Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Aberdaugleddau >

LIDDESTON

CYFEIRNOD GRID: SM 885063
ARDAL MEWN HECTARAU: 208

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad wedi’i lleoli ar lan ogleddol dyfrffordd Aberdaugleddau sy’n gorwedd bron yn gyfan gwbl o fewn hen blwyf eglwysig Hubberston, ond sydd bellach yn rhannol o fewn plwyf Aberdaugleddau. Mae wedi’i lleoli ym Maenor ganoloesol Pill, sy’n rhan o Faenor fwy Pill a Roch a grëwyd rhwng 1100 a 1130, y bu ei berthynas ag Arglwyddiaeth Haverford, y’i lleolwyd ynddi, yn destun anghydfod erioed. Roedd Pill yn faenor fawr a phwysig, a oedd yn amgylchynu tref fodern Aberdaugleddau. Rhoddodd Arglwyddi olynol y Faenor lawer o’r tir o fewn yr ardal hon i Briordy Tironaidd Pill sy’n dyddio o ddiwedd y 12fed ganrif, ac mae pwll pysgod neu bwll melin y priordy yn gorwedd yma. Mae aneddiadau’r ardal hon yn cynnwys dwy fferm fawr neu ddau bentrefan mawr. Roedd y cyntaf, Liddeston, yn dreflan ganoloesol a roddwyd i Briordy Pill, fel ‘trefgordd Liddeston’, yng nghanol y 13eg ganrif. Trosglwyddwyd y dreflan, gyda’r priordy, i ddwylo’r teulu Barlow o Slebets. Ystyriwyd bod yr ail bentrefan, Gelliswick, a’i gwningar, yn gysylltiedig â’r priordy ers blynyddoedd. Fodd bynnag, ni chofnodwyd enw’r lle tan 1539 ac ymddengys ei fod yn deillio o’r teulu Gely, a ddarparodd reithorion Hubberston yn y 15fed ganrif. Nid oes tystiolaeth bod ei felin wynt yn gysylltiedig â Phriordy Pill. Roedd y teulu Barrett, prif dirfeddianwyr yr ardal, yn berchen arno yn y 16eg ganrif, ac yn ddiweddarach y Philipps o Gastell Pictwn. Darlunnir dwy dirwedd nodedig ar fapiau ystadau canol y 18fed ganrif. Dengys y mapiau hyn y pentrefan yn Liddeston wedi’i amgylchynu gan lain-gaeau caeëdig, a oedd yn amlwg wedi esblygu o system caeau agored. Nis gwyddys y dyddiad amgáu, ond mae’n debygol y byddai yn yr 17eg neu’r 18fed ganrif. Mewn cyferbyniad, dengys mapiau fod gan dirwedd yr ystad gaeau mawr sydd wedi’u canoli ar blasty ôl-ganoloesol Gelliswick gyda’i erddi a’i berllannau. Heblaw am ddiraddiad hanfodion tirwedd hanesyddol unigol, nid yw’r dirwedd gyffredinol o amgylch Liddeston wedi newid yn ddramatig. Fodd bynnag, mae Gelliswick wedi newid yn fawr. Adeiladwyd purfa olew ar draws llawer o’i dir blaenorol ar ddiwedd y 1950au, dymchwelwyd y plasty a’r adeiladau cysylltiedig ym 1981, ac mae’r tir na ddefnyddiwyd ar gyfer y burfa bellach yn gwrs golff.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae hon yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol weddol fach sy’n gorwedd i’r gorllewin a’r gogledd o dref Aberdaugleddau ac i’r dwyrain o burfa olew sydd wedi’i datgymalu. Mae ei rhan ddeheuol yn ymestyn i’r môr ym Mae Gelliswick. I’r gogledd mae’n cynnwys ffermdir tonnog rhwng 30m a 60m uwchben lefel y môr. Yn ei hanfod, mae’n ardal gymysg o dir amaethyddol ac ymyl trefol. I’r gogledd o’r dref, mae’r tir amaethyddol wedi’i gadw orau. Yma, mae ffermydd Liddeston a Golden Grove wedi’u lleoli o fewn caeau rheolaidd bach. Tir pori wedi’i gwella yw’r prif ddefnydd tir. Mae’r ffiniau yn cynnwys gwrychoedd ar gloddiau pridd. Mae llawer o’r gwrychoedd wedi dechrau tyfu’n wyllt ac mae sawl un wedi mynd rhwng y cwn a’r brain. Yn union i’r gogledd a’r gogledd-ddwyrain o’r dref, ni ddefnyddir y caeau bellach at ddibenion amaethyddol. Ceir rhes o anheddau o’r 19eg a’r 20fed ganrif, maes carafannau a ffordd fynediad i lanfa purfa olew ym Mae Gelliswick. Lleolir cwrs golff ar lawer o’r tir sy’n weddill. Lleolir cronfeydd dwr, planhigfa a mastiau cyfathrebu yn yr ardal hon. Dymchwelwyd plasty ac adeiladau cysylltiedig Gelliswick ym 1981. I’r dwyrain, mae’r ardal hon yn cynnwys llethrau coediog ar hyd cloddiau dwyreiniol Hubberston Pill. Nid yw safleoedd archeolegol yn nodweddu’r ardal yn fawr, ond maent yn cynnwys odynnau calch yn Gelliswick a Hubberston Pill, olion melin wynt, cwningar a mannau canfod pethau cynhanesyddol. Ni cheir unrhyw adeiladau rhestredig.

I’r gorllewin, diffinnir yr ardal hon gan burfa olew sydd bellach wedi’i datgymalu, i’r de gan dref Aberdaugleddau ac i’r dwyrain gan Hubberston Pill. Felly, ni cheir ffin ymyl caled i’r gogledd a’r gogledd-orllewin, er y ceir gwahaniaeth gweddol amlwg rhwng yr ardal hon a’r caeau i’r gogledd a’r gogledd-orllewin.

Ffynonellau: Jones 1996; Map degwm Plwyf Hubberston 1840; Ludlow 2002; LlGC PICTON CASTLE CYFROL 1; Owen 1897; Pritchard 1907; Roberts 1917