Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Aberdaugleddau >

LLANGWM

CYFEIRNOD GRID: SM 991093
ARDAL MEWN HECTARAU: 62

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fach sydd wedi’i lleoli yn rhannau uchaf dyfrffordd Aberdaugleddau, yn cynnwys anheddiad Llangwm. Fe’i lleolir ym mhlwyf Llangwm sydd, mae’n debyg yn gydamserol â mesne canoloesol arglwyddiaeth Llangwm. Roedd yn ddaliadaeth i’r de Vales tan iddo ddod i feddiant un o deulu’r Roche, Gilbert de la Roche tua diwedd y 13eg ganrif. Bu ei berthynas gydag Arglwyddiaeth Haverford, lle lleolir y ddaliadaeth, yn destun anghydfod erioed. Yn ddiweddarach, aeth y faenor, trwy etifeddiaeth, i’r Longuevilles, y Ferrers ac Iarll Essex yn yr 16eg ganrif. Ni cheir tystiolaeth am leoliad canolfan y faenor, ond tua 1600, roedd gan Langwm, chwedl George Owen ‘goedwigoedd yn perthyn i wahanol fonheddwyr a oedd yn ddigonol i ddarparu tanwydd ar gyfer eu tai a rhai coed ar gyfer eu hadeiladau’, gyda’r mwyafrif ohonynt, mae’n debyg y tu allan i’r ardal hon. Ymddengys fod y dreflan ganoloesol, fel yr anheddiad presennol wedi’i chlystyru o amgylch eglwys y plwyf, na restrwyd yn 1291 a hwyrach iddi gael ei sefydlu ym mlynyddoedd cynnar y 14eg ganrif. Erbyn canol y 19eg ganrif, ar y map degwm, roedd pentref Llangwm yn cynnwys cnewyllyn bach wedi’i ganoli o gwmpas eglwys y plwyf. Amgylchynwyd y pentref gan gaeau hir a chul sef hen system o gaeau agored a amgaewyd. Cafwyd ail gnewyllyn o anheddiadau yn Black Tar. Yn ystod ail hanner y 19eg ganrif ac yn gynnar yn ystod yr 20fed ganrif, ehangodd y pentref yn sylweddol, yn arbennig o amgylch Caer Llangwm, er mwyn gwasanaethu diwydiant mwyngloddio glo’r ardal a oedd yn tyfu. Mae datblygiadau tai o gyfnod diweddarach yn yr 20fed ganrif a’r 21ain ganrif wedi arwain at dwf pellach y pentref.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Yn ei hanfod, mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Llangwm yn cynnwys pentref Llangwm a Black Tar, y blaendraeth a’r caeau cyfagos hynny sydd wedi cadw nodweddion llain-gaeau – gweddillion hen gaeau agored Llangwm. Canolir craidd hanesyddol y pentref ar eglwys blwyf ganoloesol St Sierôm sy’n rhestredig â Gradd B a llain neu sgwâr y pentref. Ceir bythynnod a thai o’r 19eg ganrif wedi’u clystyru o amgylch y llain, gyda’r mwyafrif o enghreifftiau yn nhraddodiad brodorol yr ardal – wedi’u codi o gerrig a’u rendro â choncrid, ag iddynt doeau llechi a â ffenestr grom yn bennaf. Saif capel o’r 19eg ganrif ar un ochr y llain, a rhydd adeiladau ffermydd a godwyd o gerrig a leolir yma ac acw, ymdeimlad amaethyddol i’r anheddiad. Mae’r tai sydd ar y strydoedd a’r dynesfeydd i’r maes ac yn agos i Gaer Llangwm wedi’u hadeiladu mewn amrywiaeth o arddulliau, gan gynnwys tai teras o gerrig o ddiwedd y 19eg ganrif a thai sengl o’r 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif. Lleolir ail gapel oddi wrth graidd hanesyddol y pentref. Mae tai modern yn cynnwys ystadau tai bach wedi’i lleoli ar gyrion y pentref i’r gogledd, i’r de ac i’r dwyrain. Mae’r defnydd o frics mewn teras bach ddiwedd y 19eg ganrif yng Nghaer Edward yn anghyffredin ar gyfer y rhan hon o Sir Benfro. Mae sawl safle sy’n addas i lanio a phwyntiau mynediad i’r blaendraeth lleidiog a charegog, ond dim llawer o ran ceiau neu lanfeydd ffurfiol. Nid oes prin ddim ar y blaendraeth sy’n dangos bod Llangwm wedi bod yn borthladd pwysig ar gyfer allforio glo. Mae cyfleusterau ar gyfer twristiaeth a gweithgareddau hamdden, yn arbennig chwaraeon dwr, yn elfen o’r ardal, gyda pharc carafannau, meysydd parcio a thoiledau cyhoeddus ar gael. Mae cloddiau wedi’u gorchuddio â gwrychoedd yn amgylchynu sawl cae bychan yn agos i’r pentref yn yr ardal hon. Yn gyffredinol, mae gwrychoedd mewn cyflwr da, er bod rhai yn dechrau tyfu’n wyllt. Defnyddir y tir gan fwyaf, fel porfa wedi’i gwella. Nid yw archeoleg yn elfen gref o’r dirwedd hanesyddol, ond mae’n cynnwys safle melin a safle anheddiad canoloesol.

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Llangwm wedi’i diffinio’n gymharol dda. Mae ei natur ddatblygedig yn gwrthgyferbynnu â’r ffermydd a chaeau cyfagos. Fodd bynnag, nid yw’n hawdd diffinio’r union ffin sydd rhwng caeau’r ardal hon a chaeau’r ardaloedd cyffiniol. Yma, ceir rhanbarth o newid yn hytrach na ffin bendant.

Ffynonellau: Map degwm Plwyf Llangwm 1841; Ludlow 1998; Owen 1897; Rees 1975