Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Aberdaugleddau >

CAERIW, BRYNCWTYN A NASH

CYFEIRNOD GRID: SM 995035
ARDAL MEWN HECTARAU: 1986

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fawr yn gorwedd i’r de o Ddyfrffordd Aberdaugleddau. Mae’n cynnwys plwyfi eglwysig y Santes Fair Penfro, Cosheston, Monkton, Nash ac Upton, yr oedd pob un ohonynt yn gorwedd o fewn Arglwyddiaeth ganoloesol Penfro, a phlwyf Caeriw, o Farwniaeth ganoloesol Caeriw. Gellir nodi’r rhan fwyaf o’r ffermydd a’r tirddaliadaethau presennol gyda maenorau canoloesol, a oedd, fodd bynnag, yn agored i broses gymhleth o rannu ac is-enffeodaeth yn dilyn chwalu Iarllaeth Penfro ym 1247. Roedd y rhan o blwyf y Santes Fair Penfro sydd wedi’i lleoli yn yr ardal gymeriad hon unwaith yn gorwedd o fewn Maenor Kingswood with Golden, a oedd yn faenor ddemên yn arglwyddiaeth Penfro. Yma, cofnodir defnydd o dir âr, mewn cofnodion manwl o’r 14eg a’r 15fed ganrif, gyda gwenith, ffa, pys, haidd a cheirch. Fodd bynnag, cofnodir gweirglodd-dir, defaid a gwlân hefyd, yn ogystal ag elw o brosesu brethyn – sefydlwyd dwy felin bannu yma yn ystod y 15fed ganrif. Yn ddiweddarach yn y cyfnod ôl-ganoloesol, daeth y faenor yn rhan o ystad Bush. Bangeston, sydd hefyd ym mhlwyf y Santes Fair, yw’r ‘Benegareston’ a oedd yn cynnwys 1/10fed o ffi marchog a ddaliwyd gan yr arglwyddiaeth, gan John Beneger ym 1324. Cofnodwyd capel yn Upton gan Gerallt Gymro tua 1200, ac fel arfer roedd yn israddol i blwyf Nash. Roedd Maenor Upton yn ffi gwarchod castell Arglwyddiaeth Penfro, ac unodd â Maenor Nash erbyn y 14eg ganrif o dan ei harglwyddiaeth denantiaid, y teulu Malefant, a adeiladodd castell bach o gerrig yn Upton. Roedd Maenor Upton a Nash wedi’i throsglwyddo i’r teulu Bowen dylanwadol erbyn yr 16eg ganrif. Roedd maenor Cosheston, a gofnodwyd yn y 13eg ganrif, yn ffi gwarchod castell arall, a oedd yn cynnwys 2 ffi marchog a ddaliwyd gan y teulu Wogan o Pictwn a Boulston ym 1324. Mae’r ardal yn cynnwys rhan fach o blwyf Monkton, a ddaliwyd gan Fenedictiaid Priordy Monkton, Penfro. Cofnodwyd treflannau hefyd yn Brotherhill, Mayeston a Paskeston rhwng y 13eg ganrif a’r 16eg ganrif. Ymddengys nad yw’r berchenogaeth amrywiol yn cael eu hadlewyrchu yn y trefniadau deiliadol, ac mae patrwm unffurf o gaeau mawr, caeëdig, afreolaidd yn bodoli, gydag ychydig o dystiolaeth o’r systemau caeau agored blaenorol. Ymddengys fod rhywfaint o’r clostir wedi’i sefydlu dros goetir blaenorol – cynhwysir Upton a Nash yn rhestr George Owen o goedwigoedd mawr Sir Benfro tua 1601. Fodd bynnag, mae rhan ddwyreiniol yr ardal, o fewn plwyf a Barwniaeth ganoloesol Caeriw, yn dangos patrwm ychydig yn wahanol. Gosodir yr ardal hon, a aferai fod yn rhan o ddemên Caeriw, mewn system o gaeau mawr, rheolaidd. Gellid priodoli’r broses o greu rhai o’r clostiroedd hyn i Syr John Perrot, arglwydd o’r 16eg ganrif, am iddynt gael eu cofnodi mewn arolwg ym 1592 yn dilyn ei atentiad i’r farwniaeth. Roedd rhywfaint o is-rannu wedi digwydd erbyn yr arolwg degwm ym 1839. Mae capwt y farwniaeth, yng Nghastell Caeriw, yn gorwedd o fewn yr ardal hon. Ailadeiladwyd y castell yn helaeth o dan Perrot ar ddiwedd yr 16eg ganrif, ac fe’i gadawyd yn ystod yr 17eg ganrif. Mae tarddiadau canoloesol i’r anheddiad yng Nghaeriw, yn yr un modd â Cheriton Caeriw, ‘y dref eglwys’ - anheddiad ar wahân o amgylch eglwys blwyf y Santes Fair – sy’n gorwedd rhywfaint o bellter o’r castell. Roedd Bryncwtyn, a’i safle(oedd) melin ganoloesol, yn cynrychioli 1 ffi marchog a ddelid o’r Farwniaeth, ym 1362, gan y teulu Malefant. Yn ôl pob tebyg, gwreiddiau canoloesol sydd â’r pentref; mae’r plasty, fodd bynnag, yn de novo o’r 18fed ganrif. Mae Welston Court yn cynrychioli cyn ddaliad esgobion Tyddewi. Er bod yr ardal wedi aros yn rhyfeddol o amaethyddol, mae’n cynnwys rhan o flaendraeth dyfrffordd Aberdaugleddau, sydd wedi bod yn bwysig erioed wrth ddiffinio cymeriad yr ardal.Yn arbennig, roedd Jenkins Point yn safle llongau pwysig, gyda fferïau Benton a Chei Lawrenni yn glanio yno yn ystod y cyfnodau cynnar. Mae’r anheddiad amgylchynol o’r 18fed a’r 19eg ganrif wedi creu patrwm nodedig o gaeau bach ac anheddau gwasgaredig niferus. Dengys mapiau ystadau o’r 18fed a’r 19eg ganrif a mapiau degwm tua 1840 fod y dirwedd heddiw eisoes wedi’i sefydlu ar draws yr ardal hon. Dim ond mân newidiadau sydd wedi digwydd ers hynny, fel y cynnydd bach yn nifer yr anheddau ar hyd y ddyfrffordd a sefydlu Neuadd a Pharc Cosheston ar yr hyn a fu’n gaeau.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae hon yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol weddol fawr sy’n gorwedd i’r de o ddyfrffordd Aberdaugleddau ac Afon Gaeriw, i’r dwyrain a’r de o Ddoc Penfro ar dir tonnog sy’n gorwedd yn bennaf rhwng 20m a 50m uwchben lefel y môr. Cynhwysir traethellau, cors a’r blaendraeth creigiog ar hyd dyfrffordd Aberdaugleddau yn yr ardal hon. Mae’n dirwedd amaethyddol o ffermydd mawr, gwasgaredig a chaeau mawr, gweddol reolaidd. Mae nifer fawr o adeiladau rhestredig o fewn yr ardal hon. Mae sawl un ohonynt yn dai pwysig, gan gynnwys adfeilion castell canoloesol Caeriw gyda’i adain enfawr o oes Elisabeth, Castell Upton gyda chapel nas defnyddir wedi’i leoli mewn parcdir a gerddi, Neuadd Cosheston gyda’i pharcdir, Neuadd Bangeston, Cwrt Welston, Ty Milton a’r Rheithordy Caerog yn Cheriton Caeriw. Yn amlwg, cynhwysir ystod eang o ddyddiadau a llawer o fathau o adeiladau o fewn yr adeiladau hyn, o safleoedd amddiffynnol canoloesol i blastai Fictoraidd. Gyda’i gilydd maent yn rhoi naws ystad i leiniau mawr o’r dirwedd, gyda pharcdir, ardaloedd o goetir collddail, porthordai a ffermydd. Yn gyffredinol, mae’r ffermdai ar ffermydd y plastai ac ffermydd arwyddocaol eraill wedi’u hadeiladu o garreg yn y traddodiad Sioraidd a’u rendro â sment gyda thoeau llechi, ac mae amrywiaeth o adeiladau allan sydd wedi’u hadeiladu o gerrig, a drefnir weithiau yn lled-ffurfiol o amgylch buarth, gydag adeiladau amaethyddol mawr gerllaw, yn gysylltiedig â hwy weithiau. Mae ffermdai llai hefyd yn dyddio o’r 19eg ganrif yn bennaf ac o fewn y traddodiad Sioraidd. Mae gwasgariad o dai o’r 19eg a’r 20fed ganrif gerllaw glan y ddyfrffordd, ond Bryncwtyn a Chaeriw yw’r unig anheddiad cnewyllol arwyddocaol. Mae Bryncwtyn yn cynnwys tai brodorol wedi’u hadeiladu o gerrig, bythynnod, tafarndy ac adeiladau fferm, ac mae ystad dai o’r 20fed ganrif ar gyrion Bryncwtyn. Yn y bôn, pentref unionlin yw Caeriw gyda theras o dai o’r 19eg ganrif, simnai ‘Fflemaidd’ – adfeilion ty is-ganoloesol –, capel o’r 19eg ganrif a thai o’r 20fed ganrif. Mae pont Caeriw, a’r Felin Ffrengig (adeilad Sioraidd amlwg, ond a ddisgrifir fel ‘Melin Ffrengig’ ym 1541) a’i hargae, croes uchel ganoloesol, ynghyd â’r castell a’r pentref yn cynrychioli casgliad pwysig o adeiladau o fewn Caeriw. Clwstwr llac o adeiladau yw Cheriton Caeriw, yn cynnwys y Rheithordy Caerog a Hen Gapel Angladdol, sydd yng nghysgod eglwys ganoloesol y Santes Fair. Mae’r eglwys fach yn Nash yn yr ardal hon hefyd, a cholomendy i’r gogledd o Briordy Monkton. Tir pori wedi’i wella ac ychydig o dir âr yw’r defnydd amaethyddol o’r dir. Mae’r caeau yn weddol fawr gyda gwrychoedd ar gloddiau pridd yn ffiniau iddynt. Yn gyffredinol, caiff y gwrychoedd eu cynnal a’u cadw yn dda, ond mae rhai ohonynt wedi tyfu’n wyllt ac mae coed aeddfed yn tyfu mewn rhai ohonynt. Mae’r coed hyn, ynghyd â’r coetir gerllaw rhai o’r tai hyn, yn y parcdir, ar ochrau serth y dyffryn ac ar hyd llethrau’r ddyfrffordd yn ychwanegu at gymeriad ystad yr ardal. Y lonydd troellog cul yw’r prif lwybrau trafnidiaeth, ond mae’r A 477(T) i Ddoc Penfro a’r A 4075 yn torri ar draws yr ardal. Prin fu’r dirywiad o ran hanfodion y dirwedd hanesyddol lle y mae’r ardal hon yn ffinio ag ardaloedd cymeriad trefol Penfro a Doc Penfro. Mae’r safleoedd archeolegol yn amrywio. Y rhai mwyaf niferus yw adeiladau amddiffynnol yr Ail Ryfel Byd – llwyfannau gynnau, magnelfeydd chwilolau ac ati – dilynir hyn gan safleoedd diwydiannol, y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn chwareli ac odynnau calch. Mae odynnau arfordirol a mewndirol yn bresennol. Ymhlith y safleoedd eraill mae ogofâu a mannau canfod arteffactau, meini hirion o’r oes efydd a thomenni wedi’u llosgi o’r oes efydd, safle ffynnon gysegredig a nifer o safleoedd melinau.

Er ei bod wedi’i ddiffinio’n dda yn erbyn dyfrffordd Aberdaugleddau, Maes Awyr Caeriw a dwy ardal drefol Penfro a Doc Penfro, nid oes gan yr ardal gymeriad ddiffiniad da iawn i’r de yn erbyn ardal nad yw wedi’i nodweddu hyd yn hyn. Yma, ceir parth eang o newid yn hytrach na ffin ymyl caled.

Ffynonellau: Austin 1992; Map degwm Plwyf Caeriw 1839; Charles 1992; Map degwm Plwyf Cosheston 1841; Jones 1986; Ludlow 1998; Ludlow a Murphy 1995; Map degwm Plwyf Monkton 1841; Murphy 1987; Map degwm Plwyf Nash 1839; LlGC map 7557 a 7529; Owen 1897; Owen 1918; PRO D/LLC/674; PRO D/BUSH/6/26 a 27; PRO D/ANGLE/115; PRO HDX/198/2; LlGC142296; MAP DEGWM Plwyf y Santes Fair Penfro 1841; Map degwm Plwyf San Mihangel Penfro 1841; Walker 1950; Willis-Bund 1902