Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Aberdaugleddau >

WATERSTON – HONEYBOROUGH

CYFEIRNOD GRID: SM 950057
ARDAL MEWN HECTARAU: 377

Cefndir Hanesyddol
Lleolir yr ardal hon ar ochr ogleddol dyfrffordd Aberdaugleddau, ym mhlwyf Llanstadwell. Mae’n cynnwys dwy brif tirddaliadaeth: Waterston a Honeyborough. Roedd maenor ganoloesol Waterston yn arglwyddiaeth mesne o Arglwyddiaeth Haverford, a gynrychiolir erbyn hyn gan bentref Waterston. Roedd Maenor Honeyborough yn cynnwys un ffi marchog a ddaliwyd yn uniongyrchol gan Ieirll Penfro fel eu rhan hwy o Arglwyddiaeth Haverford, a 2½ gweddgyfair o Farwniaeth Castell Walwyn ‘fel gwrogaeth’. Lleolwyd ei ganolfan faenoraidd ar fferm Great Honeyborough, a leolir mewn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol gyfagos. Tua 1600, rhannwyd y faenor hon rhwng y teuluoedd Perrot, Bowen a Scourfield, ac yna gan y Batemans a’r Taskers. Ar ôl 1810, tenantiaid ffermio oedd yn byw yno. Mae rhan o’r ardal hon yn cynnwys hen gaeau agored Great Honeyborough a ddangosir fel rhai gweithredol ar y mapiau ystad o’r 18fed ganrif. Hefyd, dangosir llain-gaeau amgaeëdig, tystiolaeth o hen system caeau agored yn Little Honeyborough ac yn Waterston ar fapiau degwm. Mae’n debygol y defnyddid caeau agored yn y lleoliadau hyn hyd at y 18fed ganrif yn Great Honeyborough. Ar y mapiau degwm, dangosir Little Honeyborough fel pentrefan a Waterston fel pentref bach cnewyllol. Ers yr arolwg degwm, mae Neyland wedi ehangu ar draws hen gaeau agored Great Honeyborough gan ymgorffori’r pentref i mewn i’r dref. Yr unig beth sydd ar ôl yw band cul o gaeau i’r gogledd o’r dref. Yn yr 20fed ganrif, diflannodd y caeau i’r de o bentref Waterston yn sgîl y gwaith adeiladu purfa olew.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae’r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol fach hon yn cynnwys gweddillion llain-gaeau amgaeëdig sy’n goroesi i’r gogledd o Neyland ac i’r gogledd o burfa olew fawr, ynghyd â phentref Waterston a phentrefan Little Honeyborough. Nodweddir tirlun amaethyddol yr ardal hon gan llain-gaeau amgaeëdig (caeau agored gynt). Maent wedi’u cadw orau i’r gogledd ac i’r dwyrain o Neyland ac i’r gogledd o Waterston. Cloddiau o bridd â gwrychoedd arnynt yw’r ffiniau. Yn gyffredinol, mae’r gwrychoedd mewn cyflwr da, ond mae rhai wedi tyfu’n wyllt ac mae rhai wedi dechrau tyfu’n wyllt. Ceir rhai coed, ond ac eithrio ar y llethrau mwyaf serth, nid yw coetir yn un o nodweddion cryf yr ardal hon. Porfa wedi’i gwella gydag ychydig o dir âr yw’r defnydd tir yn bennaf. Mae Waterston yn bentref cnewyllol gyda thai deulawr wedi’u codi o gerrig o’r 19eg ganrif yn bennaf, a thai teras yn y traddodiad brodorol yn bennaf. Mae anheddau modern yma hefyd. Lleolir purfa olew union i ochr ddeheuol y pentref, a ceir ystad ddiwydiannol i’r gorllewin. Mae Little Honeyborough yn anheddiad bach iawn yn cynnwys tai deulawr o’r 19eg ganrif yn y traddodiad cynhenid, bythynnod unllawr o’r 19eg ganrif a chapel. Mae’r ychydig ffermydd sydd wedi’u gwasgaru ar draws yr ardal ac o fewn y pentref a’r pentrefan yn gymharol fach, gyda thai o’r 19eg ganrif, un neu ddau fath o adeilad allan o garreg o’r 19eg ganrif a chasgliad o adeiladau allan modern. Mae safleoedd archeolegol yn gyfyngedig ac maent yn cynnwys maen hir o’r oes efydd, tomen wedi’i llosgi o’r oes efydd a rhai chwareli bach ôl-ganoloesol. Ni cheir adeiladau rhestredig.

I’r gorllewin, i’r dwyrain ac i’r de o’r burfa olew a thref Neyland, mae gan yr ardal hon ffiniau wedi’u diffinio’n glir. I’r gogledd, nid yw diffiniad y ffin yn amlwg, ac mae’r ardal hon yn uno’n raddol â’i chymydog.

Ffynonellau: Jones 1996; Map degwm Plwyf Llanstadwell 1849; Map degwm Trydydd Rhan Llanstadwell 1830; LlGC PICTON CASTLE CYF 1; LlGC MORGAN-RICHARDSON ADNAU RHIF 1; Owen 1911; Owen 1918