Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Aberdaugleddau >

LLECYN ARFORDIROL MONK HAVEN I GELLISWICK

CYFEIRNOD GRID: SM 821063
ARDAL MEWN HECTARAU: 65

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad sy’n cynnwys llecyn arfordirol cul ym mhlwyfi Llanismel a Herbrandston. Yn hanesyddol, bu’r llecyn arfordirol hwn yn dir ymylol erioed, y tu hwnt i ffiniau tir amaethyddol. Yn y gorffennol, fe’i defnyddiwyd fel tir pori garw, ond ei brif swyddogaeth erbyn hyn yw gweithredu fel coridor ar gyfer Llwybr Arfordir Sir Benfro, wedi’i leoli rhwng tir amaethyddol a ffiniau clogwyni’r môr. Fodd bynnag, mae’n cynnwys sawl cyn safle anheddu gan gynnwys sawl caer bentir o’r oes haearn. Nid oes llawer o leoliadau sy’n addas ar gyfer glanio cychod bach ar hyd y rhan hon o glogwyn arfordirol. Ceir eithriadau yn Monk Haven a Sandy Haven – ymdrinnir â Sandy Haven mewn ardal ar wahân. Monk Haven oedd man glanio Llanismel. Hefyd, lleolir sefydliadau sy’n ymwneud â morwriaeth ac amddiffyn o fewn y llecyn arfordirol hwn. Mae goleudai wedi’u marcio ar fapiau ystad ddiwedd y 18fed ganrif ar Little Castle Head, ond yn y 1870au ac o ganol i ddiwedd yr 20fed ganrif oedd prif gyfnodau’r adeiladu. Yn yr ardal hon, cynhwysir caer Stack Rock a adeiladwyd yn wreiddiol fel twr tri gwn yn 1850-52, a ehangwyd yn gaer ym 1871, ac a gâi ei defnyddio hyd at ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, adeiladwyd nifer o sefydliadau milwrol. Cafwyd mwyngloddio a chwarela hefyd ar y llecyn arfordirol hwn. Gellir gweld chwareli bach o hyd, ond nid oes golwg o’r mwyngloddiau copr a nodir ar fapiau’r 18fed ganrif. Mae glanfeydd sy’n dyddio o’r 20fed ganrif o derfynfeydd tanceri olew wedi’u hadeiladu hefyd yn rhan ddwyreiniol yr ardal.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae’r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn cynnwys llecyn tua 8 km o hyd o glogwyn arfordirol uchel o garreg galed wedi’i orchuddio â band cul o rostir, prysgwydd a thir garw. Rhed Llwybr Arfordir Sir Benfro ar hyd yr ardal gyfan hon. Er mai llecyn cul iawn o dir ydyw, weithiau dim ond metr neu ddau o led, mae’r ardal hon yn wahanol iawn i’r tir amaethyddol a/neu’r safleoedd diwydiannol sy’n cydffinio â hi. Am rannau maith, nid oes cysylltiad rhwng y caeau amaethyddol a’r/neu’r safleoedd diwydiannol a’r llecyn arfordirol. Yn ei hanfod, nodweddir tirwedd hanesyddol y llecyn arfordirol gan ei safleoedd archeolegol niferus ac amrywiol. Y rhai amlycaf a phwysicaf o’r rhain yw sawl caer bentir o’r oes haearn, megis Great Castle Head a Little Castle Head. Yn Great Castle Head ceir yr unig adeilad preswyliedig yn yr ardal hon sef goleudy a’i annedd. Mae marcwyr morwriaeth, hen a modern i’w gweld yn Little Castle Head ac yn yr ardal gyfagos. Mae safleoedd eraill yn cynnwys sawl sefydliad amddiffyn arfordirol o’r Ail Ryfel Byd, y mwyaf nodedig yw magnelfeydd gynnau a magnelfeydd chwiloleuadau, safleoedd chwareli a mwyngloddiau, nifer o weithfeydd carreg fflint cynhanesyddol a mynwent ganoloesol gynnar ger Llanismel. Mae’r magnelfeydd gynnau, yn arbennig Soldier’s Rock yn elfennau arbennig o weledol o’r dirwedd hanesyddol. Mae’r gaer alltraeth amlwg hon o’r 19eg ganrif sef Stack Rock wedi’i chynnwys yn yr ardal hon.

Mae hon yn ardal nodedig a diffiniedig iawn. Mae ganddi ffiniau ag ochrau caled â’r tir fferm a’r safleoedd diwydiannol a leolir i gyfeiriad y tir.

Ffynonellau: Crane 1994; Murphy and Allen 1998; Hague 1994