niferus
a blannwyd i greu cysgod. Ceir coetir prysgog o goed collddail hefyd a
llethrau serth cymoedd cysgodol. Mae’r caeau yn fach ac yn afreolaidd
eu siâp ar y cyfan, gyda grwpiau o gaeau hir crwm ar siâp
lleiniau yn dyst i’r systemau caeau agored a fodolai gynt. Cloddiau
â wyneb carreg a gwrychoedd yn tyfu arnynt sy’n ffurfio ffiniau.
Mae eu cyflwr yn amrywio, gyda rhai wedi’u cynnal yn dda ac yn ffiniau
cadw stoc, ond mae llawer wedi tyfu’n wyllt ac mae eraill, mewn
lleoliadau sy’n agored i’r tywydd, yn anniben. Mae anheddau
wedi’u hadeiladu ar ddwy ardal graidd, Dinas Cross a Bryn-henllan.
Roedd y rhain yn ddwy ganolfan ar wahân, ond yn sgîl datblygiadau
tai diweddar maent wedi uno. Mae’r defnydd o garreg ddolerit leol
o liw llwydlas neu frown (heb ei rendro â sment) a thoeau o lechi
wedi’u torri â pheiriant yn elfen gyffredin o’r adeiladau
hyˆ n yr adeiladwyd bron bob un ohonynt yn y 19eg ganrif - mae’r
adeiladau hyn yn debyg i’r rhai a geir yn Nhrefdraeth, tua 5km i’r
dwyrain. Ar y tai o ansawdd gwell, rhoddwyd ystyriaeth i’r patrymau
a grëwyd gan liwiau cyferbyniol/cydweddol y garreg, ac mae’r
defnydd o haenau o lechi Cilgerran a/neu gonglfeini calchfaen yn creu
ffurfioldeb nad yw i’w weld yn yr adeiladau llai. Yn Dinas Cross,
mae’r tai hyˆ n, a siop a thafarn, wedi’u trefnu’n
deras. Mae’r rhan fwyaf yn dyddio o ddechrau neu ganol y 19eg ganrif
ac maent wedi’u hadeiladu yn y traddodiad ‘Sioraidd’
cain, er bod i lawer elfen frodorol gref. Ymhlith y tai hyˆ n eraill
mae anheddau sengl deulawr a thair ffenestr fae, y dywedwyd bod rhai ohonynt
wedi’u hadeiladu gan gapteiniaid llong wedi ymddeol, yn yr arddull
‘Sioraidd’ cain. Mae ‘filas’ sengl o ganol yr
20fed ganrif yn gorwedd ar hyd prif ffordd yr A487(T) sy’n rhedeg
drwy Dinas Cross, a saif capel bach o ddechrau’r 19eg ganrif ar
y ffordd i’r dwyrain. Ymddengys bod Bryn-henllan wedi cynnwys sawl
clwstwr bach o adeiladau yn wreiddiol, gan gynnwys un clwstwr o amgylch
capel carreg a adeiladwyd yn 1842. Mae anheddau wedi’u hadeiladu
mewn arddulliau gwahanol, gyda rhai tai deulawr o’r 19eg ganrif
yn yr ardull Sioraidd gain, casgliad o fythynnod unllawr ac iddynt ffrynt
dwbl yn yr arddull frodorol, yn ogystal â thai tair ffenestr fae
fach yn y traddodiad brodorol, yn dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif
fwy na thebyg. Mae pâr o dai rhestredig sy’n dyddio o 1872,
Llwynhendy a Hafod Llwyd, yn y traddodiad Sioraidd, yn nodweddiadol o
anheddau o’r dyddiad hwn a dywedir iddynt gael eu hadeiladu gan
gapteiniaid llong wedi ymddeol. Ymhlith yr adeiladau rhestredig eraill
mae bwthyn, ffermdy a chapel, sydd yn gyffredinol yn adlewyrchu’r
math hyˆ n o stoc adeiladau yn yr ardal. Mae rhesi bach o adeiladau
fferm cerrig sydd ynghlwm wrth rai o’r anheddau hyn neu’n
gysylltiedig â hwy yn awgrymu tarddiad amaethyddol y tai, ond mae’r
rhan fwyaf o’r adeiladau fferm hyn wedi cael eu haddasu at ddefnydd
nad yw’n ymwneud ag amaethyddiaeth neu wedi’u gadael yn wag.
Mae datblygiadau tai o ganol yr 20fed ganrif, diwedd yr 20fed ganrif a’r
rhai presennol, naill ai mewn ystadau bach neu’n anheddau unigol
mewn amrywiaeth o arddulliau a deunyddiau wedi uno Dinas Cross a Bryn-henllan
yn un pentref. Yn yr ardal hon ceir olion eglwys plwyf ganoloesol yng
Nghwm-yr-Eglwys ac adeiladau o’r 19eg ganrif ac adeiladau eraill
ym Mwllgwaelod. Yma, fel mewn lleoliadau eraill sy’n agored i’r
tywydd. Mae haen o sment wedi cael ei gosod ar y toeau llechi. Mae ffermydd
yn yr ardal yn gymharol fach, gyda thai wedi’u hadeiladu yn yr un
traddodiad â’r rhai a ddisgrifir uchod. Mae adeiladau fferm
hyˆ n wedi’u hadeiladu o garreg ac yn cynnwys un neu ddwy o
resi yn unig. Mae llawer wedi cael eu haddas at ddefnydd nad yw’n
ymwneud ag amaethyddiaeth. Mae’r ffaith hon a’r ychydig enghreifftiau
o adeiladau amaethyddol o ddur, concrit ac asbestos o’r 20fed ganrif
yn awgrymu bod ffermio mewn llawer o ffermydd wedi dod i ben erbyn hyn.
Ceir hefyd ysgol, maes chwaraeon, maes carafanau a meysydd parcio i dwristiaid.
Ar wahân i adfail eglwys y plwyf yng Nghwm-yr-Eglwys, nid yw safleoedd
archeolegol yn nodwedd gref o’r dirwedd hon. Ymhlith yr archeoleg
mae meini hir o’r oes efydd, mynwent gistfeddau, ffynnon sanctaidd
ac odyn calch.
Nid yw Bryn-henllan yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol
sy’n hawdd i’w diffinio, ac eithrio ar ei hymyl ogleddol lle
mae’r cyd-ffinio â chlogwyni neu dirwedd unigryw Ynys Fach
Llyffan Gawr. I’r cyfeiriadau eraill mae’r ardal hon yn ymdoddi
i’r ardaloedd cyfagos, ac nid oes ffiniau pendant.
Ffynonellau: Charles 1992; map degwm Plwyf Dinas
Parish 1841; Howells 1977; Ludlow 2002; Swyddfa Gofnodion Sir Benfro D/CT/26
(1839); Llyfrgell Genedlaethol Cymru Map 5 Llwyngwair; Rees 1932
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221 |