Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Aberdaugleddau >

COSHESTON

CYFEIRNOD GRID: SN 005037
ARDAL MEWN HECTARAU: 166

Cefndir Hanesyddol
Mae’r ardal gymeriad fach hon, sy’n cynnwys anheddiad a system llain-gaeau caeëdig Cosheston, yn gorwedd ym mhen Cosheston Pill. Fe’i lleolir o fewn plwyf a maenor ganoloesol Cosheston. Roedd maenor Cosheston, a gofnodwyd yn y 13eg ganrif, yn ffi gwarchod castell Arglwyddiaeth Penfro, gyda rhent gward yn cael ei asesu yn 8s ym 1307. Roedd yn cynnwys 2 ffi marchog, a ddaliwyd gan Walter Benegar ac eraill, ym 1247, a chan y teulu Wogan o Bictwn a Boulston ym 1324. Caffaelodd y teulu Rossant ‘ddaliad o’r enw Neuadd Cosheston’ (‘tenement called the Hall of Cosheston’) ym 1556 ac fe’i haseswyd ar gyfer dwy aelwyd ym 1670. Nid oedd y neuadd ar safle Neuadd bresennol Cosheston, a sefydlwyd mewn ardal gymeriad gyfagos yn y 19eg ganrif o dan y teulu Allen o Cresselly. Mae lleiniau caeëdig y system caeau agored flaenorol a oedd yn gysylltiedig â’r dreflan ganoloesol yn amgylchynu anheddiad Cosheston, sydd bellach yn ymestyn i’r dwyrain o eglwys y plwyf. Pan arolygwyd y map degwm ar gyfer plwyf Cosheston ym 1841, roedd holl brif elfennau y dirwedd hanesyddol bresennol yn eu lle. Dangosir y pentref fel anheddiad cnewyllol unionlin a amgylchynir gan system llain-gaeau gaeëdig helaeth. Dros y 160 blynedd diwethaf, newidiwyd y llain-gaeau y tu allan i’r ardal gymeriad hon yn gaeau mawr, rheolaidd. Mae’r broses hon yn parhau.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 


Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Ardal gymeriad tirwedd hanesyddol fach yw hon sydd wedi ei chanoli ar bentref Cosheston, a’i lleoli ar rannau uchaf Cosheston Pill ar dir tonnog sy’n amrywio o ran uchder o lefel y môr i dros 60m. Mae’r pentref yn cynnwys clwstwr o anheddau wedi’u gwasgaru ar hyd stryd sydd wedi’i alinio o’r dwyrain i’r gorllewin, yn hytrach nag anheddiad cnewyllol tynn. Ceir amrywiaeth o arddulliau tai yn y pentref. Mae’r tai hyn yn rhai deulawr sy’n dyddio o’r 19eg ganrif, wedi’u hadeiladu o garreg, sy’n weddol fach yn gyffredinol ac yn y traddodiad Sioraidd brodorol, ond gydag ychydig o enghreifftiau mwy yn yr arddull Sioraidd gain. Mae tri o’r tai yn rhai rhestredig Gradd II. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn dai ar wahân, ond mae terasau byr yno hefyd. Mae tai unigol o ddiwedd yr 20fed ganrif yn gorwedd ymhlith yr anheddau hyn. Lleolir datblygiadau tai modern llai yn y pentref, ac ar ymylon y pentref. Disodlwyd swyddogaeth amaethyddol flaenorol y pentref gan swyddogaeth breswyl. Dangosir hyn yn adeiladau allan ffermydd o’r 19eg ganrif sydd wedi’u hadeiladu o garreg sydd wedi’u troi’n anheddau. Lleolir eglwys ganoloesol restredig Gradd II San Mihangel (gyda chroes restredig Gradd II), y rheithordy a’r ysgol ym mhen gorllewinol y pentref ac yn ôl pob tebyg, maent yn arwydd o’i graidd hanesyddol. Mae tai o’r 20fed ganrif wedi’u gwasgaru’n ddwys, gydag ychydig o anheddau hyn sydd wedi’u moderneiddio, yn gorwedd i’r de o’r pentref ar ochr arall Cosheston Pill. Mae tirwedd o lain-gaeau cul yn amgylchynu’r pentref. Gwrychoedd ar gloddiau yw’r prif fath o ffin. Mae’r rhan fwyaf o’r caeau o dan dir pori wedi’i wella. Nid oes llawer o safleoedd archeolegol ac nid ydynt yn un o hanfodion pwysig y dirwedd hanesyddol.

Mae pentref Cosheston a’i system llain-gaeau gaeëdig yn darparu ardal gymeriad tirwedd hanesyddol nodedig, ond un sydd â ffiniau gweddol amwys. Felly, mae parth o newid rhwng yr ardal hon a’r ardaloedd cyfagos, yn hytrach na ffin ymyl caled.

Ffynonellau: Map degwm Plwyf Cosheston 1841; Jones 1996; Ludlow 1998; Owen 1918; LlGC MAP 7529; Walker 1950