Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Aberdaugleddau >

MARTLETWY

CYFEIRNOD GRID: SN 025101
ARDAL MEWN HECTARAU: 825

Cefndir Hanesyddol
Mae’r ardal gymeriad hon, ar rannau uchaf y Cleddau Ddu, wedi’i lleoli o fewn plwyfi Martletwy a Lawrenni, a Barwniaeth ganoloesol Caeriw. Mae’n bosibl i eglwys plwyf Martletwy gael ei sefydlu cyn cyfnod y goncwest. Fe’i rhoddwyd, ynghyd â llain sylweddol o dir yng ngogledd y plwyf i Farchogion Sant Ioan yn Slebets gan Arglwydd y Faenor John FitzRaymond de Martletwy, yn ystod y 12fed ganrif. Roedd gweddill y faenor yn cynnwys un ffi marchog yn 1362 pan y’i daliwyd o dan y farwniaeth. Mae enw’r lle o bosibl yn awgrymu y bu yma unwaith gastell mwnt. Fodd bynnag erbyn diwedd y 16eg ganrif ymddengys mai Landshipping ac nid Martletwy oedd y capwt bellach, o dan ddaliadaeth teulu’r Wyriots. I’w canlyn yn y 17eg ganrif daeth teulu’r Owens a sefydlodd ardd yn arddull y Dadeni y gellir ei chymharu o ran maint ag enghreifftiau mwy adnabyddus yn Lloegr. Gellir gweld cyrtiau a therasau ffurfiol yr ardd o hyd mewn ffotograffau o’r awyr. Roedd yn anghyfannedd erbyn 1789 ac adeiladwyd ty newydd yn Landshipping Ferry. Mae’r rhan fwyaf o’r tir sy’n weddill yn yr ardal hon yn wael o ran ei ansawdd ac yn ôl pob tebyg bu’n dir coetir neu dir pori yn ystod yr Oesoedd Canol, gan na ellir nodi unrhyw bentrefan canoloesol arall. Mae’r dirwedd bresennol yn dyddio o’r cyfnod ôl-ganoloesol. Bu dyfrffordd y Cleddau yn bwysig wrth ddiffinio cymeriad yr ardal hon erioed. Defnyddiwyd y cilfachau a’r mornentydd llanwol fel mannau hwylio anffurfiol drwy gydol y cyfnodau hanesyddol a chynhanesyddol. Sefydlwyd fferi rhwng Cei Landshipping a Phictwn erbyn 1729. Lleolir yr ardal ym maes glo Sir Benfro a chynyddodd y gweithgareddau cludo ac allforio yn sgîl twf y diwydiant mwyngloddio lleol. Dechreuodd y mwyngloddio tua diwedd yr Oesoedd Canol, ond roedd hyn ar raddfa fechan iawn a hwyrach mai mwyngloddio tymhorol ydoedd wedi’i gyflawni gan ffermwyr a gweision fferm hyd at ddiwedd y 18fed ganrif. Ym 1800, sefydlodd Syr Hugh Owen injan stêm gyntaf maes glo Sir Benfro yn Landshipping. Roedd nifer o byllau dan dwr yn aml, a rhoddwyd y gorau i gloddio ym mhwll Garden, Landshipping pan foddwyd y pwll gan y llanw. Adeiladwyd ceiau yn Landshipping Ferry a Landshipping Quay i wasanaethu’r diwydiant glo, ac yn ddi-os roedd yr angen am weithwyr yn y diwydiant glo yn gyfrifol am greu’r patrwm nodedig o gaeau bach ac anheddau gwasgaredig niferus sydd yn nodwedd mor bwysig o’r ardal hon. Roedd y patrwm anheddu a’r patrwm caeau hyn wedi’u sefydlu erbyn yr arolwg degwm tua 1840. Ers hynny mae pentref Martletwy wedi tyfu’n sylweddol, gan guddio’i batrwm canoloesol. Parhaodd gwaith mwyngloddio yn yr ardal tan 1947 pan wladolwyd y diwydiant a chyhoeddwyd nad oedd pyllau glo Sir Benfro yn talu ac fe’u caewyd.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

 

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae gan Martletwy gymeriad tirwedd hanesyddol hynod, a hyn oherwydd ei gaeau bach afreolaidd eu siâp a chlystyrau niferus o goetir collddail ynghyd â thrwch o fythynnod, tai a ffermydd gwasgaredig. O laid a chorsydd dyfrffordd Aberdaugleddau, mae’r ardal hon yn codi’n raddol mewn cyfres o fryniau crwn a dyffrynnoedd cysgodol i uchder o 70m a throsodd uwchlaw lefel y môr. Defnyddir y tir yn bennaf fel tir pori, gyda’r rhan fwyaf ohono yn dir wedi’i wella, er y ceir mannau o dir brwynog mwy bras ynghyd â thir âr. Mae’r caeau yn fach ar gyfer y rhan hon o Sir Benfro ac wedi’u rhannu gan wrthgloddiau â gwrychoedd. Mae nifer o’r gwrychoedd wedi tyfu’n wyllt ac ynddynt mae coed bach yn tyfu. Mae’r coed hyn ynghyd â’r coetir collddail a phlanhigfeydd coniffer bach yn rhoi naws goediog i lawer o’r dirwedd hon. Mae sawl clwstwr rhydd o dai, ac ym mhentref Martletwy mae’r nifer fwyaf o anheddau, yn ogystal ag eglwys y plwyf St Marcellus sy’n dyddio o’r oesoedd canol ac sydd wedi’i rhestru â Gradd II a dau gapel sy’n dyddio o’r 19eg ganrif. Ond ar draws yr ardal gyfan ceir trwch o dai, ffermydd ac adeiladau eraill megis y capel sy’n dyddio o’r 19eg ganrif yn Burnett’s Hill a adnewyddwyd yn ddiweddar. Mae tai hyn yr ardal hon yn gyffredinol yn dyddio o’r 19eg ganrif ac maent wedi’u hadeiladu o garreg, wedi’u rendro â sment ag iddynt doeau o lechi. Dônt mewn amrywiaeth o arddulliau, ond yn gyffredinol maent yn gymharol fach. Mae’r rhan fwyaf wedi’u codi yn yr arddull Sioraidd frodorol, h.y. dau lawr, tair ffenestr grom, gyda ffasâd cymesur a ffenestri cymharol fawr. Fodd bynnag, ceir nifer sylweddol o fythynnod un llawr yn y traddodiad brodorol. Yn gymysg â’r anheddau hyn ceir tai a byngalos mewn amrywiaeth o arddulliau a deunyddiau sy’n dyddio o ganol i ddiwedd yr 20fed ganrif. Mae’r ffermdai wedi’u codi yn yr un traddodiad cyffredinol â’r tai eraill sy’n dyddio o’r 19eg ganrif. Mae gan y rhan fwyaf o’r ffermydd un neu ddwy gyfres o adeiladau allan o garreg ynghyd ag adeiladau amaethyddol mwy diweddar megis ysguboriau haearn gwrymiog crwn ac adeiladau dur a choncrid. Mae maint ac ystod yr adeiladau allan yr un mor fawr ag mewn ardaloedd amaethyddol eraill yn sir Benfro. Ni ddefnyddir nifer o’r adeiladau fferm hyn bellach, naill ai am eu bod yn rhy fach i fod o werth masnachol neu oherwydd bod y tir fferm wedi’i werthu. Mae rhai wedi’u haddasu’n dai, ond mae nifer yn adfeilion neu’n prysur adfeilio. Fodd bynnag, mae gweddillion ty Landshipping, y gerddi a waliau’r gerddi, er eu bod gan fwyaf dan wyneb y ddaear bellach, ymhlith y tirweddau prin hynny yng Nghymru a luniwyd yn ôl arddull y Dadeni, sy’n goroesi. Ar wahân i’r patrwm anheddu a phensaernïaeth (sy’n nodweddiadol), nid yw’r hen ddiwydiant glofaol yn yr ardal hon wedi gadael ei ôl yn amlwg ar y dirwedd hanesyddol hon. Yr eithriad i hyn yw olion y ceiau a’r adeiladau diwydiannol ar hyd y lan yn Landshipping Ferry a Landshipping Quay sy’n dynodi pwysigrwydd blaenorol y lleoliadau hyn ar gyfer allforio glo. Ar wahân i’r safleoedd sy’n gysylltiedig â’r diwydiant glo, prin yw’r safleoedd archeolegol yn yr ardal hon. Maent yn cynnwys tomenni wedi’u llosgi o’r oes efydd, maen hir o’r oes efydd ac odyn galch ar y blaendraeth.

Er bod hon yn ardal dirwedd hanesyddol hynod, nid yw ei ffiniau, ac eithrio’r ffin glir â dyfrffordd Aberdaugleddau yn hawdd i’w diffinio. Felly parth newid yn hytrach na ffin galed sy’n bodoli rhwng yr ardal hon a’i chymdogion.

Ffynonellau: Briggs 1998; Charles 1948; Davies a Nelson 1999; Edwards 1950; Edwards 1963; Hall et al 2000; map degwm Plwyf Lawrenni; Ludlow 1998; map degwm Plwyf Martletwy 1844; LlGC CYFROL 88; Owen 1897